Gwahoddir staff y GIG ar draws Gogledd Cymru i drydydd Gemau blynyddol Betsi, ddydd Sadwrn, 13 Gorffennaf.
Trefnir y diwrnod o hwyl i'r teulu ym Mharc Eirias gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mae timau o weithwyr y GIG yn cystadlu mewn digwyddiadau ar ffurf chwaraeon ysgol wrth godi arian at achosion da.
Mae Gemau Betsi yn rhan o strategaeth ehangach y Bwrdd Iechyd i hybu byw'n iach, ymgysylltiad staff, gweithgarwch corfforol a gwella iechyd cyffredinol ei weithlu.
Mae gweithgareddau ar gael i bobl o bob oed a gallu, gan gynnwys tynnu rhaff, "wellie wanging", rownderi a chwrs rhwystrau gwynt 120 troedfedd.
Trefnir y digwyddiad gan reolwyr graddedigion BIBPC fel rhan o'u hamser o fewn Tîm Ardal y Canol.
Dywedodd Robyn Watson, Rheolwr Graddedigion ar gyfer Gofal Cychwynnol a Cymuned: "Rydym yn gobeithio y bydd ein trydydd Gemau Betsi y mwyaf a'r gorau eto.
"Mynychodd dros 150 o bobl y llynedd, ac rydym yn gobeithio dyblu'r nifer hynny gyda'r digwyddiad eleni.
"Gall timau o rhwng wyth ac ugain gofrestru i gymryd rhan, ac rydym yn dymuno croesawu cydweithwyr ar draws Gogledd Cymru i gymryd rhan mewn diwrnod sy'n llawn hwyl.
"Mae timau'n cynnwys staff, ffrindiau a theuluoedd. Mae croeso i blant fynychu a bydd bron pob gweithgaredd yn cynnwys digwyddiadau i blant yn unig.
Eleni, mae trefnwyr y digwyddiad yn caniatáu i sefydliadau partner gofrestru hefyd.
Gwahoddir timau o awdurdodau lleol, grwpiau cymuned ac elusennau i gofrestru eu timau ei hunain i gystadlu ochr yn ochr â thimau staff y GIG ar draws Gogledd Cymru.
Ychwanegodd Robyn "Eleni byddwn yn croesawu timau o sefydliadau partner i gymryd rhan hefyd.
"Mae'r gemau wedi bod yn llwyddiannus iawn dros y blynyddoedd diwethaf, a gobeithio y gallwn ddod â mwy o sefydliadau at ei gilydd at beth fydd yn ddigwyddiad llawn hwyl.”
Gallwch gofrestru tîm ar gyfer y Gemau Betsi drwy gysylltu â betsi.games@wales.nhs.uk
Mae Gemau Betsi 2019 yn cael ei chynnal dydd Sadwrn 13 Gorffennaf 2019 ym Mharc Eirias, Ffordd Abergele, Bae Colwyn LL29 8BN,rhwng 11am a 3pm.