Neidio i'r prif gynnwy

Lledaenwch y gair, nid yr afiechyd

Mae'r GIG yng Ngogledd Cymru'n atgoffa pobl am bwysigrwydd cael eu brechu i helpu i atal lledaeniad afiechydon y gellir eu hatal.

Nid oes cyfyngiadau ar fynychu apwyntiadau priodol ac,  fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Imiwneiddio Ewropeaidd (20 i 26 Ebrill), mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn annog rhieni a gofalwyr i sicrhau bod eu plant wedi eu gwarchod.

Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus: "Rydym yn gwybod bod hwn yn gyfnod anodd a bod gofyn i bobl aros gartref ble mae'n bosib, ond mae'n bwysig bod rhieni'n sicrhau bod eu plant yn cael eu brechiadau.

"Drwy ein rhaglenni brechu rydym wedi llwyddo i leihau nifer yr achosion o afiechydon a allai fygwth bywyd fel heintiau niwmococol a meningococaidd, peswch, difftheria a'r frech goch.

"Mae'n bwysig sicrhau bod y nifer fwyaf posibl o unigolion yn cael eu brechu er mwyn atal yr heintiau hyn rhag atgyfodi, ac i warchod ein hunain a'n teuluoedd. Bydd hefyd yn gymorth i leihau'r nifer o bobl sydd angen gofal yn yr ysbyty.

"Er mwyn cael yr effaith orau, mae'r brechiadau angen cael eu rhoi ar amser.  Mae staff gofal iechyd yn dal i ddarparu brechiadau ar draws Gogledd Cymru ac mae'n ddiogel mynychu apwyntiadau.  Os oes gennych unrhyw gwestiwn am frechiadau, gofynnwch i'ch Meddyg Teulu neu Ymwelydd Iechyd a fydd yn hapus i siarad gyda chi."

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalennau Imiwneiddio.