Mae meddyg o Ysbyty Gwynedd wedi derbyn gwobr arbennig am ei gyfraniad at dreial ymchwil cenedlaethol allweddol yn ystod y pandemig.
Derbyniodd Dr Chris Subbe y Wobr am Efaith ar Gleifion yng Ngwobrau Rhagoriaeth Ymchwil ac Arloesi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eleni.
Gwnaeth Tîm Ymchwil a Datblygiad Ysbyty Gwynedd enwebu Dr Subbe am y rôl sylweddol a gyflawnodd o ran ei barodrwydd i ymgymryd â rôl Prif Ymchwilydd treial RECOVERY.
Gwnaeth y treial ymchwil rhyngwladol proffil uchel agor yn ystod ton gyntaf y pandemig a'i nod yw canfod triniaethau a allai fod yn fuddiol i bobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty gydag achosion tybiedig neu sydd wedi'u cadarnhau o COVID-19.
Dywedodd Wendy Scrase, Nyrs Arbenigol Ymchwil Clinigol yn Ysbyty Gwynedd: "Mae gweithio ar y treial wedi bod yn brofiad positif i'r holl staff sydd ynghlwm wrth y cyfan ac rydym yn ddiolchgar iawn i Dr Subbe am ei gyfraniad at ein hadran.
"Yn sicr, gwnaeth y treial roi'r cyfle i'r tîm ymchwil weithio gyda'r clinigwyr yn rheng flaen gofal ar gyfer cleifion o'r fath ac roedd hefyd yn ffordd wych o gyflwyno egwyddorion ymchwil i newydd-ddyfodiaid.
"Y timau a fu'n gysylltiedig â’r treial oedd nyrsys ymchwil, nyrsys wardiau, fferyllwyr, fflebotomyddion, meddygon iau a meddygon ymgynghorol. Yn ein hysbyty, daeth llawer o glinigwyr yn fwyfwy ymwybodol o waith yr Adran Ymchwil ar y cyfan, oherwydd proffil uchel y treial RECOVERY a bu Dr Subbe yn hollbwysig o ran annog nifer fawr o aelodau staff i gymryd rhan.
“Roedd y budd a ddaeth o gynnal y treial hwn yn ein hysbyty yn golygu bod gan gleifion a dderbyniwyd i'r ysbyty gydag achosion tybiedig neu wedi'u cadarnhau o COVID-19 y cyfle i gael mynediad at opsiynau triniaeth eraill os gwnaethant roi eu cydsyniad. Mynegodd cleifion barodrwydd i gymryd rhan yn bennaf oherwydd eu bod yn awyddus i helpu eraill yn y dyfodol, roeddent yn wirioneddol ddiolchgar i gael triniaeth ar y GIG."
Dywedodd Dr Subbe ei fod yn fraint ganddo weithio mewn tîm mor angerddol yn ystod y treial hollbwysig hwn.
Dywedodd: "Gwnaeth y treial RECOVERY roi cyfle cystal i gleifion sy'n byw yng Ngogledd Cymru i gael mynediad at driniaethau newydd sy’n achub bywyd ag unrhyw gleifion eraill yn y Deyrnas Unedig.
"Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at y treial hwn ac yn benodol i Alice Thomas a'i thîm, fy nghyd feddygon ymgynghorol, yr aelodau iau a ddilynodd yr hyfforddiant a Laura Longshaw.
"Mae'n fraint ac yn anrhydedd derbyn y wobr hon ond roedd yn ymdrech enfawr ar y cyd ac mae'r wobr hon yn cydnabod y gwaith caled a wnaed gan bawb fu ynghlwm wrth y cyfan."
Daeth Tîm Ymchwil a Datblygiad y Bwrdd Iechyd yn agos i'r brig yn y categori hwn am arwain Brechlyn Novavax a threialon Cov-Boost sydd wedi recriwtio dros 600 o gyfranogwyr hyd yma.
Ychwanegodd Lynne Grundy, Cyfarwyddwr Cyswllt Ymchwil ac Arloesi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Pleser o'r mwyaf yw cydnabod ein hymchwilwyr a'n harloeswyr sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ofal cleifion.
"Roedd y dasg anodd iawn i'r beirniaid ddethol yr enillwyr gan fod cymaint o waith da ar y gweill, ac mae pob un mor haeddiannol o'r gwobrau.
"Rydym bellach yn edrych ymlaen at gynnig y gwobrau hyn bob blwyddyn."
Dywedodd Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yr Athro Kieran Walshe:
"Rydym am longyfarch i Dr Subbe, ac i ddiolch i'n holl staff ymchwil sydd wedi gweithio'n ddiflino trwy gydol y pandemig i barhau â gwaith ymchwil hanfodol. Rydym yn falch o'r ymdrechion y mae staff wedi'u gwneud er mwyn parhau i roi gofal o'r radd flaenaf i gleifion gyda phob math o afiechydon."