Mae pobl sy'n byw gyda COVID Hir ynghyd â thîm amlddisgyblaethol o weithwyr iechyd proffesiynol a weithiodd gyda'i gilydd i ffurfio gwasanaeth i roi cymorth i bobl sydd â'r cyflwr wedi cael eu henwebu am ddwy wobr iechyd.
Mae'r Gwasanaeth Covid Hir wedi cael ei enwebu yng nghategorïau 'Darparu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar unigolion' a 'Grymuso pobl i gyd-gynhyrchu eu gofal' yng Ngwobrau GIG Cymru eleni.
Nod y Gwasanaeth COVID Hir yw rhoi cymorth i gleifion sy'n profi effeithiau'r cyflwr, sy'n gallu effeithio'n sylweddol ar eu gallu i weithredu yn eu bywydau o ddydd i ddydd.
Caiff y gwasanaeth ei gynnal gan dîm amlddisgyblaethol o weithwyr iechyd proffesiynol, sy'n cynnwys Uwch Ymarferwyr, Seicolegwyr Iechyd Clinigol, Meddyg Teulu, Ffisiotherapyddion, Therapyddion Galwedigaethol ac Ymarferwyr Cynorthwyol. Mae'r tîm yn darparu asesiad cynhwysfawr a holistaidd o'r ffyrdd y mae Covid Hir yn effeithio ar fywydau cleifion. Mae'r tîm yn cydweithio â chleifion i gynnig ystod o gymorth ac ymyriadau, sydd wedi'u teilwra'n unigol i'w hanghenion.
Dywedodd Claire Jones, Uwch Ymarferydd Clinigol ac Arweinydd Therapi COVID Hir ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fod y tîm yn hynod falch o gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y ddwy wobr fawreddog.
Dywedodd: "Gwnaeth staff y Bwrdd Iechyd a'r Grŵp Profiad Byw o COVID Hir gydweithio i gyd-gynhyrchu ein Gwasanaeth COVID Hir.
“Ein blaenoriaeth o'r dechrau oedd datblygu a darparu gwasanaeth a fyddai'n diwallu anghenion y rhai sy'n byw gyda'r cyflwr gwanychol hwn yn briodol. O ganlyniad, mae ein gwasanaeth yn darparu gofal effeithiol, sy'n canolbwyntio ar unigolion, sydd wedi'i gynllunio i ddiwallu anghenion penodol pobl yng Ngogledd Cymru sy'n byw gyda COVID Hir.”
Ychwanegodd Dr Rachel Skippon, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol ac Arweinydd Seicoleg y Gwasanaeth COVID Hir: “Mae cymorth y Grŵp Profiad Byw o COVID Hir wedi bod yn hynod werthfawr wrth ddatblygu'r gwasanaeth ac mae'r grŵp yn parhau i weithio gyda'r bwrdd iechyd a thîm clinigol Covid Hir i lywio arfer adsefydlu holistaidd ac sy'n canolbwyntio ar unigolion.
"Gwnaethom ddysgu cymaint gan y grŵp profiad byw ac rydym yn hynod ddiolchgar am eu hamser a'u hymdrechion. Mae cydweithio â'r grŵp hefyd wedi arwain at ddatblygu ein rhaglen ymyrraeth grŵp modiwlaidd ac offeryn clinigol newydd i roi cymorth i'r rhai sy'n byw gyda Covid Hir."
Mae'r tîm wedi derbyn 1300 o gyfeiriadau ers cael ei lansio ym mis Rhagfyr 2021.
Am ragor o wybodaeth ac i gael manylion am sut i gyfeirio eich hun at y gwasanaeth, ewch i: Gwasanaeth Hunangyfeirio COVID Hir - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (nhs.wales)