Mae meddyg yn Ysbyty Gwynedd yn ysbrydoli merched ifanc i ddod yn genhedlaeth newydd o lawfeddygon.
Mae Mrs Faiza Ali, sy'n Feddyg Arbenigedd Clust, Trwyn a Gwddf (ENT) yn Ysbyty Gwynedd, wedi bod yn ymweld ag ysgolion yn y rhanbarth er mwyn annog y disgyblion i ystyried gyrfa ym maes meddygaeth.
Mae Mrs Ali, a ymunodd ag adran ENT Ysbyty Gwynedd yn 2015 fel Meddyg Iau ac a ddaeth yn Feddyg Arbenigedd yn ddiweddarach yn 2018, yn cymryd rhan ym menter '30 o ysgolion ar gyfer 30 mlynedd o ferched mewn llawfeddygaeth' dan arweiniad fforwm Merched mewn Llawfeddygaeth Coleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr (RCS). Nod y fenter yw codi ymwybyddiaeth ymysg disgyblion ysgol am yrfaoedd ym maes llawfeddygaeth.
"Mae eleni yn nodi 30 mlynedd o fenter Merched mewn Llawfeddygaeth yn RCS a braint o'r mwyaf yw cael ymweld ag ysgolion yng Ngwynedd a Môn i roi'r sesiynau addysgol hyn i'r disgyblion.
"Nid yn unig y mae'r sesiynau'n anelu at wella ymwybyddiaeth am yrfaoedd sydd ar gael ym maes llawfeddygaeth, mae hefyd yn fodd o herio'r rhagdybiaethau sy'n ymwneud â phwy sy'n gallu dod yn llawfeddyg.
"Dewisais innau lawfeddygaeth gan fy mod yn hoffi'r heriau deallusol sydd ynghlwm wrthi a'r canlyniadau cyflym yr ydym yn eu cael. Nid oes dim yn fwy gwerth chweil na rhoi llawdriniaeth a gweld bywyd claf yn gwella bron yn syth, yn y rhan fwyaf o achosion, mae hyn yn hynod foddhaol ac yn unigryw ym maes meddygaeth.
"Fodd bynnag, rwy'n meddwl bod gwahanol bobl ym mhob man wedi dweud wrthyf ar bob cam o'r ffordd, y dylwn ddewis swydd ysgafnach gan fy mod i'n fam ac yn wraig, ac y byddai llawfeddygaeth yn ormod i mi.
"Yn ddiweddar, roeddwn wedi mynd i weld claf cyn ei llawdriniaeth a gofynnodd pa bryd y byddai'r llawfeddyg yn cyrraedd, ac ymatebais mai fi oedd y llawfeddyg.
"Roedd hyn yn syndod i'r claf yma, gan fy mod yn credu bod pobl yn dal i ragdybio mai dynion yw'r rhan fwyaf o lawfeddygon. Mae hyn yn rhywbeth yr ydw i'n awyddus i'w newid ac mae hyrwyddo esiamplau benywaidd positif yn y maes, yn ogystal ag annog merched iau eraill i ddilyn yr yrfa hon, yn agos iawn at fy nghalon i," meddai Mrs Ali.
Mae ei sesiynau yn ddiweddar yn Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy ac yn Ysgol Friars ym Mangor wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac mae'r adborth gan y disgyblion ifanc wedi bod yn bositif.
Dywedodd Pennaeth Ysgol Friars, Neil Foden: "Gwnaeth ymweliad Dr Ali ag Ysgol Friars ganiatáu i'n disgyblion ddysgu mwy am yrfa bosibl ym maes llawfeddygaeth. Credwn fod y fenter bwysig hon gan Goleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr a'r GIG wedi helpu i wella gwybodaeth a dealltwriaeth ein disgyblion am yrfa bosibl yn y GIG/diwydiant gofal iechyd, yn ogystal â mynediad i yrfaoedd llawfeddygol. Roedd y sesiwn o fodd o gynnig cipolwg i'n disgyblion ar y llwybr gyrfaol posibl yma, ac rydym yn gobeithio achub ar y cyfle i gynnal sesiynau o'r fath eto yn y dyfodol.
"Mae gennym gysylltiadau cadarn ag Ysbyty Gwynedd gan fod rhieni llawer o'n disgyblion yn gweithio yno.
"Mae’r pandemig Covid wedi dangos pa mor bwysig yw'r GIG i'r wlad hon ac roeddem yn falch o fod wedi cael cyfle i'n disgyblion ddysgu mwy am yrfaoedd ym maes llawfeddygaeth a fydd yn werth chweil iddynt hwy ac yn hynod werthfawr i'r gymdeithas."
Rhyw 8:1 yw'r gymhareb rhwng gwrywod a benywod ar gyfer llawfeddygon ymgynghorol yn y DU, ac mae Mrs Ali, sydd hefyd yn fam i dri o blant, yn cefnogi cenhadaeth Merched mewn Llawfeddygaeth i newid hynny.
Ychwanegodd: "Fy neges i'r merched ifanc sy'n awyddus i ddilyn gyrfa ym maes llawfeddygaeth yw, os oes gennych freuddwyd i ddilyn gyrfa mewn meddygaeth, ewch amdani a daliwch ati.
"Dylech gredu ynoch chi eich hun bob amser ac ni ddylai unrhyw beth eich atal, efallai y byddwch yn methu ryw dro ar hyd y daith ond gallwch ddysgu o hynny a dechrau arni o'r newydd."