1 Tachwedd, 2022
Mae Clinig Deintyddol Cymunedol newydd ar fin agor y flwyddyn nesaf yn Ysbyty Bryn Beryl.
Caeodd Clinig Deintyddol Canolfan Iechyd Yr Ala ym Mhwllheli yn 2017 oherwydd materion iechyd a diogelwch. Yna trosglwyddwyd y clinig i ddwy uned symudol yn Ysbyty Bryn Beryl.
Yn ystod yr haf, dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu clinig newydd ar dir Ysbyty Bryn Beryl a fydd yn darparu Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol llawn ar gyfer yr ardal leol.
Mae Practis Deintyddol Cymunedol yn wasanaeth cyfeirio yn unig sy’n darparu gofal deintyddol i bobl na ellir eu trin yn hawdd mewn practis deintyddol cyffredinol, fel cleifion sydd â chyflyrau iechyd penodol, anabledd dysgu neu broblem iechyd meddwl.
Dywedodd Dr Sandra Sandham, Cyfarwyddwr Clinigol Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol: “Bydd y clinig deintyddol newydd hwn yn golygu gwell mynediad i gleifion, y mae llawer ohonynt wedi gorfod teithio i glinigau Deintyddol Cymunedol anghysbell eraill i gael triniaeth a gofal.
“Mae’n bosibl bod trefniadau teithio wedi atal rhai cleifion rhag derbyn gofal yn yr ardal hon felly dylai’r clinig lleol newydd helpu gyda hyn.
“Mae’r clinig newydd hefyd yn rhoi’r gallu i ni ddarparu gwasanaethau i’n grŵp cleifion mewn cyfleusterau modern sydd wedi’u cynllunio’n bwrpasol i fodloni eu hanghenion.”
“Bydd hefyd yn rhoi’r cyfle i ni recriwtio mwy o staff.”
Bydd y Practis Deintyddol Cymunedol yn cynnig archwiliadau, pelydrau-x deintyddol, digennu a llathru, llenwadau, coronau dur gwrthstaen i blant, echdynnu a gwaith prosthetig i gleifion sydd angen cymorth ychwanegol.
Disgwylir i'r clinig newydd agor yn ystod gwanwyn 2023.
Ychwanegodd Peter Greensmith, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Deintyddol Gogledd Cymru ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae gwella mynediad lleol at ofal deintyddol yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru a’r Bwrdd Iechyd ac mae’n arbennig o bwysig i wasanaethau deintyddol cymunedol o ystyried cymhlethdod cynyddol y mathau hyn o gleifion.
“Bydd y clinig deintyddol newydd hwn yn Ysbyty Bryn Beryl yn galluogi darparu’r ystod lawn o wasanaethau deintyddol cymunedol i boblogaeth Pwllheli ac ardal ehangach Llŷn.”