Mae canolfan brofi trwy ffenestr y car Ysbyty Alltwen bellach ar agor i'r cyhoedd er mwyn ei gwneud yn haws i bobl yn yr ardal fanteisio ar brawf COVID-19 yn agosach i'w cartrefi.
Yn flaenorol, roedd y ganolfan brofi ar gael i weithwyr allweddol a'u teuluoedd, y sector addysg, cleifion a oedd yn aros am lawdriniaeth a rhai gweithwyr gofal, yn unig.
Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer unigolion sy'n credu bod ganddynt symptomau COVID, a dim ond os oes ganddynt un neu fwy o'r symptomau canlynol y dylai pobl fynd yno:
Nid gwasanaeth galw heibio yw hwn a bydd angen i bobl drefnu apwyntiad er mwyn cael prawf.
Mae'r ganolfan brofi ar agor o 9.30am tan 4.30pm saith niwrnod o'r wythnos, a gellir trefnu apwyntiad am brawf trwy ffonio 03000 852525.
Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Fel prosiect peilot, rydym bellach yn gallu cynnig mynediad i brawf yn ein huned yn Ysbyty Alltwen, i drigolion yn Nwyfor a Meirionnydd, sy'n cael symptomau COVID-19.
“Bydd hyn yn sicrhau bod trigolion yn yr ardal hon yn gallu cael mynediad i brofion yn agosach i'w cartrefi.
“Wrth i gyfyngiadau newydd ddod i rym ledled Cymru ddydd Gwener, hoffwn achub ar y cyfle hwn i atgoffa'r cyhoedd am barhau i ddilyn canllawiau'r llywodraeth er mwyn ein helpu i atal COVID-19 rhag lledaenu .
“Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n profi symptomau COVID-19 hunanynysu a threfnu prawf ar unwaith.”
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd ac Aelod y Cabinet dros Faterion Gofal: “Fel Cyngor, rydym yn falch o weld bod y ganolfan ar agor yn Ysbyty Alltwen a fydd yn cynnig profion i drigolion yn ardaloedd Dwyfor a Meirionnydd yng Ngwynedd.
“Rydym yn deall bod hon yn adeg anodd i unrhyw un sydd â symptomau'r firws, a gobeithiwn y bydd lleoli uned yn agosach i gymunedau Dwyfor a Meirionnydd yn fuddiol i drigolion wrth i ni weithio gyda'n partneriaid yn y sector iechyd i atal COVID-19 rhag lledaenu ac i amddiffyn ein gwasanaethau iechyd a gofal.
“Mae'r uned ar gyfer aelodau'r cyhoedd sydd wedi trefnu apwyntiad, ac rydym am atgoffa trigolion bod y cyfleusterau wedi'u bwriadu ar gyfer y bobl hynny sydd â symptomau'n unig. Bydd hyn yn helpu i leddfu pwysau i'n partneriaid iechyd sydd eisoes yn gweithio'n galed iawn i roi cymorth i'n cymunedau lleol."