Mae mam o Rosgadfan wedi canmol cynllun gwirfoddoli am roi profiad amhrisiadwy iddi baratoi at yrfa mewn bydwreigiaeth.
Mae Jane Cooper, sy'n 40 oed, a ddaeth yn un o wirfoddolwyr Robin y Bwrdd Iechyd ym mis Hydref 2018 yn awr yn edrych ymlaen at ddechrau cwrs Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Bangor ym mis Medi.
Mae'r Robin cyfeillgar wedi rhoi cefnogaeth i nifer o famau newydd ar Ward Llifon drwy dreulio amser a chael sgwrs gyffredinol, paratoi diodydd poeth ac oer yn ogystal â chynorthwyo staff nyrsio i wneud gwelyau.
Dywedodd: "Mae fy mhrif rôl wedi cynnwys bod yn ffrind i famau newydd sydd wedi'u derbyn i'r ward cyn ac ar ôl iddyn nhw gael eu plant.
"Mae wedi bod yn hyfryd cyfarfod â nifer o wahanol famau a hefyd eu gweld gyda'u babis newydd.
"Rwyf wedi bod â diddordeb mewn bod yn fydwraig erioed felly pan roeddwn yn llwyddiannus yn y broses recriwtio ar gyfer y cynllun gwirfoddolwyr Robin roeddwn yn falch o glywed y byddwn yn cael fy lleoli ar Ward Llifon.
"Mae bod yn rhan o'r tîm wedi datblygu fy sgiliau cyfathrebu ac mae wedi rhoi cipolwg i mi ar yr yrfa yr hoffwn ei dilyn, fyddwn i ddim wedi cael hynny pe na bawn i wedi gwirfoddoli.”
Mae Jane, sy'n fam i dri o blant, wedi breuddwydio am fod yn fydwraig erioed ac mae'n falch ei bod wedi cael cipolwg gwerthfawr ar yr alwedigaeth trwy wirfoddoli cyn dechrau ei chwrs gradd.
"Gan fod gen i dri o blant, dim ond gwaith rhan amser rwyf wedi gallu ei wneud erioed, felly pan ddes i ar draws y cynllun gwirfoddoli, meddyliais, dyma ffordd wych o roi rhywbeth yn ôl i'r GIG a hefyd ffordd i ddysgu oddi wrth y gweithwyr iechyd proffesiynol ar y ward.
"Byddwn yn annog unrhyw un sydd eisiau helpu eraill neu efallai cael cipolwg ar yrfa y maen nhw'n dymuno ei dilyn i wneud cais i fod yn wirfoddolwr Robin. Mae wedi bod yn fuddiol iawn i mi a hoffwn ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ac am wneud i mi deimlo'n rhan o'r tîm."
Disgrifiodd cyd wirfoddolwr Jane ar Ward Llifon, Sharon Fon-Roberts, hi fel 'ased gwych' i'r GIG.
Dywedodd: "O'r eiliad y bu i mi gyfarfod â Jane, roeddwn yn gwybod y byddai'n ased gwych i'r ward a'r GIG. Yn ystod y shifftiau cysgodi roedd yn awyddus i ddysgu o'r dechrau, gofynnodd gwestiynau doeth, a derbyniodd ei chyfrifoldebau yn broffesiynol.
"Mae gan Jane agwedd gadarnhaol iawn, mae ganddi bob amser wên ar ei hwyneb ac mae’n bendant yn gwneud profiad y cleifion yn un hapus. Rwy'n sicr y bydd yn gwneud bydwraig wych."
Ychwanegodd Nia Lloyd-Roberts, Cydlynydd Gwirfoddoli ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rwy'n falch iawn dros Jane, ei bod wedi cael ei derbyn ar y cwrs BM (Anrhydedd) Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Bangor.
"Er y byddwn yn drist i golli gwirfoddolwr Robin gwych, rwy'n gwybod cymaint oedd hi eisiau astudio Bydwreigiaeth ac rwy'n meddwl y bydd hi'n fydwraig wych.
"Rwyf hefyd yn gwybod bod Jane yn teimlo bod ei phrofiad fel gwirfoddolwr Robin ar Ward Llifon wedi rhoi hwb i'w hyder ac wedi rhoi profiad amhrisiadwy iddi ymysg bydwragedd a staff eraill ar yr uned.
"Mae hi wedi bod yn wirfoddolwraig ymroddedig a dibynadwy ac rwy'n dymuno'n dda iddi ar gyfer y dyfodol."
Dywedodd Susan Marriott, Rheolwr Gwirfoddoli BIPBC, ei bod yn falch iawn o'i holl Robiniaid sy'n gwirfoddoli ar gyfer y GIG yng Ngogledd Cymru.
Ychwanegodd: "Rydym yn falch iawn o Jane a'r holl Robiniaid, mae'n ymrwymiad mawr gwirfoddoli fel 'rhan o dîm' yn ein hysbytai ond gall y gwobrau fod yn enfawr i bawb!"
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â dod yn wirfoddolwr Robin ewch i: https://www.bcugetinvolved.wales/the-robins