14.02.2022
Gyda mwy na 300 o bobl ledled y DU, gan gynnwys 11 o gleifion yng Nghymru, yn aros am drawsblaniad calon ar Ddydd San Ffolant eleni, mae Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG yn galw ar deuluoedd yng Nghymru i siarad am roi organau.
Er bod trawsblaniadau calon wedi parhau ledled y DU drwy gydol y pandemig, gyda dim ond 7% yn llai yn 2020/2021 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol**, mae’r rhestr aros am drawsblaniad calon wedi codi 85% yn y degawd diwethaf, o 169 o gleifion ym mis Mawrth 2012, i 313 ym mis Mawrth 2021***.
Mae’n bwysicach nag erioed bod teuluoedd yng Nghymru yn rhannu eu penderfyniadau ynghylch rhoi organau er mwyn achub mwy o fywydau.
Mae Ryan Gabb, 30 oed, o Wrecsam, wedi bod ar y rhestr aros am drawsblaniad calon ers mis Mai 2018. Cafodd bywyd Ryan ei droi ben i waered ym mis Medi 2017 pan aeth yn sâl iawn yn sydyn.
Esboniodd Ryan: “Roeddwn i wedi bod yn teimlo braidd yn sâl ers rhai wythnosau, blinder cyffredinol a symptomau tebyg i ffliw na allwn i'w hysgwyd. Roeddwn i'n gwaethygu’n raddol ac roeddwn i'n dechrau mynd yn fyr o wynt. Roeddwn yn gwybod bod rhywbeth o’i le, felly benthycais Fitbit ffrind i wirio cyfradd fy nghalon ac roedd dros 100. Roeddwn yn gwybod bod angen sylw arnaf, felly gadewais y gwaith a mynd i weld meddyg.
“Anfonodd y meddyg teulu fi'n syth i'r ysbyty, lle datgelodd sgan fy mod yn dioddef o Cardiomyopathi lledagored, a dywedwyd wrthyf ei bod yn debygol y byddai angen trawsblaniad calon arnaf. Doeddwn i ddim yn gallu credu fy nghlustiau, ac roeddwn i mewn sioc lwyr, roeddwn i’n gwybod nad oeddwn i wedi bod yn iach ond doeddwn i ddim yn disgwyl dim byd mor ddifrifol.”
Cafodd Ryan ei fonitro dros y dyddiau nesaf a, phum niwrnod yn ddiweddarach, cafodd ei gludo mewn hofrennydd i Fanceinion ar ôl mynd i sioc gardiogenig. Cafodd ei ychwanegu at restr aros brys y galon, ond yna cafodd LVAD – sef pwmp calon brys – cyn cael ei ail-gofrestru ar gyfer trawsblaniad ym mis Mai 2018.
Esboniodd Ryan: “Rwy'n gwneud yn eithaf da gyda'r LVAD ar hyn o bryd, ond gall aros am drawsblaniad fod yn anodd. Rhaid i mi gadw fy ffôn wrth law bob amser, ac mae angen cyflenwad trydan rheolaidd arnaf er mwyn gwefru batris yr LVAD. Rwy’n pryderu o hyd am doriadau pŵer. Dywedwyd wrthyf y gallwn aros yn hir am galon newydd, sy'n anodd derbyn yng nghanol eich ugeiniau. Roedd yn rhaid i mi orffen gweithio oherwydd roedd fy swydd yn eithaf corfforol.
“Rwy'n gobeithio y bydd y flwyddyn sydd i ddod yn dod â rhywfaint o normalrwydd a gobeithio hefyd y bydd mwy o bobl yn trafod rhoi organau gyda'u teuluoedd ac yn cofrestru eu penderfyniad. Dydych chi byth yn gwybod pryd na phwy y gallai fod angen y cymorth hwnnw. Roeddwn i'n arfer bod yn rhoddwr gwaed rheolaidd ac ymunais â Chofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG hefyd pan oeddwn yn 18 oed. Roeddwn i'n meddwl bod y ddau yn bwysig, ond doeddwn i byth yn disgwyl y byddai fy mywyd yn newid cymaint.”
Er bod y gyfraith ynghylch rhoi organau bellach wedi symud at system optio allan ledled Cymru, Lloegr a’r Alban, nid yw llawer o bobl yn ymwybodol y bydd teuluoedd yn dal i fod yn rhan o’r broses rhoi organau ym mhob achos.
Er bod teuluoedd yn fwy tebygol, ac yn ei chael yn haws, i gefnogi rhoi organau pan fyddant yn gwybod mai dyna oedd dymuniad eu hanwyliaid, dim ond 43% o boblogaeth y DU sydd wedi cofrestru eu penderfyniad ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG, a dim ond 38% sy’n dweud eu bod wedi rhannu eu penderfyniad rhoi organau gyda’u teuluoedd.
Dywedodd Anthony Clarkson, Cyfarwyddwr Rhoi Organau a Meinweoedd a Thrawsblaniadau yn Adran Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG: “Mae miloedd o bobl ledled y DU, gan gynnwys cannoedd o gleifion yng Nghymru, yn aros i glywed bod rhoddwr ar gael i achub neu i drawsnewid eu bywydau, ac mae cannoedd ohonyn nhw, gan gynnwys 11 o bobl yng Nghymru, angen trawsblaniad calon. Rydym yn annog pawb yng Nghymru i drafod rhoi organau nawr.
“Siaradwch gyda’ch teulu, a dywedwch wrthyn nhw am eich penderfyniad i roi organau, gan eu gadael yn sicr o hynny. A gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod beth fydden nhw ei eisiau hefyd, fel y gallwch chi gefnogi eu penderfyniad. Trafodwch roi organau ar Ddydd San Ffolant eleni, a rhannwch eich penderfyniad er mwyn helpu i achub mwy o fywydau.”
Fel rhan o ymgyrch Heart to Heart, bydd Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG yn rhannu fideo gan yr artist llafar, Adaya Henry, i helpu i annog mwy o bobl i gael y sgwrs am roi organau. I weld y fideo ewch i: https://youtu.be/eC_TFqdVKRA.
I gael rhagor o wybodaeth, neu i gofrestru eich penderfyniad i roi organau, ewch i: www.organdonation.nhs.uk neu ffoniwch 0300 123 23 23. Gall defnyddwyr ap y GIG hefyd ddefnyddio'r gwasanaeth i gofnodi, gwirio neu ddiweddaru eu penderfyniad rhoi organau.
Diwedd
* Y rhestr aros weithredol ar 3 Chwefror 2022 – 311 o gleifion yn aros am galon, gan gynnwys 45 o blant.
Ar ddiwedd mis Rhagfyr 2021, roedd 218 o bobl yng Nghymru yn aros am drawsblaniad ac roedd angen trawsblaniad calon ar 11 ohonynt.
** Gostyngodd nifer y trawsblaniadau calon 7% i 161 yn 2020/2021, o 174 yn 2019/2020.
*** Mae nifer y cleifion a oedd yn weithredol ar y rhestr trawsblaniadau calon ar ddiwedd y flwyddyn wedi cynyddu 85% ers 2012. Roedd 169 o bobl ar y rhestr aros am galon ym mis Mawrth 2012, o gymharu â 313 ar ddiwedd mis Mawrth 2021.