Neidio i'r prif gynnwy

Meddyg o Wrecsam yn annog y cyhoedd i ddilyn y cyfyngiadau newydd sydd ar waith i atal y GIG rhag cael ei orlethu

23 Hydref, 2020

Wrth i’r cyfnod atal byr ddod i rym ar draws Gogledd Cymru heno, mae Meddyg o Ysbyty Maelor Wrecsam yn annog y cyhoedd i ddilyn y cyfyngiadau sydd ar waith i helpu i ddod ag achosion COVID-19 o dan reolaeth unwaith eto.

Mae achosion COVID-19 wedi bod yn codi ar draws Gogledd Cymru ac mae’r derbyniadau i ysbytai yn dechrau cynyddu. 

Mae Dr James Kilbane, Ffisigwr Ymgynghorol y Frest, sydd wedi gweithio drwy gydol y pandemig yn trin cleifion â COVID-19, yn annog y cyhoedd i ddilyn y cyfyngiadau newydd i atal y GIG rhag gael ei orlethu.  

Dywedodd Dr Kilbane, sydd wedi gweithio fel Meddyg Ymgynghorol yn Ysbyty Maelor Wrecsam ers 2015, ac ar wardiau COVID dynodedig yr ysbyty yn ystod y naw mis diwethaf: “Mae pawb sy’n gweithio ar draws ein hysbytai yng Ngogledd Cymru wedi gweithio’n galed iawn yn ystod y pandemig.

“Mae wedi bod yn gyfnod heriol i bawb, rydym yn dal i ddelio â firws newydd, ond rydym wedi dysgu llawer yn ystod y cyfnod hwn.

“Nid wyf erioed wedi profi rhywbeth fel hyn yn fy ngyrfa, ac mae wedi bod yn adeg pryderus i’r holl staff sy’n delio â ffyrdd newydd o weithio a gofalu am gleifion gwael iawn.   

“Rydym wedi gweld, ac yn dal i weld, cleifion â COVID-19 o ar draws bob ystod oed, gall unrhyw un ddal y firws hwn ac yn anffodus rydym wedi gweld yr effaith ddinistriol y mae’n gallu ei gael. 

“Oherwydd hyn, rydym yn pryderu am fisoedd y gaeaf sydd o’n blaen, ac rydw i a’r holl dimau ysbyty yng Ngogledd Cymru, yn annog y cyhoedd i ddilyn y cyfyngiadau newydd sydd ar waith gan Lywodraeth Cymru.

“Mae arnom angen cymorth y cyhoedd unwaith eto, rwy’n annog pawb i chwarae eu rhan a chadw at y canllawiau fel y gallwn ddod drwy hyn gyda’n gilydd.”

Bydd y mesurau cyfyngedig ar waith tan ddechrau dydd Llun, 9 Tachwedd 2020.

Mae’n bwysig fod pobl yn dal i fynychu unrhyw apwyntiadau neu lawdriniaethau sydd wedi’u trefnu oni bai eu bod yn cael gwybod fel arall.

Ewch i’r Adrannau Achosion Brys dim ond pan fo’n gwbl angenrheidiol. Am gymorth gyda mân anafiadau neu salwch ewch i:   https://bipbc.gig.cymru/cleifion-ac-ymwelwyr/mae-eich-barn-yn-bwysig/gwasanaethau/gwasanaethau-iechyd-lleol/