Neidio i'r prif gynnwy

Lansiwyd Hwb Dementia i gefnogi'r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau

Lansiwyd Hwb Dementia yn Ysbyty Gwynedd i alluogi staff i ddarparu cefnogaeth i’r rhai sy’n byw gyda’r cyflwr yn ystod yr achos cyfredol o COVID-19.

Bydd y gwasanaeth yn gweithredu dros saith niwrnod yr wythnos o’r ysbyty gan y Tîm Dementia.

Dywedodd Delyth Thomas, Nyrs Ymarferydd, ei bod wrth ei bodd eu bod yn gallu cynnig y gwasanaeth hwn i sicrhau eu bod yn gallu darparu cefnogaeth i’r rhai sy’n byw gyda dementia yn ystod y cyfnod digynsail hwn.

Dywedodd “mae hwn yn gyfnod pryderus dros ben i bobl sy’n byw gyda dementia, ynghyd â’u gofalwyr, teuluoedd a chyfeillion.  

“Dymuna’r tîm dementia yma yn Ysbyty Gwynedd eich sicrhau y byddwn yn gwneud ein gorau i’ch cefnogi yn ystod yr amser anodd hwn.

“Er mwyn cyflawni hyn, rydym wedi sefydlu Hwb Dementia dwyieithog dros dro i ddarparu cefnogaeth dros y ffôn.

“Bydd y gwasanaeth saith niwrnod hwn ar agor rhwng 8.30am a 4.30pm, ac os bydd angen i ni fod allan o’r swyddfa am ba bynnag reswm, gadewch neges a byddwn yn cysylltu’n ôl â chi cyn gynted a phosibl. Gellwch hefyd adael neges i ni y tu allan i’r oriau agor a byddwn yn cysylltu’n ôl â chi.” 

Mae’r tîm hefyd yn gweithio ochr yn ochr ag  Alzheimer’s UK a Chynnal Gofalwyr sy’n gallu cynnig cefnogaeth i deuluoedd a gofalwyr.

Cysylltwch â’r Hwb Dementia am wybodaeth bellach drwy ffonio 01248 384384 a gofyn am estyniad 4041.