Neidio i'r prif gynnwy

Labordai Gwyddorau Gwaed y Bwrdd Iechyd yn cynnal achrediad cenedlaethol

07/05/2021

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cynnal ei achrediad (ISO 15189) am ei labordai Gwyddorau Gwaed yn dilyn asesiad gan Wasanaeth Achredu Cenedlaethol y Deyrnas Unedig (UKAS). 

Mae UKAS yn arweinydd cenedlaethol mewn achredu labordai meddygol trwy broses drylwyr sy’n gwirio eu cywirdeb, didueddrwydd a’u galluedd. 

Cynhaliodd UKAS asesiad dros dro ar gyfer tri gwasanaeth labordy Gwyddorau Gwaed y Bwrdd Iechyd, gyda’r aseswyr yn nodi perfformiad ardderchog yn erbyn y safonau a datblygiad a gwelliannau amlwg.

Mae’r labordai Gwyddorau Gwaed yn ymgorffori casglu gwaed gan gleifion ar gyfer ei archwilio, cynnal profion gwaed i roi diagnosis o salwch, paru gwaed a roddir i gleifion sydd ei angen, archwilio clefydau imiwnedd a llawer mwy. 

Asesodd UKAS pob elfen o’r gwasanaeth yn cynnwys cludo samplau, prosesu samplau, dehongli canlyniadau a’u dilysu, adrodd a’i holl brosesau ansawdd a llywodraethu. 

Dywedodd Rachael Surridge, Rheolwr Gwasanaethau Gwyddorau Gwaed, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae canlyniad arbennig yr asesiad UKAS hwn i gyd oherwydd gwaith caled y timau Ansawdd a Llywodraethu Patholeg a Gwyddorau Gwaed yn gweithio gyda’i gilydd. 

“Nid yw asesiad UKAS yn giplun, mae’n edrych yn fanwl iawn dros y 18 mis diwethaf ac yn gofyn i ansawdd, effeithiolrwydd a diogelwch gael ei adeiladu i mewn i’r gwasanaeth a’i ddarparu gan y staff drwy gydol y flwyddyn.

Mae wedi bod yn flwyddyn anodd i bawb a diolch i waith caled ac ymroddiad yr holl staff, mae’r gwasanaeth wedi gwella a datblygu unwaith eto. 

"Dim ond ychydig o wasanaethau sy’n cael eu craffu i’r manylder y mae Patholeg yn ei gael ac unwaith eto mae’r staff yn y tîm Ansawdd Patholeg a Gwyddorau Gwaed wedi dangos eu hymrwymiad i ddarparu’r gwasanaeth gorau i gleifion a chlinigwyr i gefnogi’r gofal clinigol ardderchog a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd. Hoffwn ddiolch i bawb am eu gwaith caled.” 

Mae’r asesiad llwyddiannus yn dangos ansawdd, effeithiolrwydd a safon y gwasanaeth gan sicrhau bod cleifion a chlinigwyr yn cael yr un gwasanaetho safon uchel a phriodol waeth beth yw’r lleoliad neu’r arbenigedd. 

Mae’r gwasanaeth wedi cael nifer fechan o gamau gwelliannau, ond nodwyd bod y rhain yn rhai gweinyddol ac nad oeddent yn adlewyrchu ar ansawdd a diogelwch y gwasanaeth. 

Mae asesiadau achredu i ISO 15189 yn sicrhau bod labordai yn bodloni’r gofynion perthnasol yn cynnwys gweithrediad system rheoli ansawdd a’r gallu i ddangos bod gweithgareddau penodol yn cael eu gwneud o fewn y meini prawf a osodwyd yn y safon berthnasol. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod tasg i’w weithlu gwyddorau gofal iechyd o ddatblygu cynllun achredu cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau dan arweiniad gwyddorau gofal iechyd a gweithio gyda UKAS at wasanaethau mwy achrededig. 

Mae achrediad yn darparu llawer o fuddion i gleifion fel gwybod bod cysondeb yn ansawdd y gofal, bod gan y gwasanaeth dechnoleg ddiweddar, a bod ei weithdrefnau a’i dechnegau yn adlewyrchu’r arfer gorau cyfredol.