Mae fferyllwyr yn un o gyrchfannau mwyaf poblogaidd twristaidd Cymru yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu i ateb y galw digynsail am wasanaethau gofal iechyd dros fisoedd yr haf.
Gyda chyfyngiadau COVID-19 wedi eu llacio, mae ymwelwyr wedi heidio i'r Ben Llŷn gyda’r nifer fwyaf erioed o dwristiaid yn ymweld yr haf hwn.
Mae fferyllfeydd ledled Gogledd Cymru wedi bod yn chwarae eu rhan i leihau effaith twristiaeth ar wasanaethau lleol y GIG. Mae pob fferyllfa'n gallu cyflenwi meddyginiaethau rheolaidd brys i dwristiaid sydd wedi anghofio eu meddyginiaethau gartref.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr hefyd wedi galluogi ymwelwyr i gael mynediad at y cynllun mân anhwylderau o fewn fferyllfeydd sy'n rhoi cyngor ac arweiniad arbenigol ynghylch trin cyflyrau cyffredin a'u symptomau.
Yn ardal Dwyfor derbyniwyd cyllid gan y Clwstwr Meddygon Teulu lleol, er mwyn darparu cymorth fferyllol ychwanegol mewn nifer fechan o fferyllfeydd i alluogi twristiaid i gael gafael ar gymorth amserol a phriodol ar gyfer ystod o gyflyrau llym trwy'r cynllun rhagnodi annibynnol (independent prescribing scheme).
Mae'r cynllun hwn yn galluogi fferyllwyr i ysgrifennu presgripsiynau ar gyfer anhwylderau llai, gan gynnwys heintiau ar y glust, y trwyn a'r gwddf, cyflyrau croen a heintiau wrinol.
Yn ystod mis Gorffennaf ac Awst cynhaliwyd oddeutu 850 o ymgynghoriadau rhagnodi annibynnol gan fferyllwyr ardal Llŷn, ac roedd ymwelwyr yn cyfrif am tua hanner y rhain.
Mae hyn wedi helpu i ostwng y niferoedd sy’n mynychu Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Bryn Beryl a chaniatau mynediad i parhaus at wasanaethau meddygon teulu a fferyllfeydd i’r bobl leol.
Nod Llywodraeth Cymru yw ymestyn y cynllun rhagnodi annibynnol i bob fferyllfa yng Nghymru erbyn 2030.
Dywedodd y fferyllydd Llŷr Hughes, o Fferyllwyr Llŷn Cyf, fod yr haf hwn wedi bod y prysuraf iddo gofio, wrth i ymwelwyr heidio i'r ardal yn fwy nag erioed.
“Mewn ardal fel Abersoch mae’r boblogaeth yn codi o oddeutu 1,500 o drigolion i dros 20,000 yn anterth yr haf,” esboniodd.
“Mae'n anochel y bydd angen i ganran fechan o'r bobl yma weld gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.
“Roeddem yn gwybod y byddai’r haf hwn yn ddigynsail oherwydd bod llai o bobl yn cael gwyliau dramor, felly aethom at ein cydweithwyr yn ein clwstwr meddygon teulu i sicrhau ein bod wedi paratoi’n dda.
“Trwy fuddsoddi ychydig o arian ychwanegol rydym wedi gallu gweld llawer mwy o dwristiaid sydd angen cefnogaeth ar gyfer eu hanghenion iechyd. Mae hyn wedi helpu i leihau pwysau ar wasanaethau gofal cychwynnol eraill ac ysbytai, er mwyn cadw gwasanaethau ar gael i bobl leol. ”
Mae Llŷr yn annog twristiaid a phobl leol i wneud gwell defnydd o'r ystod o gefnogaeth y mae fferyllfeydd cymunedol yn eu darparu.
Meddai: "Dylid ystyried fferyllfeydd cymunedol yn y lle cyntaf ar gyfer mân salwch a chyflyrau llai difrifol.
“Rydyn ni ar gael i ddarparu cyngor a chefnogaeth heb apwyntiad i bobl sydd ag ystod o afiechydon llai fel peswch, annwyd, dolur gwddf, mân boenau a heintiau.
“Trwy wneud gwell defnydd o’r gwasanaeth fferylliaeth gymunedol, yn aml iawn bydd anghenion pobl yn cael eu diwallu yn gyflymach, gan ryddhau apwyntiadau meddygon teulu a llefydd yn yr Adrannau Brys ac Unedau Mân Anafiadau i'r rhai sydd eu gwir angen."
I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau gofal iechyd mwyaf priodol i chi, ewch i wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: https://bipbc.gig.cymru/gwasanaethau/gwasanaethau-iechyd-lleol/