Mae gŵr o Gricieth, sy’n gwella ar ôl canser y bledren, wedi rhoi dros £5,500 i dîm Wroleg Ysbyty Gwynedd i ddiolch iddynt am eu gofal.
Mae Arwyn Hughes, 65, a gafodd ddiagnosis o ganser y bledren ac a gafodd lawdriniaeth Cystectomi i dynnu ei bledren yn gynharach eleni, wedi canmol y gofal dilynol a gafodd gan dîm yr ysbyty.
Dywedodd: “Er fy mod wedi cael y llawdriniaeth yng Nghasnewydd, cefais y rhan fwyaf o’r sganiau a’r gofal dilynol yn Ysbyty Gwynedd.
“Fe wnes i ddarganfod eu bod yn codi arian at ystafell breifat ar wahân i gleifion yn eu hadran.
“Roeddwn i wir eisiau helpu felly fe wnes i ddechrau codi arian eleni i’w helpu nhw i agor yr ystafell angenrheidiol yma.”
Diolch i ymdrechion Arwyn, mae gan y nyrsys wroleg ystafell breifat benodol yn eu hadran i roi mwy o wybodaeth ar driniaethau i’w cleifion ar ôl iddynt gael eu diagnosis.
Dywedodd Linda Williams, Arbenigydd Nyrsio Clinigol Wro-Oncoleg: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Arwyn am godi’r arian.
“Rydym wedi gwirioni fod gennym le preifat ar wahân yn ein hadran. Cynt, roedd yn anodd dod o hyd i ystafell i gael y trafodaethau ychwanegol pwysig hynny â chleifion, felly mae cael yr ystafell hon yn wych a bydd yn fantais fawr i’n cleifion.”
Mae Arwyn wedi penderfynu siarad am ei ddiagnosis â chanser i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd dynion i nodi’r digwyddiad blynyddol Movember.
Ychwanegodd: “Byddwn yn annog unrhyw un sy’n cael symptomau sy’n peri pryder i gysylltu â’u Meddyg Teulu.
“Mae’n bwysicach rŵan nag erioed, yn enwedig yn ystod y pandemig i beidio ag oedi.
“Mi wnes i sylwi ar waed yn fy nŵr i ddechrau a wnes i ddim meddwl llawer am y peth nes i mi ddweud wrth fy ngwraig, ac mi wnaethom drefnu apwyntiad yn syth gyda’r Meddyg Teulu!
“Mae dynion yn tueddu i beidio â chymryd llawer o sylw ac yn gyffredinol yn oedi cyn mynd at eu meddyg os oes rhywbeth o’i le. Beth fyddwn i’n bwysleisio ydi mai eich iechyd ydi’r peth pwysicaf ac os ydych yn gweithredu’n gyflym, mae’n rhoi gwell cyfle i chi ddal unrhyw beth annifyr yn gynnar.”
I gael mwy o wybodaeth am Movember ewch i https://uk.movember.com/