Neidio i'r prif gynnwy

Gwirfoddolwr o Ysbyty Maelor Wrecsam yn ennill gwobr am 14 mlynedd o ymroddiad

30/10/2023

Mae'r gwirfoddolwr Edward Parr, sydd wedi cael ei ddisgrifio fel 'system llywio â lloeren ar ffurf dyn' yn Ysbyty Maelor Wrecsam, wedi ennill gwobr arbennig am ei ymrwymiad i helpu cleifion.

Ymunodd Ed â'r Robiniaid, cynllun gwirfoddoli, yn 2009 ac am ei wasanaeth hir, enillodd Gwobr Gwirfoddoli Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yng Ngwobrau Cyrhaeddiad 2023 eleni, a gynhaliwyd yn Venue Cymru ddydd Gwener, 20 Hydref.

Mae Ed yn dywysydd i'r Robiniaid a gellir ei weld wrth y brif fynedfa'n cyfarch ac yn cyfeirio ymwelwyr a chleifion at yr adran gywir.

Dywedodd Julie Parry, Cydlynydd Gwirfoddolwyr yn Ysbyty Maelor Wrecsam: "Mae gwybodaeth Ed am Ysbyty Maelor yn anhygoel. Mae Ed yn gweithio'n galed i aros yn ymwybodol o'r newidiadau diweddaraf ar safle Ysbyty Maelor.

"Mae Ed yn mwynhau helpu eraill ac yn gwneud i eraill deimlo'n gyfforddus, ac mae'n wych am wneud hynny. Mae wedi ffurfio cydberthynas ardderchog gyda llawer o bobl yn yr ysbyty gan gynnwys staff a Robiniaid eraill. Mae wedi gwneud, ac mae'n parhau i wneud, cyfraniad enfawr at lyfryn gwybodaeth y Robiniaid ac roedd ei gymorth yn hynod werthfawr i mi, fel Cydlynydd Gwirfoddolwyr newydd ei benodi pan ymunais â'r tîm yn gynharach eleni. Mae gan gydweithwyr Ed feddwl mawr ohono ac ato ef y byddant yn troi'n gyntaf os bydd angen cymorth." Yn ogystal â'i rôl fel tywysydd, mae Ed yn wirfoddolwr ward yn yr Adran Pelydr-X. Dechreuodd Ed weithio ar sifft nos Wener yn rheolaidd, a bydd eraill yn galw arno yn aml i gamu i'r adwy pryd bynnag bydd angen.

Mae Diane Manuel-Jones, Goruchwyliwr Swyddfa'r Adran Pelydr-X yn cytuno mai cydnabyddiaeth gwbl haeddiannol i Ed yw hyn.

Dywedodd: "Mae staff yn yr adran Radioleg yn adnabod Ed ers nifer o flynyddoedd erbyn hyn a galla' i ddweud yn onest ei fod yn gaffaeliad llwyr i'n hadran gyda'i groeso a gwên siriol, gan roi cymorth y mae gwir ei angen o ran cyfeirio'r holl gleifion at ardaloedd yn yr Adran Radioleg. Rydw i'n gwybod os bydda' i'n e-bostio Ed neu'n ei ffonio, hyd yn oed ar fyr rybudd iawn, y byddai Ed yn ceisio ein helpu ac yn rhoi cymorth angenrheidiol o ran cyfeirio cleifion yn yr Adran Radioleg." Pan wnaeth pandemig Covid-19 atal y Robiniaid rhag cael gwirfoddoli yn yr ysbyty, cyn gynted ag y caniatawyd i Ed wneud hynny, fe wnaeth daro ei enw i lawr fel gwirfoddolwr y cyhoedd yn y ganolfan frechu, ac mae'n parhau i weithio ar foreau Sadwrn yng Nghanolfan Frechu Catrin Finch ar gyfer rhaglen y pigiad atgyfnerthu. Ychwanegodd Julie: "Mae Ed yn llysgennad gwych dros y Robiniaid ac mae ei ymrwymiad i wirfoddoli'n anhygoel. A dweud y gwir, gwnaeth Ed ymddangos unwaith ar raglen newyddion ITV Cymru, lle siaradodd am werth gwirfoddoli gyda'r Robiniaid, gan hyd yn oed ddisgrifio ei hun fel 'system llywio â lloeren ar ffurf dyn'. Mae'n

parhau i roi ei gymorth i eraill yn gyson ac mae bob amser yn barod ac yn fodlon camu i'r adwy pryd bynnag a lle bynnag bo angen help.

Dywedodd Claire Chapman, o Fferyllfa Rowlands sef noddwr y wobr: “Mae gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad enfawr i’r GIG. Roedd yn bleser gennym gefnogi’r wobr hon i ddathlu nid yn unig ymdrechion y rhai ar y rhestr fer, ond pawb sy’n gwneud cyfraniad gwirfoddol i wasanaethau a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

“Llongyfarchiadau i Ed ar ei gyfraniad arbennig i Ysbyty Maelor Wrecsam.”