12/04/2023
Mae Nyrs Ymgynghorol o’r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Maelor Wrecsam, wedi derbyn dwy wobr am ei waith ymchwil yn ymwneud â sut i achub bywyd rhywun yn ddiogel mewn damwain car.
Arweiniodd Rob Fenwick, Nyrs Ymgynghorol yn yr Adran Achosion Brys, a Tim Nutbeam, Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Frys, yn Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Prifysgol Plymouth ac Ambiwlans Awyr Dyfnaint, brosiect EXtrication In Trauma (EXIT), er mwyn gwella’r dull sy’n cael ei ddefnyddio wrth achub pobl mewn damwain car, gyda’r nod o leihau marwolaethau byd-eang ac anableddau.
Mae darganfyddiadau’r prosiect EXIT, cyfres o 9 astudiaeth ar ddiogelwch ar y ffyrdd wedi cael eu hymgorffori yng nghanllawiau’r ambiwlans cenedlaethol a’r gwasanaeth tân, ac mae wedi derbyn dwy wobr gan y Rhwydwaith Ymchwil Trawma ac Archwilio (TARN) a Diogelwch ar y Ffyrdd Rhyngwladol y Tywysog Michael.
Dywedodd Rob: "Mae gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd yn un o brif achosion marwolaethau ac anafiadau yn y DU, ac yn dilyn y gwrthdrawiadau hyn bydd nifer o gleifion yn parhau i fod yn sownd yn eu cerbydau.
"Bwriad y dulliau hanesyddol o ofalu a symud cleifion o gerbydau ar ôl gwrthdrawiad oedd cadw'r claf mor llonydd â phosibl ar bob cyfrif. Ond mae'r dull hwn yn arwain at oedi sylweddol, ac nid yw’r claf yn derbyn y gofal gorau posibl mewn modd amserol.
Lleihau anafiadau eilaidd yr asgwrn cefn yw canolbwynt y dull hwn, anaf y gellir ei hosgoi, ond nid yw hyn ar sail tystiolaeth ac fe all gyfrannu at fwy o anafiadau a marwolaethau.
“Dangosodd ein hastudiaethau fod pobl sy’n gaeth i’r cerbyd wedi eu hanafu’n waeth ac yn debygol o farw. Efallai nad oes modd cyfiawnhau’r technegau cywrain hir sy'n seiliedig ar leihau symudiadau o ystyried y gyfradd isel o anafiadau llinyn asgwrn y cefn a'r gyfradd uchel o anafiadau eraill.
“Rydw i wrth fy modd bod y canllawiau sydd wedi deillio o’r prosiect hwn wedi cael eu hymgorffori mewn canllawiau cenedlaethol, ac rydym yn gobeithio gweld effaith fawr er gwell o’r rhai hynny sy’n cael anafiadau difrifol ac yn marw oherwydd gwrthdrawiadau cerbydau modur.”
Mae’r prosiect EXIT, sydd wedi’i hariannu gan Ymddiriedolaeth Diogelwch ar y Ffyrdd, wedi datblygu canllaw sy’n seiliedig ar dystiolaeth o ran rhyddhau cleifion sy’n sownd mewn cerbydau modur i gefnogi timau achub i wneud penderfyniadau deallus ar sail unigolion.
Dywedodd Sonya Hurt, Prif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaeth Diogelwch ar y Ffyrdd: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi ariannu’r prosiect hwn a bod Rob Fenwick a’i gydweithwyr wedi cael eu cydnabod am eu gwaith caled. Bydd yr ymchwil a wnaed gan Rob, Tim a'r tîm yn ddylanwadol o ran lleihau marwolaethau ac anafiadau difrifol ar ffyrdd yn y DU ac mae'n cael ei chydnabod ar lefel genedlaethol a rhyngwladol."