Neidio i'r prif gynnwy

Hwb ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol i gefnogi mamau newydd a darpar famau

14.04.22

Bydd gwasanaeth iechyd meddwl arbenigol i famau newydd a darpar famau yng ngogledd Cymru’n cael ei ehangu’n sylweddol.

Bydd y buddsoddiad yng Ngwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn sicrhau bod merched sy’n profi anawsterau iechyd meddwl cymedrol i ddifrifol yn ystod eu beichiogrwydd neu’r flwyddyn ôl-enedigol yn gallu cael cefnogaeth arbenigol yn gynt.

Unwaith y bydd y broses recriwtio staff ychwanegol wedi’i chwblhau, hwn fydd y gwasanaeth cyntaf yng Nghymru i fodloni safonau amenedigol cymunedol Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ar gyfer staffio.

Mae problemau iechyd meddwl amenedigol yn effeithio hyd at 20 y cant o ferched yn ystod eu beichiogrwydd a’r flwyddyn ôl-enedigol gyntaf. Maent yn cynnwys ystod o gyflyrau sydd wedi’u cysylltu’n benodol â beichiogrwydd neu eni plentyn, megis iselder amenedigol, gorbryder amenedigol, trawma geni, OCD mamol a seicosis ôl-enedigol. Mae merched sydd wedi cael diagnosis salwch meddwl cyn eu bod yn feichiog yn fwy tebygol o gael pwl arall o salwch yn ystod y cyfnod amenedigol.

Yn ogystal â chael effaith andwyol ar famau newydd, gall y cyflyrau hyn hefyd beryglu lles emosiynol a chorfforol eu plant a chael effaith ar y teulu ehangach.

Dywedodd Debbie Grifffin, Rheolwr Gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol BIPBC:

“Mae darparu cefnogaeth amserol ac effeithlon i famau newydd a darpar famau sy’n cael trafferthion gyda’u hiechyd meddwl yn holl bwysig nid yn unig ar gyfer eu hiechyd eu hunain, ond ar gyfer iechyd a lles tymor hir eu plant.

“Rydyn ni’n gwybod bod y 1,001 diwrnod cyntaf  - o’r cyfnod beichiogrwydd hyd at benblwydd y plentyn yn ddwy flwydd oed – yn amser tyngedfennol o ran gosod sylfeini ymlynu, datblygiad deallusol ac iechyd gydol oes unigolion.

“Bydd y buddsoddiad yn galluogi ehangu’r gwasanaeth arbenigol bach i gyd-fynd â maint yr ardal ddaearyddol y mae’r tîm yn ei gwasanaethu. Bydd yn ein galluogi i ddarparu ymyriadau therapiwtig arbenigol seiliedig ar dystiolaeth a therapïau mewn modd mwy amserol, a lleihau amseroedd aros ar gyfer ymyriadau seicolegol.

“Bydd hefyd yn sicrhau mai ni yw’r gwasanaeth iechyd meddwl amenedigol cymunedol cyntaf yng Nghymru i fodloni safonau staffio’r Coleg Brenhinol y Seiciatryddion. Bydd hyn yn galluogi’r tîm i ddarparu gofal o ansawdd uchel sydd â sylfaen dystiolaeth gadarn er mwyn sicrhau bod merched yn derbyn gofal addas, amserol a chymesur.

“Bydd ehangu’r gwasanaeth hefyd yn ein galluogi i ddatblygu ein rhaglen hyfforddi fel y gallwn ddarparu hyfforddiant arbenigol amenedigol i’n meddygon teulu, bydwragedd, ymwelwyr iechyd a chydweithwyr iechyd meddwl oedolion. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn adnabod yr holl ferched sy’n dioddef problemau iechyd amenedigol mor gynnar â phosibl yn ystod y cyfnod amenedigol a’u bod yn derbyn asesiad, ymyriad a chefnogaeth o’r ansawdd uchaf.”

Mae’r buddsoddiad wedi ei chyllido gan Gronfa Trawsnewid Cymru Iachach Llywodraeth Cymru a BIPBC.

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr hefyd yn cydweithio gyda Phwyllgor Iechyd Arbenigol Cymru a Llywodraeth Cymru er mwyn gwella’r ddarpariaeth iechyd meddwl i gleifion mewnol yr uned mamau a phlant, sy’n byw yng ngogledd Cymru.