Mae gwasanaeth iechyd a lles sy'n gwella bywydau trigolion yn HMP Berwyn ar restr fer gwobr fawreddog.
Mae'r gwasanaeth wedi'i gynnwys ar y rhestr fer yn y categori Cynllun Gwasanaeth Cymuned neu Ofal Cychwynnol - Gogledd / Canolbarth/Dwyrain yng Ngwobrau’r Health Service Journal eleni sy'n cydnabod y sefydliadau, timau a'r bobl gorau yn y GIG.
Mae'r gwasanaeth wedi bod yn weithredol am dros ddwy flynedd ac mae wedi derbyn adolygiadau cadarnhaol gan archwiliad Arolygiaeth Carcharadai Ei Mawrhydi.
Dywedodd Simon Newman, Pennaeth Gofal Iechyd ar gyfer BIPBC yn HMP Berwyn yn Wrecsam: "Mae carcharwyr yn grŵp sy'n cael eu cau allan yn gymdeithasol, gyda chyfradd uchel o gymlethdodau corfforol, iechyd meddwl, hunan niwed a marwolaethau a achosir gan y bobl eu hunain.
"Mae cydrannau gwasanaethau gofal iechyd i garchardai unigol yn aml yn cael eu comisiynu gan nifer o ddarparwyr ac asiantaethau gwahanol. Mae hyn yn ei gwneud yn anoddach cytuno ar amcanion gwasanaeth ar y cyd a darnio gwasanaethau.
"Ein huchelgais oedd darparu gwasanaeth iechyd a lles sydd wedi'i integreiddio'n llawn a'i reoli'n aml-broffesiynol ar gyfer HMP Berwyn, gan ganolbwyntio ar wneud y mwyaf o les corfforol a meddyliol dynion, ac i wneud hyn yn ddiogel, yn effeithiol ac yn effeithlon."
Mae'r gwasanaeth hefyd yn darparu hyfforddiant rheolaidd i'n swyddogion carchar ac mae wedi cyflwyno rhaglen o Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i bron 100 o staff.
Mae lleoliadau hyfforddiant ar gyfer ystod eang o weithwyr proffesiynol gofal iechyd hefyd yn cael eu darparu gyda'r nod o helpu i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o staff iechyd y carchar a dileu unrhyw rwystrau neu stigma yng ngofal y rhai sydd yn y carchar.
Ychwanegodd Mr Newman - "Er mwyn gwella ymgysylltiad â'r cleifion, mae'r gwasanaeth yn cyflogi Swyddog Ymgysylltu â Defnyddwyr Gwasanaeth sy'n cefnogi dynion yn y carchar sy'n gweithio fel Mentoriaid Cymheiriaid, darpariaeth llinell gymorth ffôn iechyd a lles, sy'n cael ei staffio gan drigolion a hwyluso grwpiau sy'n canolbwyntio ar y claf."
Drwy gydol y broses cynllunio prosiect ac ers i'r gwasanaeth fod yn gweithredu mae ymgysylltiad parhaus wedi bod gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Eiriolaeth Cymru, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi a'r Weinyddiaeth Cyfiawnder ac mae gwaith yn awr yn mynd rhagddo i rannu'r profiad a dyblygu'r model mewn carchardai eraill, yn enwedig yng Nghymru.
Ychwanegodd Mr Newman: "Rydym yn falch iawn ein bod ar y rhestr fer ar gyfer y wobr genedlaethol hon ac i gael ein cydnabod am yr hyn rydym wedi'i gyflawni hyd yma.
"Mae'r Bwrdd Iechyd wedi darparu gwasanaeth iechyd a lles cynhwysfawr sydd wedi'i integreiddio'n llawn i HMP Berwyn, sy'n unigryw i'r DU, o ran cynllun a gweithrediad. O fewn y cyfnod byr mae'r gwasanaeth uchelgeisiol hwn wedi bod yn gweithredu, rydym wedi gweld budd sylweddol i gleifion, staff a rhanddeiliaid."