Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gwneud y penderfyniad anodd i ddechrau gohirio llawdriniaethau, triniaethau ac apwyntiadau cleifion allanol nad ydynt yn rhai brys, er mwyn canolbwyntio adnoddau ar ofalu am gynnydd disgwyliedig mewn cleifion Covid-19 y mae arnynt angen gofal ysbyty. Bydd yr holl bethau hyn yn dechrau cael eu gohirio ar draws Gogledd Cymru o ddydd Iau 19 Mawrth.
Bydd y Bwrdd Iechyd yn cysylltu â phob claf y mae eu gofal, triniaeth neu apwyntiad disgwyliedig wedi'u gohirio.
Gofynnwn i gleifion beidio â chysylltu â'n hysbytai neu adrannau er mwyn canfod p'un a yw eu triniaeth wedi'i gohirio. Bydd hyn yn sicrhau bod modd i’n staff ganolbwyntio ar baratoi i ofalu am gynnydd disgwyliedig mewn cleifion sydd â Covid-19.
Byddwn yn blaenoriaethu'r cleifion hynny ar draws Gogledd Cymru y mae arnynt angen y gofal mwyaf brys, er enghraifft, cleifion sydd ag angen triniaeth ar gyfer canser.
Dywedodd Simon Dean, Prif Weithredwr Dros Dro: "Fel rhan o'n paratoadau i ofalu am gynnydd disgwyliedig yn nifer y cleifion sydd â Covid-19, rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd iawn i ddechrau gohirio llawdriniaeth ac apwyntiadau cleifion allanol nad ydynt yn rhai brys. Mae hyn yn unol â chanllawiau cenedlaethol.
Dywedodd Dr David Fearnley, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol: “Gwyddom fod llawer o bobl yn disgwyl cael triniaeth neu archwiliad dros yr wythnosau sydd i ddod, ac mewn rhai achosion, maent eisoes wedi bod yn aros cryn amser. Mae'n wirioneddol ddrwg gennym am unrhyw anghyfleustra, gofid neu anghysur a allai gael eu hachosi gan y penderfyniad hwn.
“Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i flaenoriaethu cleifion sydd â'r angen mwyaf brys am ofal.
“Rydw i am ddiolch i bobl ar draws Gogledd Cymru am eu cefnogaeth a'u dealltwriaeth barhaus o ran yr heriau digynsail yr ydym yn eu hwynebu i fynd i'r afael â Covid-19.
“Gofynnwn i chi barhau i ddilyn y cyngor a'r arweiniad cenedlaethol a roddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ogystal ag edrych ar wybodaeth leol am argaeledd gwasanaethau a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd."