Anogir pobl i gymryd camau syml i helpu i atal lledaenu clefydau marwol posibl ar draws Gogledd Cymru.
Mae imiwneiddiadau'n achub miliynau o fywydau ar draws y byd bob blwyddyn. Gall llawer o glefydau y gellir eu hatal trwy frechu, fel y ffliw neu'r frech goch, arwain at ganlyniadau dinistriol i rai unigolion.
Mae Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn arwain dull newydd strategol i sicrhau bod y niferoedd sy'n cael imiwneiddiad mor uchel â phosibl.
Dywedodd: "Imiwneiddiadau yw un o'r ymyriadau iechyd cyhoeddus fwyaf cost effeithiol - maent yn ein helpu i aros yn iach a gall achub bywydau. Mae ystod o raglenni brechu drwy gydol bywyd sy'n helpu i atal nifer o wahanol glefydau, a gall llawer ohonynt fod yn niweidiol iawn i'n hiechyd.
"Yn y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld achosion o'r ffliw a'r frech goch ar draws Gogledd Cymru, byddai nifer ohonynt wedi eu hatal pe byddai mwy o bobl wedi cael brechiad y ffliw a MMR (Brech Goch, Clwy'r Pennau a Rwbela). Er ein bod yn gwneud yn gymharol dda gyda'r nifer sy'n cael brechiad yng Ngogledd Cymru o'i gymharu â rhannau eraill o Gymru, mae mwy y gallwn ei wneud gyda'n gilydd i gynyddu'r nifer sy'n cael y brechiad ac amddiffyn mwy o bobl rhag y clefydau hyn.
"Mae brechiadau yn ddiogel ac yn effeithiol ar gyfer y rhai sy'n gymwys ac rwy'n annog pawb i gael eu brechiad pan mae'n cael ei gynnig. Peidiwch â phoeni os ydych yn meddwl eich bod wedi methu brechiad, gofynnwch i'ch Meddygfa neu'ch Ymwelydd Iechyd gan y gallwch ei gael o hyd."
Ar hyn o bryd mae pobl yn cael eu hannog i sicrhau eu bod yn cael eu hamddiffyn rhag y ffliw a bydd brechiadau'n cael eu cynnig hyd nes ddiwedd mis Mawrth. Os nad ydych wedi cael eich brechiad ffliw neu os nad ydych yn sicr eich bod yn gymwys, cysylltwch â'ch Meddygfa. Os nad ydych yn sicr bod eich plentyn wedi cael dau ddos y brechiad MMR, gwiriwch gyda'ch Meddygfa neu Ymwelydd Iechyd a sicrhewch ei fod yn gyfredol.
Am fwy o wybodaeth am Gynllun Strategol Imiwneiddiadau'r Bwrdd Iechyd (2019-2022), gan gynnwys mwy o fanylion ar frechiadau'r ffliw a MMR, ewch ar y dudalen Imiwneiddiadau ar wefan BIPBC.