Mae gwaith yn dod yn ei flaen yn dda i greu Canolfan Ddementia ac Iechyd Meddwl Oedolion integredig newydd yn Ysbyty Bryn Beryl.
Bydd y prosiect gwerth £1.6m, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, yn darparu cyfleusterau modern a phwrpasol ac amgylchedd therapiwtig addas i ddiwallu anghenion iechyd meddwl pobl hŷn a defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl oedolion.
Bydd hefyd yn un pwynt mynediad i Wasanaethau Iechyd Meddwl Pobl Hŷn ac Oedolion yn Nwyfor, sydd wedi'u gwasgaru ar draws nifer o safleoedd ar hyn o bryd.
Bydd y Gwasanaeth Dydd Asesu Dementia, Hafod Hedd, sy'n defnyddio llety dros dro yn Y Ffôr ar hyn o bryd, yn elwa ar fan eang newydd yn y ganolfan.
Dywedodd Glenys Williams, Arweinydd Tîm Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu: "Rydym wrth ein bodd gyda'r cynnydd o ran adeilad newydd Hafod Hedd ar safle Bryn Beryl.
“Yn ogystal â darparu cyfleusterau modern a chyfoes ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth dydd asesu dementia, bydd lle hefyd i gynyddu'r gwasanaethau rydym yn eu cynnig, fel grwpiau gofalwyr a sesiynau addysgu.
“Mae'r tîm cynllunio wedi'n cynnwys o'r cychwyn cyntaf, gan sicrhau bod yr uned bwrpasol hon yn cynnig amgylchedd diogel a chyfforddus i bobl sy'n byw gyda dementia.
“Mae hefyd yn cynnig darpariaeth swyddfa i'r nyrsys cymunedol a'r gweithwyr allgymorth - bydd gweithio gyda'n gilydd fel hyn am y tro cyntaf yn helpu'r tîm i weithio mewn ffordd drefnus a di-dôr, gan sicrhau dilyniant ein gofal i'n defnyddwyr gwasanaeth."
Dywedodd Iolo Jones, Dirprwy Reolwr Sir Iechyd Meddwl a Gofal Cymdeithasol Oedolion yn Ne Gwynedd, y bydd y ganolfan yn darparu ystod o wasanaethau iechyd meddwl gofal cychwynnol ac eilaidd yng nghanol y gymuned.
Dywedodd: “Pan fydd y ganolfan newydd yn agor, byddwn mewn sefyllfa i ddarparu therapi seicolegol a chlinigau i gleifion allanol gyda seiciatryddion ymgynghorol ar lefel leol yn Nwyfor ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion a Phobl Hŷn.
“Bydd y buddsoddiad hwn yn caniatáu i drigolion Dwyfor fanteisio ar wasanaethau iechyd meddwl lleol yng nghanol y gymuned.
“Bydd trigolion hefyd yn gallu manteisio ar wasanaethau iechyd meddwl yn eu hysbyty lleol, yn hytrach na theithio i Ysbyty Alltwen, lle cânt eu darparu ar hyn o bryd.
“Bydd eu lleoli yn Ysbyty Bryn Beryl yn darparu lleoliad canolog ar gyfer ein gwasanaethau yn ardal Dwyfor. Bydd y safle yn gartref i nifer o staff iechyd meddwl cymunedol a bydd yn rhoi cyfleusterau therapiwtig modern gyda phedair ystafell ymgynghori i ni, a fydd yn gwella capasiti'r gwasanaeth i roi cymorth ac ymyriadau prydlon i drigolion Dwyfor."
Dywedodd Ffion Johnstone, Cyfarwyddwr Ardal y Gorllewin ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Bydd y cyfleusterau newydd yn ein galluogi i ddarparu mwy o wasanaethau dydd i asesu pobl â phob lefel o ddementia, gan gynnwys pobl sy'n dangos ymddygiad arwyddocaol a symptomau seicolegol dementia, yn ogystal â mwy o therapi grŵp ac unigol i ddefnyddwyr gwasanaeth iechyd meddwl oedolion.
“Bydd darpariaeth swyddfa integredig hefyd ar gyfer staff Iechyd Meddwl Pobl Hŷn ac Iechyd Meddwl Oedolion yn y Gymuned ym maes Iechyd a'r Awdurdod Lleol."
Mae lleoli gwasanaethau Dementia ac Iechyd Meddwl Oedolion mewn un adeilad yn galluogi pobl i fanteisio ar yr elfen fwyaf priodol o’r gwasanaeth yn rhwydd ac yn hwylus ac mae'n cynnig dilyniant gofal.
“Bydd hyn yn ein helpu i gynyddu nifer y cleifion sy'n derbyn gofal yn eu cymunedau eu hunain gan leihau'r angen i'w derbyn i'r ysbyty. Mae integreiddio timau iechyd meddwl cymunedol gwahanol mewn un adeilad hefyd yn gwella cyfathrebu rhwng iechyd, yr awdurdod lleol a'r trydydd sector," ychwanegodd Mrs Johnstone.
Disgwylir i'r ganolfan newydd gael ei chwblhau erbyn Mawrth 2021.