Neidio i'r prif gynnwy

Goroeswr a ddioddefodd ataliad y galon yn cefnogi cael diffibrilwyr cymunedol lleol a hyfforddiant CPR

06/05/21

Gan Awyr Las

Mae ciosgau ffôn ledled Gogledd Cymru yn cael eu hadnewyddu fel hybiau achub bywyd i gartrefu diffibrilwyr ar gyfer y cyhoedd (PAD) gan yr elusen 'Keep the Beats' mewn partneriaeth â chymunedau a chefnogwyr lleol.

Mae Lee Hildebrandt wedi goroesi ataliad y galon ac ef yw hyrwyddwr cyntaf yr elusen i ymddangos ar y ciosgau ffôn i atgoffa pobl y gellir achub bywydau trwy CPR a diffbrilwyr cymunedol.

Pan gafodd Lee Hildebrandt drawiad ar y galon ac ataliad ar y galon 3 mlynedd yn ôl roedd yn ddyn 47 mlwydd oed ffit iawn ac roedd newydd ddychwelyd o wyliau yng Ngwlad yr Iâ. Deffrodd ddim yn teimlo'n dda iawn yng nghanol y nos a chael ataliad ar y galon yn fuan wedi hynny. . Sylweddolodd ei wraig a'i ferch yn gyflym fod angen cymorth ar Lee ac aethant drws nesaf at eu cymydogion, oedd wedi dysgu CPR ychydig flynyddoedd ynghynt. Er eu bod wedi cael hyfforddiant ers rhai blynyddoedd roeddynt yn gallu gwneud CPR nes i'r parafeddyg gyrraedd gyda’r diffibriliwr i ail-gychwyn calon Lee.

Aethpwyd â Lee i'r ysbyty lle y dywedwyd wrtho ei fod wedi cael trawiad ar y galon, sef pibell waed wedi blocio yn y galon, a bod hynny wedi achosi nam trydanol, gan achosi iddo gael trawiad ar y galon. Arhosodd Lee yn glaf mewnol am 7 diwrnod cyn cael ei ryddhau adref.

Dywedodd Lee “Roedd fy asennau wedi cleisio ac yn brifo y dilyn y CPR ond pwy sy'n poeni am hynny? Roeddwn i jyst yn falch i fod gartref a gyda fy nheulu. "

“Roeddwn yn ffodus iawn bod rhywun o gwmpas i allu gwneud CPR; roeddwn i wedi perfformio fy niweddariad CPR blynyddol yn ddiweddar, felly roeddwn i'n barod i gynorthwyo rhywun pe bai’r angen yn codi. Feddyliais i erioed y byddai rhywun yn gwneud CPR arna i! Cyn fy nhrawiad ar y galon roeddwn yn ffit iawn, yn mynd i’r gampfa ac roeddwn yn rhedeg yn rheolaidd. Doedd gen i ddim arwyddion o gwbl bod gen i broblemau calon”.

“Yn dilyn fy nhrawiad ar y galon ac ataliad ar y galon cefais ychydig wythnosau i ffwrdd ond yn fuan roeddwn yn ôl yn y gwaith ac rwy'n dal i fwynhau mynd i'r gampfa”.

“Mae dysgu CPR yn beth da gan nad ydych chi byth yn gwybod pryd y bydd ei angen arnoch chi o bosib. Rwy'n teimlo'n freintiedig ac wedi fy nghyffwrdd gan y sylw ar y ciosgau gan fod hwn yn achos gwirioneddol agos at fy nghalon!”

Mae ‘Keep the Beats’ yn gronfa a phrosiect pwrpasol o fewn elusen GIG Gogledd Cymru, Awyr Las, sy'n darparu gwasanaethau gwell yn ychwanegol at yr hyn y mae'r GIG yn ei ariannu. Mae ‘Keep the Beats’ yn cael ei gynnal gan staff rheng flaen a chleifion cardiaidd, sy'n gwybod pa mor hanfodol yw cael mynediad at ddiffibrilwyr yn y gymuned yn ogystal â chynnig hyfforddiant CPR.

Mae Tomos Hughes BEM, Swyddog Diffibriliwr Mynediad Cyhoeddus Cymunedol Gogledd Cymru, trwy ‘Keep the Beats’, yn arwain y prosiect hwn ledled Gogledd Cymru er mwyn sicrhau y gellir achub mwy o fywydau.

“Ataliad ar y galon yw pan fydd y galon yn stopio curo. Mae pob eiliad yn cyfrif. Os na wnewch chi unrhyw beth, bydd y siawns o oroesi yn lleihau 10% bob munud. Mae perfformio CPR a defnyddio diffibriliwr cyn i'r ambiwlans gyrraedd yn dyblu'r siawns o oroesi. ” meddai Tomos.

Mae ‘Keep The Beats’ yn angerddol dros gefnogi cymuned Gogledd Cymru trwy ddarparu hyfforddiant CPR a diffibriliwr ac mae'n gofyn i bobl fod yn ymwybodol o ble mae eu diffibriliwr cymunedol agosaf a bod yn barod i “roi cynnig ar CPR ac nid cymryd pethau’n ganiataol”.

Mae ‘Keep the Beats’ mor ddiolchgar i'r holl gymunedau lleol sydd eisoes wedi helpu i osod diffibrilwyr cyhoeddus ar draws trefi, pentrefi a lleoliadau gwledig lleol.

Os hoffech wybod mwy am ddiffibrilwyr cyhoeddus yn eich cymuned, os ydych yn gwybod am flwch ffôn lleol allai gartrefu un, neu os yr hoffech fwy o wybodaeth am hyfforddiant CPR yna cysylltwch gyda Awyr Las.