03.03.22
Mae camera bach, wedi’i amgáu mewn pilsen, bellach yn cael ei ddefnyddio yn Ysbyty Gwynedd i helpu canfod annormaleddau yn y coluddyn bach.
Mae Endosgopi Capsiwl yn ddelfrydol ar gyfer ymchwilio i waedu Gastroberfeddol (GI) aneglur mewn cleifion a’r rhai a allai fod â llid yn y coluddyn oherwydd cyflyrau fel clefyd seliag.
Mae’r capsiwl, sydd o faint bilsen fitamin fawr, yn cael ei lyncu gan y claf, sydd wedyn yn rhydd i fynd yn ôl i’w gwaith neu’i gartref. Ar ei thaith drwy’r oesoffagws, y stumog, a’r coluddyn bach mae’n cymryd tua 100,000 o ddelweddau, sydd wedyn yn cael eu trosglwyddo i recordydd data ar wregys.
Tua wyth awr ar ôl llyncu’r bilsen, mae’r claf yn dychwelyd i’r Adran Endosgopi lle mae’r gwregys yn cael ei dynnu a’r delweddau’n cael eu lawrlwytho a’u hadolygu gan endosgopydd clinigol. Mae’r bilsen sy’n cynnwys y camera yn un tafladwy ac yn cael ei fflysio i ffwrdd gan y claf.
Dechreuodd Adran Endosgopi Ysbyty Gwynedd gynnig y gwasanaeth tua diwedd 2019 a hyd yma cynhaliwyd tua 15 o driniaethau â’r capsiwl.
Mae Dafydd Price, sef y claf cyntaf i gael y driniaeth ddiagnostig yn yr ysbyty, wedi canmol y tîm am y gofal a gafodd yn ystod ei gyfnod yn yr adran.
Dywedodd: “Mae’n anhygoel bod y math hwn o dechnoleg yn cael ei chynnig ac rwy’n siŵr y bydd hyn o fudd i lawer mwy o gleifion fel fi.
“Roeddwn yn falch iawn o fod yn destun arbrawf i’r driniaeth ac roedd yn gyffrous i fod yn rhan o rywbeth newydd!
“Roedd y staff yn wych, fe aethon nhw drwy’r weithred gyda mi ac egluro’n llawn beth i’w ddisgwyl ac ateb fy holl gwestiynau.
“Gall fynychu’r ysbyty ar gyfer archwiliad fod yn brofiad ingol ond gwnaeth y staff bethau’n haws i mi a gwneud i mi deimlo’n gartrefol iawn, roedden nhw’n wych.”
Cyflwynwyd Endosgopi Capsiwl am y tro cyntaf yn y Bwrdd Iechyd yn Ysbyty Maelor Wrecsam cyn i’r pandemig ddechrau.
Dywedodd y Nyrs Endosgopydd, Sandra Ewing fod yr adran yn Ysbyty Gwynedd wrth ei bodd bod y gwasanaeth bellach wedi ei ymestyn ac y gallant gynnig y driniaeth ddiagnostig yma yn yr ysbyty.
Dywedodd: “Rydym yn falch iawn ein bod yn gallu cynnig y gwasanaeth hwn yn ein hysbyty, bydd yn darparu gwasanaeth gastroberfeddol hanfodol i’w cleifion yn lleol heb orfod teithio i ysbyty arall.”