Neidio i'r prif gynnwy

Fferyllfeydd cymunedol Gogledd Cymru yn cyflwyno gwasanaeth casglu presgripsiwn 24/7

08.03.2022

Mae fferyllfeydd cymunedol yng Ngogledd Cymru yn croesawu technoleg fodern i alluogi pobl i gasglu presgripsiynau 24 awr y dydd.

Mae Fferyllfa Boots yn Abergele ymhlith y rhai cyntaf yn y rhanbarth i gyflwyno gwasanaeth cwpwrdd clo presgripsiwn awtomataidd.

Mae cleifion sy’n cofrestru ar gyfer y gwasanaeth yn derbyn neges destun â PIN unigryw, y gellir ei ddefnyddio i gasglu eu presgripsiwn yn ddiogel o gwpwrdd clo y tu allan i’r siop, 24 awr o’r dydd.

Mae’r peiriannau, sy’n cael eu hariannu â chymorth gan Lywodraeth Cymru, hefyd wedi’u cyflwyno yn fferyllfeydd Fferyllwyr Llŷn yn Nwyfor.

Mae disgwyl iddynt gael eu cyflwyno mewn nifer o fferyllfeydd eraill yn y dyfodol agos.

Y siop yn Abergele yw’r cyntaf o fferyllfeydd Boots yn y DU i gyflwyno gwasanaeth cwpwrdd clo presgripsiwn awtomataidd allanol.

Dywedodd David Eaves, Rheolwr Ardal Boots ar gyfer Gogledd Ddwyrain a Chanolbarth Cymru: “Mae tîm siop Boots yn Abergele yn falch iawn o allu darparu gwasanaeth cypyrddau clo diogel awtomataidd, un o’r cyntaf o’i fath yng Ngogledd Cymru. Mae’r gwasanaeth yn cynnig y cyfleustra i gleifion sydd wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth gasglu eu presgripsiwn pryd bynnag y dymunant - unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos, 7 diwrnod yr wythnos.

“Gall cleifion barhau i gael cymorth a chefnogaeth gan fferyllydd a thîm siop Boots yn Abergele yn ystod ein horiau agor arferol.”

Dywedodd Adam Mackridge, Arweinydd Strategol ar gyfer Fferylliaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae hon yn enghraifft wych o sut mae fferyllfeydd cymunedol yn ehangu’r ystod o wasanaethau sydd ar gael a pha mor hawdd y gall pobl gael mynediad atynt.

“Mae’r math hwn o arloesi nid yn unig yn rhoi mwy o gyfleustra i gleifion, ond hefyd yn helpu rhyddhau staff yn y fferyllfa i helpu cleifion â’u problemau iechyd.

“Rydym yn annog mwy o bobl â mân afiechydon neu gyflyrau i fanteisio ar y cyngor arbenigol rhad ac am ddim a ddarperir yn eu fferyllfa gymunedol leol, sydd fel arfer ar gael yn gyflymach na gwasanaethau eraill.

“Mae pob fferyllfa yng Ngogledd Cymru ar hyn o bryd yn gallu darparu cyngor ac arweiniad arbenigol yn rhad ac am ddim ar sut i drin cyflyrau cyffredin a’u symptomau, yn aml heb fod angen apwyntiad, gan gynnig dewis amgen cyflym a chyfleus yn lle ceisio cymorth gan feddygfa.”

I gael rhagor o wybodaeth am gael mynediad at y gwasanaethau gofal iechyd mwyaf priodol, ewch i wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: bipbc.gig.cymru/gwasanaethau/gwasanaethau-iechyd-lleol/