Neidio i'r prif gynnwy

Mae'n iawn i beidio â bod yn iawn: anogir darpar dadau a thadau newydd i estyn allan am gefnogaeth

Anogir darpar dadau a thadau newydd sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl i estyn allan am gefnogaeth gan eu bydwraig, ymwelydd iechyd neu eu Meddyg Teulu.

Er mwyn dathlu Sul y Tadau, dydd Sul 21 Mehefin, a Diwrnod Rhyngwladol Iechyd Meddwl Tadau ddydd Llun 22 Mehefin, mae staff o Wasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eisiau i fwy o dadau newydd wybod ei fod yn iawn i beidio â bod yn iawn.

Mae Gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol BIPBC yn darparu ystod o gefnogaeth arbenigol i rieni newydd a darpar rieni yn ogystal ag addysg a hyfforddiant ar gyfer ymwelwyr iechyd, bydwragedd a Meddygon Teulu sy'n cysylltu â nhw.

Mae nifer y dynion sy'n mynd yn isel eu hysbryd yn y flwyddyn gyntaf ar ôl dod yn dad ddwywaith yn fwy na'r boblogaeth gyffredinol, gyda thadau sy'n dadau am y tro cyntaf yn benodol fregus.

Bydd un o bob deg darpar dad hefyd yn isel eu hysbryd yn ystod beichiogrwydd eu partner.

Dywedodd Kelly Arnold, Arweinydd Dros Dro Tîm Iechyd Meddwl Amenedigol BIPBC,  “Anaml y bydd pobl yn siarad am iechyd meddwl dynion o ran dod yn rhiant ac mae'r stigma sy'n gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl yn gynnar ar ôl dod yn rhiant hyd yn oed yn uwch i ddynion nag ydyw i ferched. Rydym hefyd yn gwybod fod dynion yn ei chael yn anoddach i ofyn am gefnogaeth ar gyfer problemau emosiynol.

"Mae nifer o arwyddion i ddangos fe all tadau fod yn cael trafferth. Fe allant fod yn teimlo'n bryderus, yn isel, ar wahân neu'n ynysig. Fe allant hefyd fod yn cael profiad o ofn, dryswch, teimlo'n anobeithiol neu'n ansicr am y dyfodol.

“Rydym am i dadau newydd a darpar dadau wybod bod gwasanaethau mamolaeth ac ymwelwyr iechyd yno i'r ddau riant, ac os ydynt hwy wedi gweld newid yn eu hiechyd meddwl, neu os ydynt yn cael anawsterau wrth fondio â'u babi, dylent siarad â'u partner, ymwelydd iechyd neu feddyg teulu fel y gallant gael eu cyfeirio am gefnogaeth pellach."

Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar wefan Mind:https://www.mind.org.uk/information-support/types-of-mental-health-problems/postnatal-depression-and-perinatal-mental-health/partners