Bydd y côr yn defnyddio cerddoriaeth i godi ymwybyddiaeth ac arian i gefnogi prosiectau sy’n hyrwyddo gwella iechyd emosiyol a chodi ymwybyddiaeth o gyflyrau salwch meddyliol a ffactorau all effeithio ar ein llesiant yn chwilio am aelodau newydd.
Gwahoddir pobl o Ogledd Cymru sydd dros 16 mlwydd oed I ymuno a’r côr newydd sbond yma! Bydd yn côr yn ymuno criw o gantorion talentog i godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer proseictau sy’n cefnogi pobl fregus a phobl mewn creisis drwy Elusen GIG Awyr Las.
Bydd y côr cymysg sy’n cynnwys lleisiau benywaidd a gwrywaidd yn perfformio ystod eang o gerddoriaeth glasurol a chyfoes mewn cyngherddau ar draws yr ardal yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Mae ymgyrch I CAN BCUHB yn cynnig cefnogaeth gynnar i unigolion sydd mewn creisis emosiynol ac yn annog sgyrsiau agored ar y pwnc.
Mae’r cynllun I CAN yn cynnig gwasanaeth I oedolion mewn creisis yn Adrannau Brys y dair ysbyty yng Ngogledd Cymru, yn ogystal a rhaglen I gefnogi pobl sydd a phroblemau Iechyd meddwl I ddod o hyd I a chael eu cefnogi mewn gwaith.
Mae BCUHB wedi lansio Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl a Hunan Laddiad I CAN sydd yn cael ei gynnig yn rhad ac am ddim, a bydd cefnogaeth bellach I helpu unigolion bregys mewn creisis emosiynol yn cael ei gyflwyno ar draws ein cymunedau yn ystod y misoedd nesaf.
Dywed Meinir Evans Cydlynydd Côr I CAN Awyr Las:
“Buasem wrth ein bodd croesawu unigolion sydd yn mwynhau canu ac sydd eisiau bod yn aelod o Gor sy’n cael ei ffurfio I gefnogi unigolion bregus o fewn ein cymuned.
“Cynhelir ymarfer cyntaf a sesiwn Cofrestru’r Côr dydd Sul, 19fed Ionawr 2020 yn Stiwdio 2, Galeri, Caernarfon am 2pm lle bydd cyfle i chi gyfarfod cyd-aelodau a chael eich gosod yn yr adran briodol i’ch llais.
“Bydd yr ymarferiadau yn cael eu cynnal yn Galeri bob yn ail prynhawn Sul o 2pm – 4pm (bydd dyddiadau’r ymarferiadau ar gael ar y 19eg). Edrychwn ymlaen I’ch cyfarfod bryd hynny!
Am fwy o wybodaeth am ymgyrch I CAN ewch i bcuhb.nhs.wales/i-can os gwelwch yn dda.