Neidio i'r prif gynnwy

Meddyg Ymgynghorol yn ennill dwy wobr fawreddog Hyfforddwr y Flwyddyn

16/04/2021

Mae meddyg ymgynghorol o Ysbyty Maelor Wrecsam wedi ennill dwy Wobr Hyfforddwr y Flwyddyn gan Goleg Brenhinol yr Obstetregwyr a'r Gynaecolegwyr (RCOG) a gan Hyfforddeion yng Nghymdeithas Obstetreg a Gynaecoleg Cymru.

Enwebwyd Sujeewa Fernando, wrogynaecolegydd ymgynghorol ar gyfer y gwobrau mawreddog gan ei hyfforddeion am ei gymorth a'i anogaeth.  Mae Mr Fernando yn feddyg ymgynghorol mewn Obstetreg, Gynaecoleg ac mae'n arbenigo mewn Wrogynaecoleg, sy'n trin materion gyda llawr y pelfis, cwymp y groth a phroblemau'r bledren mewn merched. 

Dywedodd yr hyfforddeion, a enwebodd Mr Fernando ar gyfer y wobr RCOG: "Rydym yn teimlo bod Mr Fernando yn haeddu gwobr Hyfforddwr y Flwyddyn oherwydd ei fod yn un o'r aelodau tîm mwyaf cefnogol y mae llawer ohonom ni wedi gweithio gyda nhw, ac mae bob amser yn annog unigolion i wneud eu gorau. Bydd yn defnyddio ei brofiadau a'i gyflawniadau diddiwedd i gynnig  cymorth, gan wneud i'r tasgau mwyaf anodd ymddangos yn haws.  Mae'n ased i Obstetreg a Gynaecoleg, ac yn ysbrydoliaeth i bawb."

Mae gwobr Cymdeithas Obstetreg a Gynaecoleg Hyfforddeion Cymru yn cydnabod hyfforddwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol fel goruchwyliwr clinigol neu addysgol. 

Disgrifiodd ei enwebwyr Dr Fernando fel "cefnogol iawn" gan nodi: "Mae'n gwneud i'r staff iau ymlacio ym mhob sefyllfa.  Felly mae gweithio ochr yn ochr ag ef yn tawelu ein meddyliau, ac yn brofiad cefnogol y gellir ei fwynhau."

Dywedodd Mr Fernando: "Roeddwn wedi cyffroi ac mor hapus pan ges i'r newyddion da yma.  Nid y mawredd sy'n bwysig ond sut mae'n gwneud i ni deimlo, ac rwy'n teimlo'n falch, yn hapus, wrth fy modd ac mae wedi creu argraff arnaf.  Dyma gydnabyddiad o waith da a gwaith caled. 

"Rwy'n teimlo'n wylaidd iawn, yn cael fy ngwerthfawrogi ac yn falch iawn fy mod wedi cael fy enwebu. Hoffwn i ddiolch i bob hyfforddai yng Nghymru am fy enwebu gyda datganiadau mor garedig.  

"Mae bod yn hyfforddwr yn bwysig iawn i mi yn ogystal â'm hadran, y bwrdd iechyd a Deoniaeth Cymru, felly mae'r wobr yn dangos faint yr ydym yn gofalu a chefnogi ein hyfforddeion."