Mae staff ar linell gymorth iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru'n atgoffa pobl ei fod yn iawn i beidio â bod yn iawn, wrth i'r ardal wynebu cynnydd yn nifer yr achosion COVID-19.
Yn ddiweddar, mae'r Llinell Gymorth Iechyd Meddwl CALL ar gyfer Cymru wedi recriwtio staff a gwirfoddolwyr ychwanegol i fodloni galw cynyddol am gefnogaeth yn ystod yr argyfwng COVID-19.
Mae galwadau i'r llinell gymorth wedi mwy na dyblu dros y chwe mis diwethaf, o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd. Mae llinell gymorth Cyffuriau ac Alcohol, DAN 24/7 y tîm hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer y galwadau.
Wrth i Gymru wynebu cynnydd yn nifer yr achosion COVID-19, dywed Luke Ogden, Rheolwr Llinell Gymorth CALL, mae'n hanfodol bod pobl yn estyn allan am gymorth os ydynt yn cael trafferth.
Dywedodd: "Rydym eisiau atgoffa pobl ar draws Cymru nad ydynt ar eu pen eu hunain, ac mae ein staff a'n gwirfoddolwyr hyfforddedig ar gael 24/7 i ddarparu cefnogaeth a chlust i wrando."
"Rydym yn ymwybodol iawn bod y pandemig wedi effeithio pobl ar draws y wlad.
Gall yr ynysu sy'n gysylltiedig â chyfyngiadau'r cyfnod clo ynddo’i hun effeithio pobl mewn gwahanol ffyrdd, gan arwain at gynnydd mewn pryder, iselder a faint o alcohol a chyffuriau sy'n cael ei gymryd.
"Mae nifer o bobl yn wynebu ansicrwydd dros eu bywoliaeth neu'n cael trafferth gyda materion ariannol, a gall hyn gael effaith anferthol ar eu hiechyd meddwl a'u lles.
"Gall siarad â rhywun dros y ffôn, un ai am gefnogaeth emosiynol, gwybodaeth, cyngor neu gyfeiriad, wneud gwahaniaeth mawr."
Ariennir y gwasanaeth gan Lywodraeth Cymru ac mae'n cael ei reoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ers lansio'r gwasanaeth 25 mlynedd yn ôl, mae wedi darparu cefnogaeth i hanner miliwn o bobl.
Yn ogystal â darparu llinell gymorth ffôn sydd ar agor 24 awr y diwrnod, saith niwrnod yr wythnos, mae gwefan Llinell Gymorth CALL yn cynnig cyfeirlyfr cynhwysfawr o dros 1,500 o wasanaethau iechyd meddwl cenedlaethol a lleol. Mae staff CALL hefyd yn darparu cefnogaeth a chyngor emosiynol drwy'r cyfryngau cymdeithasol a gwasanaeth neges destun ar gyfer y rhai sy'n teimlo'n rhy anghyfforddus neu'r rhai nad ydynt yn gallu siarad drwy eu problemau dros y ffôn.
Mae’r Llinell Gymorth Iechyd Meddwl, CALL ar gyfer Cymru ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn.
Ffoniwch Radffôn 0800 132737
Tecstiwch 'Help' i 81066.
Ewch ar http://www.callhelpline.org.uk
Mae'r Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol DAN 24/7 ar gyfer Cymru hefyd ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn
Ffoniwch Radffôn 0808 808 2234
Tecstiwch DAN i: 81066
Ewch ar https://dan247.org.uk/