Mae gwaith tîm gwell a dull Gogledd Cymru gyfan i drefnu llawdriniaethau wedi gweld gwelliannau sylweddol ar gyfer cleifion gyda methiant yr arennau.
O dan fodel gwasanaeth newydd ar gyfer cleifion fasgwlaidd, mae cydweithrediad gwell rhwng timau yn y tri phrif ysbyty yng Gogledd Cymru wedi lleihau nifer y bobl sy'n aros am lawdriniaeth ffistwla rhydweli-wythiennol.
Drwy wneud y mwyaf o'r adnoddau a'r amser theatr sydd ar gael, mae nifer y cleifion sy'n aros am lawdriniaeth wedi gostwng o 116 i 41 rhwng Mehefin 2019 a 2020.
Mae'r driniaeth hon yn cysylltu gwythien i rydweli i greu ffistwla, a dyma'r ffordd yr argymhellir i gleifion dialysis gael eu meddyginiaeth.
Cyn cyflwyno'r model newydd o ofal ar gyfer y gwasanaethau fasgwlaidd, roedd rhestrau aros ar gyfer cleifion a oedd angen llawdriniaeth ffistwla rhydweli-wythiennol yn cael eu rheoli ar wahân ar bob safle ysbyty.
Drwy gyfuno'r adnoddau ar draws Gogledd Cymru, mae cleifion yn cael mynediad at lawdriniaeth yn gynt, diolch i'r adnoddau a rennir.
Mae gwaith tîm gwell gyda chydweithwyr yn radioleg a neffroleg yn y tri prif ysbyty hefyd yn helpu i gyflawni canlyniadau gwell ar gyfer cleifion yn dilyn llawdriniaeth.
Dywedodd Mr Soroush Sohrabi, Cyfarwyddwr Clinigol ar gyfer y Gwasanaethau Fasgwlaidd: "Drwy weithio fel tîm ar draws Gogledd Cymru, rydym wedi gwella mynediad pawb i'r driniaeth sydd ei hangen arnynt.
"Mae'r cyflawniad hwn wedi bod yn bosib oherwydd ymdrechion cydweithredol ein llawfeddygon fasgwlaidd, Nyrsys Arbenigol Mynediad Fasgwlaidd, staff nyrsio a'r theatr a'n staff gweinyddol sy'n gweithio'n galed.
"O ddifrif, byddem wedi llwyddo i leihau nifer y cleifion sy'n aros hyd yn oed yn fwy pe na fyddai COVID-19 wedi amharu ar ein gwaith.
"Rydym yn hyderus wrth i ni gamu ymlaen y byddwn yn gallu parhau i wella gofal ar gyfer cleifion ar draws Gogledd Cymru gyda'r model gwasanaeth newydd."
Yn ogystal â gwella sefyllfa pobl sy'n aros am lawdriniaeth, mae'r tîm wedi gweithio'n galed i barhau i ddarparu gwasanaethau gyda chyn lleied o ymyriad â phosib yn ystod yr achosion COVID-19.
Parhaodd gwasanaethau llawdriniaeth fasgwlaidd i gael eu cynnal yn Ysbyty Glan Clwyd, yn un o'r pum theatr sydd wedi parhau ar agor, tra mae llawdriniaeth ffistwla rhydweli-wythiennol sy'n achosion dydd wedi parhau i gael eu cynnal yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Maelor Wrecsam.
Mae gwaith y Nyrsys Arbenigol Mynediad Fasgwlaidd yn y tri ysbyty wedi parhau hefyd, gan gefnogi cydlyniad y gwasanaeth ar draws y tri safle, yn asesu cleifion sydd angen ffistwla syml yn ogystal â darparu gofal dilynol.
Dywedodd Jo Garzoni, sef Rheolwr y Gwasanaeth Fasgwlaidd: "Drwy wneud y mwyaf o gapasiti theatr, rydym wedi gallu rheoli ein rhestr aros yn fwy effeithlon gan sicrhau bod pobl yn cael y triniaethau sydd eu hangen arnynt, yn gynt.
"Bellach, mae pobl yn cael triniaethau pan fydd eu hangen arnynt, yn hytrach na bod yn sownd ar y rhestrau aros a oedd gennym o'r blaen, oherwydd nad oedd gennym gapasiti theatr ymrwymedig i drin pawb sydd angen eu trin."
Dywedodd Mr Laszlo Papp, Llawfeddyg Ymgynghorol Fasgwlaidd a'r Arweinydd ar gyfer Mynediad Fasgwlaidd: "I gleifion, mae'n gymaint gwell i gael dialysis o ffistwla na llinell ganolog.
"Mae gwneud hyn yn lleihau'r risg o haint ac mae'n dilyn canllawiau sydd wedi eu gosod gan Gymdeithas Arennol Prydain.
"Mae'r ffordd newydd yma o ddarparu gofal mynediad a thriniaeth cyn gynted â phosib yn gwella'r ffordd mae cleifion yn derbyn dialysis ar draws Gogledd Cymru".
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gwneud buddsoddiad sylweddol i ddiogelu dyfodol y gwasanaethau fasgwlaidd yng Ngogledd Cymru.
Mae buddsoddiad mewn staff wedi cynnwys recriwtio wyth meddyg ymgynghorol fasgwlaidd, sydd wedi caniatáu rota ar-alwad 24/7 cynaliadwy i gleifion sydd angen gofal brys, a doedd hyn ddim yn digwydd o dan y model gwasanaeth blaenorol.
Agorodd theatr hybrid gyda'r dechnoleg ddiweddaraf i gefnogi'r llawdriniaeth fasgwlaidd cymhleth ar gyfer cleifion ar draws Gogledd Cymru yn 2019 yn Ysbyty Glan Clwyd.