Mae gwasanaeth awdioleg cymunedol sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr yn dathlu 25 mlynedd o helpu trigolion yng Nghonwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint i glywed yn glir.
Mae Cymorth Clyw, a sefydlwyd yn wreiddiol fel Gwasanaeth Cymorth Gwirfoddol ym 1994, wedi helpu pobl sy'n drwm eu clyw i fanteisio ar ofal rheolaidd.
Mae gwirfoddolwyr gyda'r grŵp yn derbyn hyfforddiant ar ofal rheolaidd ac ar waith cynnal a chadw cymhorthion clyw. Mae'r hyfforddiant yn cael ei ddefnyddio i helpu cleifion mewn 8 o leoliadau gwahanol ar draws Conwy, Sir y Fflint a Sir Ddinbych.
Mae’r grŵp, sydd â 17 o wirfoddolwyr, hefyd yn ymweld â chartrefi mewn rhai lleoliadau ar gyfer pobl nad ydynt yn gallu ymweld â'r sesiynau galw heibio.
Cafodd pen-blwydd Cymorth Clyw yn 25 oed ei nodi gyda the prynhawn yn Kinmel Arms yn St George, lle gwnaeth gwirfoddolwyr y grŵp gyfarfod i ddathlu eu gwaith yn y gymuned.
Dywedodd Suzanne Tyson, Cadeirydd a Phrif Awdiolegydd: “Mae ein tîm yn hynod falch o waith ein gwirfoddolwyr Cymorth Clyw, sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i ansawdd bywyd llawer iawn o bobl.
“Mae'r cyfan yn ymwneud â sicrhau bod gwasanaethau'n hygyrch, a helpu i rymuso pobl i reoli eu hiechyd eu hunain yn eu cartrefi eu hunain.
“Mae'r tîm hefyd yn gyfle gwych i bobl â phrofiadau tebyg dderbyn cymorth yn gymdeithasol. Maen nhw'n rhwydwaith cymorth gwych i'w gilydd.
“Mae astudiaethau'n dangos, os ydych yn fwy gweithgar ar lefel gymdeithasol, bod hynny'n dod â buddion sylweddol i'ch cof a'ch lles ehangach, ac rydym yn gwybod am gyfeillgarwch sydd wedi'i ffurfio o ganlyniad i gyngor ac arweiniad a rannwyd yn y grŵp.
“Mae'r gwaith yn cydblethu â gweledigaeth ehangach y Bwrdd Iechyd o gynnig gofal yn nes at y cartref, ac rydym erbyn hyn yn edrych ar ffyrdd newydd o'i gwneud hi'n haws manteisio ar wasanaethau."
Mae'r elusen bellach yn awyddus i ymwneud â sefydliadau eraill lle gallan nhw helpu mwy o bobl sydd â nam ar y clyw, gan ddechrau gyda chartrefi nyrsio a gofal ar draws y tair sir.
Mae Aelwyn Evans, sydd wedi bod yn gwirfoddoli am dros 11 mlynedd gyda'r grŵp, yn helpu i gynnal sesiynau galw heibio yn y llyfrgelloedd yn Ninbych ac yn Rhuthun.
Dywedodd fod gwaith y grŵp yn fuddiol i gleifion a'r gwasanaeth awdioleg yn Ysbyty Glan Clwyd.
Dywedodd: “Mae o fudd i bawb a dweud y gwir, mae'n rhyddhau amser y tîm Awdioleg sy'n wych i weithio gyda nhw, fel bod modd gwneud pethau mwy technegol a chanolbwyntio ar bobl sydd angen sylw mwy penodol.
“Cyn belled ag y mae pobl sy'n byw yn Ninbych a Rhuthun yn y cwestiwn, mae'n arbed taith i'r ysbyty ac mae'n gwneud popeth yn fwy cyfleus iddyn nhw. Rydym hefyd yn ymweld â chartrefi pobl nad ydyn nhw'n gallu cyrraedd ysbyty neu glinig galw heibio.
“Mae pobl yn dod atom, efallai, gan nad yw eu cymhorthion clyw'n gweithio'n effeithlon, ac er na allwn wneud unrhyw beth technegol, yn aml, trwy eu glanhau neu osod tiwbiau newydd, mae modd datrys y broblem.
Dywedodd Gill Moylan, gwirfoddolwr arall o Fochdre, sy'n helpu i gynnal clinig galw heibio Bae Colwyn, fod agwedd gymdeithasol gwaith yr elusen yr un mor bwysig â'r gwaith cynnal a chadw.
Dywedodd Gill: “Hon fydd y drydedd flwyddyn i mi wirfoddoli. Rydw i'n drwm fy nghlyw hefyd ac rydw i wedi bod felly erioed.
“Mae'n gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl, yn enwedig i bobl a allai fod ar eu pen eu hunain gartref, nad ydyn nhw'n gallu clywed y teledu na’r ffôn, ac sydd wedi'u hynysu'n wirioneddol heb eu clyw.
“Mae'r ochr gymdeithasol mor bwysig. Yn aml, bydd pobl yn dod â ffrind a allai gael budd, ac maen nhw'n mwynhau dod atom ni am sgwrs a chael y sicrwydd hwnnw eu bod nhw'n gwneud y peth iawn