Bydd llawfeddyg o Ysbyty Gwynedd yn cael ei gydnabod am gofleidio'r Gymraeg yn yr Eisteddfod eleni.
Bydd Mr Phillip Moore yn un o'r 39 o unigolion fydd yn cael eu hurddo gan Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst.
Dechreuodd Mr Moore, sy'n wreiddiol o Farbados, ar ei rôl fel Llawfeddyg Clust, Trwyn a'r Gwddf yn Ysbyty Gwynedd yn 2010, a phenderfynodd ddysgu Cymraeg er budd ei gleifion.
Dywedodd: "Roeddwn i wastad wedi bod eisiau dysgu iaith arall, felly pan symudais i Fangor roeddwn eisiau gwneud yr ymdrech i ddysgu'r Gymraeg, fel y gallwn gyfathrebu ag unigolion yn eu hiaith eu hunain.
"Dechreuais i ddysgu Cymraeg drwy wneud cwrs ar-lein, ac yn y pendraw mi wnes i gwrs pellach yng Ngholeg Menai, a'i gwblhau mewn blwyddyn.
"Sylwais pan ddechreuais gynnal fy ymgynghoriadau gyda chleifion sy'n siarad Cymraeg yn eu hiaith gyntaf y gwahaniaeth roedd hyn yn ei wneud.
"Mae cleifion yn hapusach i drafod eu symptomau a'u problemau yn eu hiaith eu hunain, yn enwedig plant."
Ymddangosodd Mr Moore ar gyfres lwyddiannus 'Ward Plant' ar S4C, yn cyfathrebu â'i gleifion ifanc a theuluoedd yn Gymraeg.
"Roedd yn wych bod yn rhan o raglen Gymraeg, a sylwais pan roedd cleifion newydd yn dod i'r clinig eu bod yn siarad Cymraeg â mi yn syth, gan eu bod wedi fy ngweld ar y rhaglen, ac roedd hynny'n deimlad gwych" ychwanegodd.
Dywedodd Mr Moore, sydd wedi gweithio mewn nifer o ysbytai ar draws y Deyrnas Unedig cyn symud i Ogledd Cymru, ei fod yn falch o gael ei anrhydeddu gan yr Orsedd.
Bydd y tad i ddau ymysg sêr rygbi, comediwyr a cherddorion yn y seremoni eleni.
Dywedodd: "Mae hyn wir yn anrhydedd i mi, ac yn rhywbeth i'w gymryd o ddifrif.
"Rwyf wedi gweld y rhestr o'r rhai sy'n cael eu cydnabod, ac maent wedi cael effaith fawr ar y wlad, felly rwy'n teimlo'n falch iawn i fod yn eu plith.
"Rwyf hefyd yn falch iawn fy mod yn gwneud swydd rwyf yn ei charu, ac mae dysgu Cymraeg wedi fy helpu i wneud fy swydd yn hyn yn oed gwell.
Mae Eleri Hughes Jones, Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi disgrifio beth mae Mr Moore wedi ei gyflawni gyda'r Gymraeg yn 'werth chweil'.
Dywedodd: "Hoffwn longyfarch Mr Moore ar gael ei urddo i’r Orsedd, sy’n gyflawniad gwych ynddo’i hun.
"Hoffwn ei longyfarch hefyd am ei ymdrech a’i ymroddiad i ddysgu’r iaith dros y blynyddoedd diwethaf. Rwyf wedi gweld Mr Moore yn datblygu o fod yn cychwyn ar ei daith yn dysgu’r iaith, i sefyllfa lle mae o’n gallu cynnal clinigau yn Gymraeg, ac mae hyn wir yn glodwiw.
"Mae’r gwahaniaeth mae o’n ei wneud i gleifion wrth allu trin a thrafod problemau iechyd yn Gymraeg i’w edmygu’n fawr.
"Mae wedi bod yn gweithio tuag at y nod hwn er mwyn gallu cynnig y gwasanaeth gorau posib i’w gleifion”.
"Rydym fel Bwrdd Iechyd yn cynnig cefnogaeth i’n holl staff i ddysgu Cymraeg er mwyn cynyddu ein capasiti i allu darparu gwasanaethau’n Gymraeg, ac mae Mr Moore yn esiampl wych o rywun sydd wedi buddsoddi ac ymroi’n llwyr i wneud hynny.”
"Mae o’n gwbl haeddiannol o’r gydnabyddiaeth hon, ac rydyn ni gyd yn falch iawn ohono fo. Da iawn Mr Moore!”