Mae gwasanaeth unigryw sy'n helpu pobl yng Ngogledd Cymru i fyw'n iach â dementia ar restr fer ar gyfer prif wobr genedlaethol.
Mae Gwasanaeth Cymorth Dementia yr elusen Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru, y cyntaf o'i fath yng Nghymru, ar restr fer ar gyfer Gwobr Arloesiad Gofal Dementia Rhagorol yn y Gwobrau Gofal Dementia.
Mae'r gwasanaeth, sy'n cael ei gomisiynu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn cynnig ystod o gymorth personol i bobl sydd wedi cael diagnosis dementia yn ddiweddar a'u teuluoedd.
Mae hyn yn cynnwys mynediad at Gydlynydd Dementia penodol, yn ogystal â hyfforddiant, cymorth emosiynol, gweithgareddau cymdeithasol a chyfeirio at wasanaethau cefnogi yn y gymuned.
Gan weithio'n agos â Thimau Cof BIPBC, mae'r Gwasanaeth Cymorth Dementia wedi cefnogi dros 2,000 o bobl sy'n byw â dementia ers ei sefydlu yn 2016.
Mae'r Gwobrau Cenedlaethol Gofal Dementia yn cydnabod y gorau yn y sector gofal dementia, ac mae eu gwaith a'u cyfraniadau eithriadol yn gwneud gwell gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn realiti.
Bydd staff o Wasanaeth Croesffyrdd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru a BIPBC yn mynychu seremoni fawreddog yng Nghae Ras Doncaster ar 7 Tachwedd, ble bydd dros 400 o westeion yn bresennol.
Ymysg y rhai sy’n rhoi teyrnged i'r Gwasanaeth Cymorth Dementia mae Chris Roberts, sy'n 58 oed o Ruddlan, a gafodd ddiagnosis o ddementia fasgwlaidd a chlefyd Alzheimer yn 51 oed.
Mae'r cyn ŵr busnes bellach wedi dod yn hyrwyddwr mawr dros eraill sydd â’r un cyflwr trwy ei waith fel llysgennad i'r Gymdeithas Alzheimer, ac Is-gadeirydd y Gweithgor Ewropeaidd i Bobl sy'n byw â Dementia.
Dywedodd: "Mae'r prosiect hwn yn un o lwyddiannau gwych y dylai Cymru fod yn falch ohono. Mae'n rhoi ansawdd bywyd i bobl, mae'n addysgu pobl am sut i fyw gyda rhywun sy'n byw â dementia neu ofalu amdanynt, ac mae'n helpu i sicrhau nad oes angen i bobl fynd i'r ysbyty.
"Mae cael unigolyn penodol y gellir troi atynt yn golygu gallent feithrin perthynas dda gyda'r teulu ac yna mae'n haws cael yr help rydych ei angen, yn hytrach na siarad â rhywun dieithr.
"Rwy'n meddwl bod Cymru'n arwain y ffordd o ran gofalu am bobl sy'n byw â dementia ac mae'n bwysig cadw'r momentwm hynny i fynd."
Dywedodd Lesley Singleton, Cyfarwyddwr Partneriaethau BIPBC:
"Rydym yn falch iawn bod ein partneriaeth unigryw ag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru wedi cael cydnabyddiaeth cenedlaethol am yr effaith mawr mae'n ei gael ar bobl sy'n byw â dementia."
Ychwanegodd Alison Jones, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru.
"Mae ein gwasanaeth yn seiliedig ar y cynsail nad oes unrhyw un sy'n cael diagnosis o ddementia yn cael eu gadael heb gefnogaeth, ac mae'n amlwg o'r adborth rydym wedi'i gael gan bobl sy'n byw â dementia a'u gofalwyr bod y gwasanaeth yn cael effaith mawr ar eu bywydau pan maent ei angen fwyaf."
I ddarganfod mwy am waith y Gwasanaeth Croesffyrdd, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru, ewch ar http://www.nwcrossroads.org.uk/our-services/dementia-support-service