25/01/2022
Mae cerddor ifanc wedi annog cleifion imiwnoataliedig i dderbyn meddyginiaeth chwyldroadol – sydd â’r bwriad o drin pobl agored i niwed â Covid-19 - os caiff ei chynnig.
Ganed Luca Bradley, o Landyrnog, â Syndrom Down a dysgodd ei fod wedi dal coronafeirws ar Ragfyr 21 – ar y diwrnod pan oedd apwyntiad wedi’i drefnu ar gyfer ei frechlyn atgyfnerthu.
Roedd ei fam Pip wedi bod yn ymdrechu’n wyllt i gael ei apwyntiad brechiad yn gynt pan gafodd y teulu’r newyddion pryderus.
Fodd bynnag, daeth timau nyrsio a fferylliaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i wybod am brawf positif Luca gan GIG Cymru a dechreuant weithredu o fewn 24 awr.
Eglurodd ei fam Pip sut y byddai'r driniaeth yn gweithio i Luca, oedd â symptomau o annwyd trwm a pheswch parhaus.
Cytunodd Luca i gael trwyth mewnwythiennol o’r cyffur newydd sotrovimab, sydd ar gael i gleifion addas sydd yn imiwnoataliedig, yn Ysbyty Llandudno.
O fewn dau ddiwrnod o’i dderbyn, roedd symptomau’r cerddor Luca wedi mynd ac roedd yn ôl yn chwarae ei ddrymiau, gitâr fas ac iwcalili.
Cymeradwyodd y gŵr 22 oed, sy'n cynorthwyo â gwersi cerdd disgyblion ysgol gynradd ac sydd wedi gigio gyda'i ffrind Ben ar nifer o achlysuron, y driniaeth newydd yn fawr.
Dywedodd: “Byddwn yn dweud wrth bobl yn fy sefyllfa i gael y driniaeth – fe wnaeth i mi deimlo’n well yn eithaf cyflym.”
Dywedodd Pip Bradley: “Fe ddywedon nhw fod yna ffenestr bum niwrnod i roi’r driniaeth i Luca.
“Galwodd Corinne Hocking, y brif nyrs yn ystafell IV Ysbyty Llandudno ac roedd hi’n hyfryd. Dywedodd fod y stwff yma (sotrovimab) newydd sbon.
“Fe aethon ni drannoeth ac ymatebodd Luca yn dda. Roedd yn deall bod angen iddo gael y driniaeth hon ac roeddem mor ddiolchgar.”
“Roedd yn rhyddhad enfawr,” ychwanegodd Pip. “Fe wnaeth wir wahaniaeth mawr i ni gan nad oedden ni’n gwybod beth i’w ddisgwyl.
“Roedd Luca yn bryderus iawn pan gafodd Covid ond roedd Corinne yn anhygoel a chafodd fwy na’r driniaeth yn unig - cafodd ei ofnau i gyd eu tawelu.”
Mae Sotrovimab yn wrthgorff monoclonaidd sydd yn niwtraleiddio (nMAB), protein synthetig sy'n dynwared gwrthgyrff naturiol y corff ac yn niwtraleiddio proteinau sbigyn y coronafirws.
Mae’r driniaeth, sydd yn rhaid cael ei rhoi o fewn pum niwrnod i brawf positif, yn cael ei rhoi trwy drwyth ym mraich y claf mewn ysbytai lleol yn Llandudno, Ysbyty Alltwen neu Wrecsam.
Mae'n cymryd hanner awr i'w drwytho ac mae'n rhaid i gleifion aros am gyfnod arall o hanner awr, i wneud yn siŵr nad oes unrhyw adweithiau, cyn iddynt fynd adref.
Ers 16 Rhagfyr, mae'r bwrdd iechyd wedi rhoi mwy na 90 o driniaethau, gyda mwy na 40 ohonynt wedi eu cynnal yn Ysbyty Llandudno.
Dywedodd Nicky McLardie, pennaeth nyrsio ardal ganolog Betsi Cadwaladr ar gyfer gofal canolraddol a meddygaeth arbenigol, fod y canlyniadau cychwynnol wedi bod yn “hynod galonogol”.
Dywedodd: “Ym mis Rhagfyr gofynnodd Llywodraeth Cymru i ni roi’r driniaeth hon i bobl a oedd yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol ac wedi dal Covid-19.
“Roedden nhw eisiau i’r gwasanaeth gael ei roi mewn lleoliad cymunedol cyn i gleifion fynd yn sâl. Buom yn gweithio’n agos iawn gyda’n tîm fferylliaeth ac mae fferyllfeydd yn monitro’r canlyniadau.”
Datgelodd Nicky, sydd wedi bod yn nyrs ers dros dri degawd, fod ganddi ddealltwriaeth wirioneddol o ofnau cleifion imiwnoataliedig, ar ôl cael dau drawsblaniad afu ei hun - y diweddaraf ohonynt yn 2020.
“Mae'r driniaeth nMAB yn achubiaeth bywyd. Cyn hyn, byddai cleifion yn y categorïau hyn wedi dychryn yn ofnadwy pe bai ganddynt Covid - maen nhw wedi bod yn ofnus iawn.
“Mae gen i’r empathi a’r ofn yna o gael rhywbeth fel Covid. Os gallwn ddarparu’r driniaeth hon yn agos at adref, ar yr un diwrnod, mae’n tawelu’r ofnau hynny.”