Neidio i'r prif gynnwy

Mam o Fôn yn gweithio â'r Bwrdd Iechyd i wella'r gefnogaeth sydd ar gael i deuluoedd sydd mewn galar oherwydd hunanladdiad

Mam o Fôn yn gweithio â

Mae mam o Fôn wedi siarad am y profiad tor-calonnus o golli plentyn oherwydd hunanladdiad a'r angen i wella'r gefnogaeth sydd ar gael i'r teuluoedd sy'n cael eu gadael ar ôl.

Byddai Alice Minnigin wedi troi'n 33 mlwydd oed ar 26 Mai.  Yn lle dathlu yng nghwmni ei theulu a'i ffrindiau, aeth ei mam Nina a'i brawd Luke i wasgaru ei llwch a chynnal arddangosfa tân gwyllt uwch mynyddoedd Moelwyn yn ei chymuned enedigol ym Mlaenau Ffestiniog.

Dywed Nina mai dyna beth fyddai ei merch "doniol iawn, gofalgar, disglair ac unigryw" wedi ei ddymuno.

Dyma'r pen-blwydd cyntaf i Nina ei ddathlu heb Alice, cyn ddisgybl o Ysgol y Moelwyn, a gyflawnodd hunanladdiad ar 7 Awst y llynedd, diwrnod a newidiodd bywyd y teulu am byth. 

Er bod Nina'n dweud bod yr arwyddion wedi bod yno erioed oherwydd plentyndod anodd Alice, bu i'r newyddion am farwolaeth ei merch ei tharo "fel damwain car".

"Cafodd Alice blentyndod anodd a bu iddi brofi llawer o gam-drin rhywiol gan ei thad, a gyflawnodd hunanladdiad ar ôl iddo gael ei gyhuddo," eglurodd.

"Roedd Alice yn gweld hyn yn anodd iawn dros y blynyddoedd ond roedd yn oroeswr ac roedd i'w weld yn dod drwyddi bob amser. 

"Roedd yr arwyddion yno erioed oherwydd ei hanes, ond roeddwn wir yn meddwl ei bod wedi dod drwyddi.  Roedd wedi cael lle i astudio nyrsio, roedd wedi bod yn gweithio llawn amser ym Mryste ac roedd ganddi dŷ a morgais."

Mam o Fôn yn gweithio â

Naw mis yn ddiweddarach, dywed Nina sy'n Rheolwr Iechyd Meddwl gyda'r elusen Anheddau o Fangor, bod y boen o golli ei merch yn dal i’w tharo "fel gordd" rhai dyddiau, ac ni fydd ei bywyd byth yr un fath eto. 

Er hyn, dywed y fam i ddau o Rhydwyn ym Môn ei bod yn benderfynol o gofio Alice mewn ffordd bositif, gan atgoffa ei hun bod yn rhaid i fywyd symud yn ei flaen, yn union fel bydd y cariad sydd ganddi tuag at ei merch.

Mae wedi cael ychydig o gysur mewn grŵp cefnogi anffurfiol o famau eraill yng Ngogledd Cymru sydd mewn galar oherwydd hunanladdiad, ond dywed bod angen darparu mwy o gefnogaeth ffurfiol.                                                                                               

Mae Nina yn awr yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a sefydliadau eraill i gyflwyno llwybr ataliad i gefnogi teuluoedd sydd mewn galar oherwydd hunanladdiad.  

Gobeithir y bydd hyn yn cynnwys cynnig cefnogaeth emosiynol, yn ogystal â chymorth ymarferol yn y dyddiau a'r wythnosau cyntaf yn dilyn marwolaeth unigolyn annwyl.

Dywedodd: "Rydych yn cael cnoc ar y drws ac mae'ch bywyd yn cael ei droi ar ei ben ei waered ac rydych wedi cael eich gadael ar ôl i godi'r darnau.  Mae'r sioc yn anghredadwy ac mae'r boen gorfforol yr ydych yn ei deimlo'n rhyfedd iawn. 

"Rwyf wedi siarad â mamau eraill sydd wedi bod yn yr un sefyllfa.  Unwaith mae'r goleuadau glas yn mynd yr oll rydych yn ei gael yw rhif digwyddiad ar gyfer eich plentyn sydd wedi marw. 

"Petai rhywun yn marw mewn damwain car neu'n cael eu llofruddio yna bydd teulu'r unigolyn hwnnw yn cael ei gefnogi gan swyddog cyswllt teulu.  Mae hunanladdiad yn farwolaeth dreisgar felly dylid sicrhau bod cefnogaeth yn ei le i'r teuluoedd hynny, hyd yn oed os yw'r gefnogaeth honno yn ddim ond ychydig o gymorth yn ystod y dyddiau cyntaf.

"Dwi'm yn meddwl bod pobl yn sylwi faint o bethau ymarferol sydd angen iddynt ei wneud fel y perthynas agosaf.  Rwyf wedi bod yn lwcus iawn oherwydd cefais gefnogaeth gan fy ffrindiau a fy nheulu ond nid oes gan bawb hynny.  Mae rhai pobl ar eu pen eu hunain ac ni allaf ddychmygu sut mae hynny'n teimlo iddyn nhw.

"Yn y dyfodol hoffwn weld llwybr ataliad cywir yn cael ei gyflwyno.  Mae BIPBC wedi cefnogi hyn ac mae yn y camau cyntaf o gael ei ddatblygu.  Rydym yn edrych ar beth sy'n gweithio'n dda mewn llefydd eraill ar draws y Deyrnas Unedig a sut all sefydliadau gydweithio i gyflwyno hwn.

"Mae'n rhywbeth sylfaenol sydd ei angen.  Os oes cefnogaeth ataliol well yn ei le yna gall hynny weithio fel ataliad.  Collodd fy merch ei bywyd oherwydd hunanladdiad, a chollodd ei thad ei fywyd oherwydd hunanladdiad.  Lle mae'r terfyn?"

Dywedodd Sam Watson, Pennaeth Gwasanaethau Iechyd Meddwl yng Ngogledd Orllewin Cymru:

"Mae gwaith sylweddol ar waith i wella atal hunanladdiad yng Ngogledd Cymru ond rydym yn cydnabod bod diffyg cefnogaeth ffurfiol ar gael i bobl sydd mewn galar oherwydd hunanladdiad.  Rydym yn benderfynol o weithio gyda'n sefydliadau partner i gynllunio'r ystod fwyaf effeithiol o gefnogaeth i helpu cau'r bwlch.

"Dim ond drwy wneud hyn ochr yn ochr â Nina a theuluoedd eraill sydd â phrofiad byw o'r trasiedi o golli rhywun oherwydd hunanladdiad y gallwn sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn bodloni anghenion teuluoedd yn awr ac yn y dyfodol.

"Os hoffai unrhyw deuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio gan hunanladdiad y cyfle i ddweud eu dweud ar sut y cynigir y gefnogaeth hon yna mae croeso iddynt ddod i siarad â ni."

Er bod Nina yn dweud na fydd y galar cymhleth sy'n gysylltiedig â hunanladdiad ei merch byth yn mynd yn haws, mae'n benderfynol o ddal ati gyda'i bywyd yn y ffordd orau y gallai.

"Mae colli rhywun oherwydd hunanladdiad yn alar cymhleth oherwydd mae'n gwrthdaro.  Sut na ellir fod?  Nid ydych eisiau i'r unigolyn hwnnw fod mewn poen, ond ni allwch gredu'n iawn yr hyn y maent wedi'i wneud chwaith.  Mae yna ddarn ohonof sydd yn dal yn flin iawn gydag Alice am yr hyn y mae wedi rhoi pobl drwyddo.

"Naw mis yn ddiweddarach ac mae'n dal yn fyw iawn ac yn boenus ofnadwy.  Ond mae angen i ni ei chofio mewn ffordd bositif.  Mae'r cariad yn parhau.  Rwy'n atgoffa fy hun bod diwrnod bod yn rhaid i fywyd symud yn ei flaen. 

"Nid oes gennyf ddewis o ran yr hyn sydd wedi digwydd i mi.  Ond mae gen i ddewis o ran sut yr wyf yn delio â'r peth.  Rwyf ond yn gwneud fy ngorau fel y byddai unrhyw fam arall yn ei wneud mewn sefyllfa debyg."

Os ydych wedi cael eich effeithio gan hunanladdiad ac yn hoffi cael dweud eich dweud ar sut y dylid datblygu cefnogaeth ataliol yng Ngogledd Cymru yna anfonwch e-bost at meinir.evans@denbighshire.gov.uk.

Mae'r llinell gymorth Iechyd Meddwl C.A.L.L sydd am ddim ac yn gyfrinachol ar gael 24/7 i roi cefnogaeth emosiynol ac i gyfeirio at wasanaethau lleol. Ffoniwch 0800 132 737, neu tecstiwch  ‘Help’  i  81066, neu ewch i www.callhelpline.org.uk