Mae dysgwyr Cymraeg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dathlu ar ôl cael marciau uchel am eu sgiliau iaith.
Mae grŵp o staff gofal iechyd wedi derbyn eu Tystysgrifau Cymraeg ar ôl cwblhau cwrs unigryw a gynigwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae'r Tystysgrif Sgiliau Iaith yn gymhwyster sydd wedi'i gydnabod a'i achredu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC) sydd wedi’i ddatblygu i alluogi ymgeiswyr i ennill tystysgrif i ddangos tystiolaeth o'u sgiliau Cymraeg a'u gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae'r cwrs, sydd wedi'i gyflwyno fel cynllun peilot yn y Bwrdd Iechyd, hefyd yn ceisio hybu'r gallu i gyfathrebu yn hyderus ac yn broffesiynol yn Gymraeg, ar ffurf ysgrifenedig ac ar lafar er mwyn ymateb i anghenion y boblogaeth leol.
Mae Andrew Owen, Rheolwr Prosiect Macmillan, yr unigolyn cyntaf y tu allan i'r sector addysg uwch i gwblhau dwy ran y Dystysgrif Sgiliau Cymraeg, yn dweud bod dysgu'r iaith nid yn unig wedi gwella ei gyfathrebu gyda chydweithwyr Cymraeg ond hefyd gyda'r rhai y tu allan i'r gweithle.
Dywedodd: "Cwblheais rannau ysgrifenedig a llafar y dystysgrif o fewn blwyddyn ac roeddwn yn falch i ddarganfod fy mod wedi llwyddo yn y ddwy ran.
"Rwy'n wreiddiol o Landdulas a phan symudais i Gaernarfon daeth yn amlwg i mi bod mwyafrif y boblogaeth yn siarad Cymraeg felly roeddwn eisiau gwneud yr ymdrech i ddysgu'r iaith.
"Mae dysgu'r iaith wedi fy ngalluogi i siarad â phobl yn y dref yn eu hiaith gyntaf a hefyd gyda chydweithwyr yn yr ysbytai.
"Rwyf yn falch iawn o dderbyn y dystysgrif hon a hoffwn ddiolch i Ceri ein tiwtor Cymraeg am ei holl gefnogaeth drwy gydol ein gwersi Cymraeg - mae'n athrawes wych ac yn angerddol iawn dros yr hyn mae'n ei wneud."
Dywedodd Sharon Moore, Nyrs Ymarferydd yn yr Uned Asesu Cyn-llawdriniaeth yn Ysbyty Gwynedd, sydd wedi llwyddo yn ei harholiad llafar, bod gwella ei sgiliau iaith wedi ei galluogi i siarad â chleifion Cymraeg yn eu hiaith gyntaf.
Dywedodd: "Mae wedi bod o fudd mawr i mi gael y cyfle i fynychu gwersi Cymraeg drwy'r bwrdd iechyd.
"Rwy'n gweld cleifion sy’n siarad Cymraeg sy'n dod am eu hasesiad cyn llawdriniaeth felly mae'n bwysig i mi fy mod yn gallu siarad â nhw yn eu hiaith gyntaf fel eu bod yn teimlo'n fwy cyfforddus."
Dywedodd Eryl Young, Therapydd Iaith a Lleferydd sy'n gweithio yn y gymuned yng Ngwynedd ac Ynys Môn, bod y cwrs wedi rhoi hwb i'w hyder i ddefnyddio'r iaith yn y gweithle.
Dywedodd: "Rwyf wedi gallu siarad Cymraeg erioed ond nid oeddwn yn teimlo'n ddigon hyderus i'w defnyddio yn y gwaith.
"Rwy'n ymweld â nifer o ysgolion yn y gymuned fel rhan o fy swydd ac nid oeddwn yn teimlo'n ddigon hyderus i siarad yn Gymraeg â'r athrawon rwyf yn cyfarfod â nhw.
"Yn y flwyddyn ddiwethaf drwy gael gwersi a rŵan drwy lwyddo yn yr arholiad llafar rwy'n teimlo'n llawer mwy hyderus ac rwy'n dechrau'r rhan fwyaf o sgyrsiau yn y gwaith yn Gymraeg."
Hefyd yn cael eu tystysgrifau arholiad llafar oedd y Llawfeddyg Mr Phillip Moore, Geriatregydd Dr Sally Jones, Seiciatrydd Ymgynghorol John Clifford, Technegydd Fferyllfa Yankier Perez a Martin Williams, Dadansoddwr TG sydd wedi dysgu'r Gymraeg er budd cleifion sy'n siarad Cymraeg.
Dywedodd Ceri Phillips, tiwtor Cymraeg y Bwrdd Iechyd, sy'n cynnig cyfleoedd helaeth ar wahanol lefelau i staff ddysgu Cymraeg,: "Llongyfarchiadau mawr i'r staff sydd wedi llwyddo yn eu harholiad llafar ac i Andrew Owen am gwblhau dwy ran y dystysgrif, rwyf yn falch iawn ohonynt i gyd gan eu bod wedi gwneud yn wych.
"Hoffwn ddiolch hefyd i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a CBAC am wahodd y Bwrdd Iechyd i gymryd rhan yn y cynllun peilot, ni yw'r sefydliad cyntaf y tu allan i'r sector addysg uwch i gymryd rhan yn y Dystysgrif Cymraeg.
"Rwyf yn falch iawn o bob aelod o staff sydd wedi cymryd rhan yn y dystysgrif eleni, ac rwy'n edrych ymlaen at fod yn rhan o'r cynllun peilot Tystysgrif Sgiliau Iaith eto'r flwyddyn nesaf."
Dywedodd Tanya Morgans o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Roedd yn bleser i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol gydweithio gyda Ceri Phillips a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wrth iddynt weithredu’r Cynllun Peilot Tystysgrif Sgiliau Iaith yn y gweithle eleni.
“Hoffai’r Coleg longyfarch brwdfrydedd yr ymgeiswyr tuag at y Gymraeg wrth iddynt baratoi at y Dystysgrif a hefyd o fewn eu gwaith o ddydd i ddydd. Edrychwn ymlaen at gydweithio eto yn ystod y flwyddyn nesaf.”