Mae Seiciatrydd Ymgynghorol blaenllaw yn galw ar bobl ar draws Gogledd Cymru i gymryd camau syml i ofalu am eu hiechyd meddwl dros gyfnod y Nadolig.
Mae Dr Alberto Salmoiraghi yn annog pobl i gymryd yr amser i ofalu amdanynt eu hunain a'u hanwyliaid dros dymor prysur yr ŵyl, ac yn atgoffa pobl am y cymorth sydd ar gael 24 awr y dydd, saith niwrnod o'r wythnos gan Linell Gymorth Iechyd Meddwl C.A.L.L Cymru.
Mae Dr Salmoiraghi, Seiciatrydd Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Meddygol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn dweud bod nifer o bethau bach y gall pobl eu gwneud i ofal amdanynt eu hunain a'u hanwyliaid dros yr ŵyl.
Dywedodd: “I lawer o bobl, mae'r Nadolig yn adeg hapus iawn i'w threulio yng nghwmni ffrindiau ac anwyliaid, ond mae'n gyfnod beichus. Os bydd pobl yn cael iechyd meddwl gwael, gall fod yn gyfnod anodd iawn.
“Gall fod yn anodd cyfaddef nad ydych yn teimlo'n wych ar adeg sydd i fod yn un hapus, ond gall rhannu sut rydych yn teimlo gyda theulu, ffrindiau neu rywun rydych â ffydd ynddo fod y cam cyntaf yn aml tuag at wella pethau.
“Yn y cyfnod prysur sy'n arwain at y Nadolig, mae'n hawdd anghofio gofalu amdanom ein hunain. Ond mae nifer o gamau bach y gall pob un ohonom eu cymryd i ofalu am ein hiechyd meddwl.
“Gall y tywydd oer a diwrnodau byrrach ei gwneud yn anodd mynd allan i gael awyr iach, ond gall ymarfer corff ysgafn a rheolaidd fel taith gerdded fer gyda ffrindiau roi hwb mawr i'ch hwyliau a'ch helpu i deimlo'n well.
“Bydd galw heibio i weld rhywun a allai fod yn teimlo'n unig ac yn ynysig ar yr adeg yma o'r flwyddyn nid yn unig yn ei helpu i deimlo'n llai unig, ond bydd hefyd yn rhoi hwb i'ch lles eich hun hefyd.
“Mae cymorth ar gael ar-lein gyda deunydd hunangymorth ar wefan y GIG a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion.
Mae Dr Salmoiraghi hefyd yn dweud ei bod yn bwysig i bobl wybod ymhle i stopio, wrth i ddathliadau'r Nadolig agosáu.
“Gall treulio amser yn dathlu yng nghwmni ffrindiau a'r teulu gael effaith bositif iawn ar ein hiechyd meddwl, ond yn yr un modd, mae cymedroldeb yn bwysig. Bydd cael digon o gwsg, bwyta'n iach a pheidio ag yfed gormod o alcohol helpu i gynnal iechyd meddwl da.
“Bydd cael ychydig yn llai wir wneud i chi deimlo'n well o lawer!"
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr hefyd yn annog pobl sy'n cael anhawster i ymdopi â'r pwysau sy'n gysylltiedig â'r Nadolig i gysylltu â Llinell Gymorth Iechyd Meddwl C.A.L.L Cymru, sydd ar gael 24 awr y dydd, saith niwrnod o'r wythnos dros gyfnod yr ŵyl a thrwy gydol y flwyddyn.
Mae'r gwasanaeth yn darparu cymorth emosiynol cyfrinachol a chyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl lleol.
Dywedodd Luke Ogden, Rheolwr Llinell Gymorth C.A.L.L fod cyfuniad o bryderon ynghylch arian, unigedd, cymeriant uwch o alcohol a'r tywydd yn ystod y gaeaf yn gallu cael effaith andwyol ar iechyd meddwl pobl dros gyfnod y Nadolig.
Dywedodd: “Gall y Nadolig fod yn adeg arbennig o anodd i bobl sy'n cael anhawster gyda salwch meddwl.
“Rydym ni eisiau i unrhyw un sy'n cael anhawster i wybod y bydd rhywun wrth law bob amser i wrando ac i roi cymorth emosiynol pryd bynnag y bydd ei angen. I lawer o bobl, gall siarad am eu problemau gyda rhywun sy'n barod i wrando wneud byd o wahaniaeth.
“Gall pobl nad ydynt yn teimlo'n gyffforddus yn trafod eu problemau dros y ffôn gysylltu â ni trwy neges destun neu drwy ein Facebook a Twitter a gallwn roi cymorth fel hynny, lle bynnag bo angen."
Mae'r llinell gymorth Iechyd Meddwl C.A.L.L sydd am ddim ac yn gyfrinachol ar gael 24/7 i roi cefnogaeth emosiynol ac i gyfeirio at wasanaethau lleol. Ffoniwch 0800 132 737, neu tecstiwch ‘Help’ i 81066, neu ewch i www.callhelpline.org.uk.