29 Mehefin, 2023
Mae meddyg yn Ysbyty Gwynedd ar fin ymgymryd â Her 3000 Troedfedd Cymru er budd Elusen y Diffoddwyr Tân, fel diolch i'r diffoddwyr tân lleol a gynorthwyodd ei theulu yn dilyn tân yn ei thŷ.
Dros 29-30 Mehefin, bydd y Gastroenterolegydd Ymgynghorol, Dr Rachel Newbould, yn dringo 15 copa uchaf Cymru o fewn 24 awr – 3,700m o ddringo.
Dywedodd: “Mae’n rhywbeth rydw i wastad wedi bod eisiau ei wneud ond oherwydd bod gen i blentyn tair oed, dydw i ddim wedi bod yn crwydro'r mynyddoedd cymaint ag yr hoffwn i.
“Yn ddiweddar, rwyf wedi dechrau cerdded eto gyda ffrind ac wedi bod yn meddwl am y peth am y misoedd diwethaf.
“Ar 4 Mai cawsom dân yn y tŷ. Yn ffodus, nid oedd yn rhy ddramatig ac rydym ar ben ein digon wedi cael gwres a phopty yn ôl yn y tŷ erbyn hyn.
“Nam yn ymwneud â’r Rayburn olew a achosodd y tân. Yn ffodus cafodd ei gyfyngu'n weddol dda, ond roeddem yn defnyddio'r Rayburn ar gyfer y dŵr, y coginio, y gwresogi, popeth.
“Roedd fy mhartner, fy mab a fy mam yn y tŷ ar y pryd... roeddwn i allan gyda ffrindiau, a phrin y bydd hynny'n digwydd gyda bywyd teuluol prysur! Roeddwn i wedi colli llawer o alwadau ar fy ffôn a doeddwn i ddim yn gwybod beth i feddwl, ond yn ffodus daeth y criwiau tân yn gyflym.
“Roedden ni mor ddiolchgar bod popeth yn iawn ac roedd y criw i gyd mor anhygoel gyda fy mab, Jack – fe gafodd y noson orau erioed. Roedden ni'n poeni y byddai'n dioddef trawma oherwydd y mwg a phopeth ond fe wnaethon nhw dynnu ei sylw a'i ddiddanu, a oedd yn help mawr.”
Roedd Dr Newbould a'i theulu yn dymuno rhoi rhywbeth yn ôl i'r diffoddwyr tân a wnaeth eu helpu a chlywodd ei bod yn gallu gwneud hyn trwy Elusen y Diffoddwyr Tân.
Ychwanegodd: “Doeddwn i ddim wedi clywed am yr elusen o’r blaen ond rwy’n meddwl ei bod yn bwysig bod y cyhoedd yn gwybod amdani – mae'n elusen sy'n helpu pobl sy’n ein helpu ni o ddydd i ddydd.”
I gefnogi ymgyrch codi arian Rachel, cliciwch yma