Mae mam o Sir Ddinbych wedi codi dros £25,000 - gyda chymorth ei ffrindiau - i ddiolch am y 'driniaeth o'r radd flaenaf' a gafodd yn Ysbyty Glan Clwyd.
Gwnaeth ffrindiau a'r teulu ymgynnull yn Neuadd Wigfair yn Llanelwy ar gyfer noson fawreddog wedi'i hysbrydoli gan James Bond, o'r enw SkyBall, i godi arian ar gyfer Apêl Ganser Gogledd Cymru, Apêl Ron a Margaret Smith.
Gwnaeth 240 o westeion o agos ac o bell gyrraedd mewn steil ar gyfer y noson a oedd wedi'i hysbrydoli gan SkyFall, yn gwisgo siwtiau a ffrogiau nos heb fod yn annhebyg i'r hyn a welir mewn ffilm James Bond.
Cafodd y trefnwyr eu hysbrydoli i weithredu pan gafodd un o'u ffrindiau agos ddiagnosis canser y fron y llynedd.
Bu Kate Jackson o Aberchwiler, sy'n fam i dair o ferched ifanc ac sy'n athrawes wyddoniaeth yn Ysgol Uwchradd Castell Alun yn Sir y Fflint, yn dyst i'r gwaith anhygoel yn y Ganolfan Ganser pan dderbyniodd driniaeth "o'r radd flaenaf" yn Ysbyty Glan Clwyd.
Gwnaeth y saith ffrind a aeth i Ysgol Uwchradd Dinbych gynt, Teri Clayton, Lynsey Blackford, Leanne Roberts, Erin Jones, Charlotte Varley, Cathy Howatson a Kate ei hun, a fydd oll yn troi'n 40 oed dros y flwyddyn sydd i ddod, drefnu noson lewyrchus yn cynnwys cerddoriaeth fyw, casino ac ocsiwn addewidion.
Gwnaeth y noson lwyddo i godi swm anhygoel o £26,215.
Dywedodd Kate: “Y llynedd, pan gefais fy niagnosis, ar ôl colli fy mam oherwydd canser y fron pan oedd o'r un oed â minnau nawr, roedd y rhagolygon yn edrych yn eithaf du. Ni allwn i fod yn fwy diolchgar nag yr ydw i i'r staff gwych yn Ysbyty Glan Clwyd am y gwaith anhygoel maent yn ei wneud. Cafodd y broses o dderbyn triniaeth yno ei hwyluso gymaint â phosibl, ac iddyn nhw mae'r diolch am y ffaith fy mod i'n dechrau cael trefn ar fy mywyd eto.
“Roedd fy ffrindiau a minnau am ddangos ein gwerthfawrogiad trwy godi arian ar raddfa fwy. Roeddem eisoes wedi codi £4000 ar gyfer Ymchwil Canser y DU pan gefais fy noddi i dorri fy ngwallt/cynnal arwerthiant cacennau cyn dechrau ar gemotherapi. Nid oeddem erioed wedi gwneud dim fel hyn, ac nid oedd y rhan fwyaf ohonom wedi bod mewn dawns. Mae haelioni ein cymuned wedi bod yn wirioneddol galonogol, gwnaethom dderbyn cymaint o roddion ar ffurf gwobrau, gwasanaethau, eitemau ocsiwn a phobl yn galw heibio er mwyn helpu i drefnu'r digwyddiad. Rydym am ddiolch yn fawr i bob un ohonoch a gyfrannodd at y ddawns ac a oedd yno. Mae'n dyst i'r gymuned glos bod swm anhygoel o £26,215 wedi'i godi a fydd yn galluogi'r elusen i barhau i gynorthwyo trigolion yng Ngogledd Cymru sydd â chanser."
Mae Apêl Ganser Gogledd Cymru yn cynorthwyo'r Ganolfan Ganser yn Ysbyty Glan Clwyd yn uniongyrchol trwy brynu offer sydd wir eu hangen ar gyfer y ganolfan. Cafodd y siec ei chyflwyno i Katy Powell, is-gadeirydd yr elusen.
Derbyniodd Kate ei thriniaeth radiotherapi trwy beiriant cyflymu unionlin a brynwyd gan yr elusen yn 2015 am fwy na thros filiwn o bunnau. Aeth y grŵp gam ymhellach i godi cymaint o arian â phosibl er mwyn dangos eu diolchgarwch am y gwaith anhygoel y mae'r elusen yn ei wneud.