Mae Gwasanaeth Trosglwyddo Gofal Critigol, a fydd yn gyfrifol am drosglwyddo'r cleifion mwyaf difrifol wael a rhai sydd wedi'u hanafu'n fwyaf difrifol i ganolfannau arbenigol i gael triniaeth, wedi cael ei lansio yng Ngogledd Cymru.
Mae Gwasanaeth Trosglwyddo Gofal Critigol penodol i Oedolion Cymru (ACCTS) yn wasanaeth symudol newydd sydd wedi'i leoli yn Ysbyty Gwynedd, Bangor. Bydd yn sicrhau y bydd cleifion sy'n ddifrifol wael neu wedi'u hanafu'n ddifrifol ac sydd eisoes mewn ysbytai ledled y rhanbarth yn cael eu trosglwyddo'n brydlon i ganolfannau arbennig i gael triniaeth a gofal dwys arbenigol.
Bydd y tîm hefyd yn gyfrifol am symud cleifion i ysbyty yn nes at eu cartref pan na fydd arnynt angen rhagor o ofal arbenigol.
Ariennir y gwasanaeth gan Lywodraeth Cymru, ac mae ganddo dîm dan arweiniad meddyg ymgynghorol sydd â staff clinigol penodedig â'u cerbydau a'u hoffer eu hunain.
Dywedodd Mike Slattery, Arweinydd Clinigol Ymgynghorol dros ACCTS yng Nghymru: "Mae lansio'r gwasanaeth hwn ledled Gogledd Cymru, yn dilyn lansio'r gwasanaeth yn Ne Cymru ym mis Awst, yn brofiad cyffrous iawn i ni.
"Bydd sefydlu'r gwasanaeth hwn yn fuddiol i gleifion ac i'r gwasanaeth iechyd ehangach.
"Yn flaenorol, pe bai ar glaf angen triniaeth mewn canolfan arbenigol oddi allan i Ogledd Cymru, byddai angen defnyddio ambiwlans, a byddai angen i feddyg a nyrs fynd gyda'r claf, a fyddai'n lleihau unrhyw darfu i'r ysbyty.
“Nawr mae gennym ni'r gwasanaeth penodedig hwn yn ei le, ac mae'n golygu fod gennym ni dîm arbenigol ar gael i gludo'r claf a gofalu amdano yn ystod y daith i'w gyrchfan. Mae gennym ni ein cerbydau ein hunain, sy'n golygu nad oes angen i ni ddefnyddio ambiwlans, ac nid oes angen i staff fynd o'u Huned Gofal Dwys gyda'r claf.
"Mae gofal critigol yn broses yn hytrach na lleoliad, a thrwy gyfrwng y gwasanaeth hwn, gallwn ni bellach ddarparu uned gofal critigol symudol sydd â thîm arbenigol penodol yn darparu gofal dwys i gleifion wrth eu trosglwyddo."
Gobeithir y bydd y gwasanaeth newydd hwn hefyd yn denu meddygon newydd o bob cwr o'r wlad i weithio yng Ngogledd Cymru.
Dywedodd Christopher Shaw, Rheolwr Gwasanaeth ACCTS: "Mae cael cyfle i sefydlu'r gwasanaeth hwn yn brofiad cyffrous iawn i ni, ac ni fyddai wedi bod yn bosibl heb y gefnogaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Llywodraeth Cymru.
"Yn ogystal â darparu gwasanaeth trosglwyddo i'n cleifion gwaelaf, gallwn ni hefyd gefnogi'r Bwrdd Iechyd â'r gwaith o drosglwyddo cleifion i wahanol ysbytai pan fydd arnynt angen lle ychwanegol ym mhob safle.
"Rydym ni eisoes wedi cael diddordeb cryf yn y gwasanaeth ACCTS gan glinigwyr o bob cwr o'r DU ac rydym ni'n gobeithio y bydd sefydlu'r gwasanaeth hwn yng Ngogledd Cymru yn arwain at ddenu meddygon, nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd hynod fedrus i ddod i weithio gyda ni."
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan: “Rwy’n falch o weld y gwasanaeth trosglwyddo gofal critigol penodol i oedolion yn dechrau yn y Gogledd. Mae’n rhan bwysig o’n cynlluniau i wella gofal critigol i oedolion.
“Fel gyda systemau gofal iechyd eraill, mae angen inni gyflymu’r newidiadau mewn gofal critigol i sicrhau bod gennym y gwasanaethau cywir yn y lle cywir ar gyfer y rheini sy’n ddifrifol wael.
“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i adnabod a chydnabod yr ymroddiad a’r ymrwymiad a ddangoswyd gan bawb sydd wedi gweithio mewn amgylchiadau anodd iawn ym maes gofal critigol yn ystod y deunaw mis diwethaf – diolch am eich gwaith caled, eich proffesiynoldeb a’ch trugaredd.
“Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi’r Datganiad Ansawdd ar gyfer Gofalu am Gleifion Difrifol Wael, sy’n amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer gwella gwasanaethau.”