Bob blwyddyn, mae nifer sylweddol o gleifion yn dewis peidio â mynychu eu hapwyntiadau ysbyty. Y llynedd yn unig, bu i dros 60,000 o gleifion beidio â mynychu eu hapwyntiadau ar draws y Bwrdd Iechyd. Mae hyn yn oedi triniaeth ac yn cynyddu amseroedd aros i'r holl gleifion.
Gofynnir i gleifion a hoffent fod yn rhan o'r gwasanaeth newydd, fydd yn cael ei gyflwyno ar 1 Medi 2019.
Bydd negeseuon atgoffa yn cael eu hanfon at gleifion sydd wedi darparu eu rhifau ffôn symudol, sydd wedi'i gofnodi yn y system rheoli cleifion, gan roi manylion y diwrnod, dyddiad, amser a lleoliad eu hapwyntiad. Bydd neges destun hefyd yn annog cleifion i gysylltu os na allent fynychu mwyach, neu i aildrefnu eu hapwyntiad drwy anfon ymateb.
Bydd y gwasanaeth gwell hefyd yn caniatáu cleifion sydd ag apwyntiadau cleifion allanol gael opsiwn i barhau i dderbyn neges destun dwyieithog neu i gael y neges yn Gymraeg neu Saesneg yn unig.
Mae'r system newydd wedi cael ei chyflwyno mewn ymateb i Arolwg Gwasanaethau Cleifion Allanol a ofynnodd i gleifion i ddweud wrthym pam nad oeddent yn gallu mynychu eu hapwyntiad.
Dywedodd Sue Wood, Arweinydd Prosiect Gwella Gwasanaethau Cleifion Allanol ar gyfer Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Fe wnaethom gynnal arolwg rhwng 3 Medi 2018 drwodd i 5 Tachwedd 2018, a rannwyd ar ein gwefan, a'n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, a drwy ymgysylltu â chleifion wyneb yn wyneb yn ein hysbytai.
"Fe wnaethom dderbyn dros 2,200 o ymatebion ar-lein a phapur i'r arolwg, ac mae'r adborth wedi ein helpu i ddeall y rhesymau yn well pam nad oedd cleifion yn gallu mynychu eu hapwyntiadau.
"Ers hynny, rydym wedi bod yn gweithio'n galed i wneud gwelliannau ar y meysydd hynny y gallwn eu gwella, gyda'r negeseuon testun i atgoffa yn ddechrau'r broses hon.
"Gofynnodd cleifion i ni ychwanegu gwybodaeth ychwanegol i'r negeseuon atgoffa, ac rwy'n falch ein bod wedi gallu gwneud hyn. Er hynny, rydym wir angen ein cleifion i helpu drwy gydsynio i'r wybodaeth newydd hon.
Ychwanegodd Wendy Hughes, Arweinydd Prosiect ar gyfer y Gwasanaeth Atgoffa Ysbyty: "Fe wnaethom addasu ein neges atgoffa 24 awr sylfaenol yn ddiweddar i gael ei hanfon 48 awr cyn apwyntiad clinig y claf. Mae hyn yn caniatáu amser ychwanegol i ailddefnyddio slotiau clinigol, os nad oedd cleifion yn gallu mynychu, ac yn rhoi amser ychwanegol i gleifion wneud trefniadau.
"Yn awr fod ein staff yn gofyn i gleifion am eu cydsyniad i gymryd rhan a'u dewis iaith, Cymraeg neu Saesneg wrth dderbyn negeseuon atgoffa, rydym yn gallu cynnwys gwybodaeth ychwanegol yn y neges destun, ac yn eu dewis iaith. Bydd cleifion nad ydynt yn darparu’r wybodaeth hon, yn parhau i dderbyn ein neges ddwyieithog, sylfaenol onid ydynt wedi dewis peidio â bod yn rhan."
Mae Dr Sakkarai Ambalavanan, Ffisigwr Ymgynghorol mewn Meddygaeth Resbiradol yn Ysbyty Glan Clwyd, wedi croesawu'r gwell gwasanaeth neges destun atgoffa am apwyntiadau.
Dywedodd: "Mae negeseuon testun yn ffordd cyffredin iawn o atgoffa cleifion am apwyntiadau yn eu bywydau bob dydd, a bydd ein cleifion wir yn elwa o'r gwell gwasanaeth hwn.
"Mae rhai cleifion angen nifer o apwyntiadau ar nifer o safleoedd, felly bydd cael neges destun yn eu hatgoffa o ba ysbyty maent yn ei fynychu yn ddefnyddiol iawn.
"Bydd ein staff yn elwa ohono hefyd, gan fod llawer o amser yn mynd i alw cleifion ddyddiau cyn apwyntiadau cleifion i sicrhau eu bod yn gallu mynychu.
"Mae cleifion nad ydynt yn dod i apwyntiadau yn achosi sgil effaith, ac nid yn unig yn oedi'r driniaeth i'r cleifion hynny, ond hefyd yn oedi ein clinigau ac yn effeithio ar gleifion eraill.
"Buaswn hefyd yn annog cleifion i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl os nad ydynt yn gallu mynychu eu hapwyntiad am ba bynnag reswm. Mae hyn yn caniatáu i ni aildrefnu dyddiad ac amser mwy cyfleus iddynt, ac rydym yn gallu rhoi'r apwyntiad gwreiddiol i rywun arall."
I gofrestru ar gyfer y gwasanaeth newydd neges destun i atgoffa am apwyntiadau ewch i: https://bcuhb.nhs.wales/patients-and-visitors/hospital-appointment-reminder-service