Mae clinigau i imiwneiddio plant rhag clefydau fel y frech goch nawr yn cael eu cynnal mewn ysgolion, diolch i waith partneriaeth gydag awdurdodau lleol.
Mewn ymateb i’r pandemig COVID-19, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn gweithio’n agos gyda Chyngor Gwynedd a Chyngor Ynys Môn i sicrhau fod plant yn parhau i gael eu brechu yn ystod y cyfnod hwn.
Mae’r rhaglen imiwneiddio yn weithredol ym mhob ysgol uwchradd a rhai ysgolion cynradd o fewn cymunedau’r ddwy sir.
Dywedodd y Nyrs Arweiniol Clinigol ar gyfer Gofal Cychwynnol yn ardal Gorllewin y Bwrdd Iechyd, Catrin Macey, sydd wedi cychwyn un o’i chlinigau yng Nghanolfan Gymunedol Jessie Hughes yng Nghaergybi: “Mae hwn yn enghraifft o waith partneriaeth ardderchog gyda’n cynghorau lleol ar draws Gwynedd a Môn.
“Mae’n hynod bwysig yn ystod y pandemig hwn bod plant yn parhau i dderbyn eu himiwneiddiadau.
“Mae sefydlu’r clinigau hyn mewn adeiladau o eiddo’r cyngor o fewn y gymuned yn gostwng y pwysau ar ein meddygfeydd Meddygon Teulu yn ogystal â darparu amgylchedd mwy diogel ar gyfer ein plant.”
Mae’r Bwrdd Iechyd wedi bod yn gweithio’n galed gydag awdurdodau lleol i sefydlu safleoedd eraill ar draws y ddwy sir allai gael eu defnyddio ar gyfer gwasanaethau iechyd yn ystod yr ymateb i COVID-19.
Meddai Ffion Johnstone, Cyfarwyddwr Ardal ar gyfer ardal Gorllewin Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: “Yn ystod y lledaeniad hwn o COVID-19, mae’n hanfodol ein bod yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i sicrhau y gallwn ddarparu’r gwasanaethau sydd eu hangen ar ein cymunedau.
Yn ogystal â sefydlu’r Clinigau Imiwneiddio, mae llawer o waith yn mynd ymlaen i adnabod Canolfannau Asesu Lleol ym Môn, Arfon, Dwyfor a Meirionnydd i adnabod lleoliadau posibl pan nad yw ein hadeiladau iechyd ar gael.
“Mae Canolfan Byw’n Iach ym Mhwllheli a Chanolfan Tennis Arfon hefyd wedi’u hadnabod fel lleoliadau posibl ar gyfer y canolfannau, a bu Cyngor Gwynedd yn gefnogol iawn i ddiogelu’r lleoliadau hyn fel opsiwn.
“Er ein bod nawr wedi sefydlu Ysbyty Bryn Beryl fel y ganolfan asesu ar gyfer yr ardal hon, mae gwaith yn parhau gyda’r awdurdod lleol i sicrhau y gellir defnyddio’r ganolfan hamdden fel hwb asesu petai galw am hyn.
“Rydym hefyd wedi gweithio’n agos gyda Chyngor Dinas Bangor a chlwb Pêl-droed Bangor i ddiogelu lleoliad ar gyfer Hwb Asesu Lleol Arfon ac mae gwaith yn mynd rhagddo i agor yr hwb yn yr wythnosau nesaf, ac rydym yn ddiolchgar iawn i bawb am eu cefnogaeth i gael y safle’n barod.
“Mae cael mynediad at ysgolion, canolfannau cymunedol a chanolfannau hamdden ar draws ardal Gwynedd a Môn a gweithio’n agos gyda’r awdurdodau lleol i sefydlu’r defnydd gorau ar gyfer y lleoliadau hynny, yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau o fewn y gymuned yn ogystal â chyrraedd yr ardaloedd mwyaf difreintiedig lle mae’r angen am wasanaethau fwyaf yn ystod yr amseroedd heriol a digynsail hyn”, ychwanegodd Mrs Johnstone.
Bydd Canolfannau Hamdden ar Ynys Môn hefyd yn cael eu defnyddio ar gyfer gweithgarwch clinigol a bydd y timau bydwragedd cymunedol wedi’u lleoli yng Nghanolfan Hamdden Llangefni i sicrhau parhad gyda’r gwasanaethau craidd yn y gymuned.
Dywedodd yr Uwch Gydlynydd Clwstwr Gofal Cychwynnol ar gyfer ardal Gorllewin y Bwrdd Iechyd, Ellen Williams, sydd wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r awdurdod lleol: “Mae ymateb i heriau lledaeniad COVID-19 yn golygu bod yn rhaid i bob un ohonom symud yn gyflym ac esmwyth, a gallaf ddweud bod yr ymateb gan y cynghorau o ran cael mynediad at leoliadau a chael cefnogaeth i’n galluogi i barhau â gwasanaethau allweddol wedi bod yn ardderchog.”
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi Huws: “Mae’r amseroedd hyn yn ddigynsail; ac o’r herwydd mae gweithio mewn partneriaeth gyda’r holl sefydliadau ar draws y rhanbarth yn hanfodol.
“Rydym yn falch o allu cefnogi cydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr trwy ddarparu lleoliadau amgen ar gyfer gwasanaethau allweddol. Yn ogystal â chlinigau yng Nghanolfan Hamdden Cymunedol Jessie Hughes yng Nghaergybi, rydym hefyd wedi sicrhau bod dau o’n canolfannau hamdden, yng Nghaergybi a Llangefni, ar gael ar gyfer y timau bydwragedd cymunedol.
“Mae’n bwysig bod gwasanaethau iechyd fel y rhain yn parhau ar ran cymunedau a phreswylwyr lleol. Bydd Cyngor Môn yn parhau i roi gymaint o gefnogaeth â phosibl i bartneriaid dros yr wythnosau a’r misoedd sydd i ddod.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Yn ogystal â pharhau i ddarparu gwasanaethau gofal hanfodol ar gyfer ein preswylwyr yn ystod yr amser hynod anodd hwn, rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid iechyd i gefnogi eu hymdrechion hanfodol.
“Rydym mewn trafodaethau cyson gydag uwch swyddogion o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ac yn falch o allu cynnig ein cyfleusterau lle bynnag gallen nhw fod o gymorth i frwydro yn erbyn Covid-19.
“Yn benodol, rydym wedi bod yn gweithio gyda’r Bwrdd Iechyd, Cyngor Ynys Môn a Phrifysgol Bangor i helpu i sefydlu safle ysbyty dros dro yng Nghanolfan Brailsford ym Mangor a byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’r Bwrdd Iechyd a phartneriaid eraill i sicrhau’r gofal gorau ar gyfer ein preswylwyr.”