Neidio i'r prif gynnwy

Eiriolwr hydradiad, Hannah, wedi ei hysbrydoli gan ei thaid i wella cymeriant hylif

Mae gweithiwr cymorth gofal iechyd yn Ysbyty Cymuned Treffynnon yn defnyddio ei phrofiad o ofalu am aelod o'i theulu i helpu cleifion yfed digon o hylif.

Mae Hannah Ashmore wedi eirioli'r defnydd o gwpanau wedi eu dylunio'n arbennig i wella cymeriant hylif cleifion tra'u bod ar y ward.

Mae'r cwpanau wedi eu dylunio'n ergonomeg i fod yn haws eu dal, yn anos i hylif ollwng ohonynt a chynnwys dŵr ychwanegol. 

Maent hefyd yn dod gyda mewnosodiad i helpu i reoli'r llif o hylifau, yn gymorth i bobl sydd â llai o symudedd.

Cafodd Hannah ei hysbrydoli i hyrwyddo eu defnydd ar ôl gweld ei thaid, Barry, yn defnyddio bicer a ddarparwyd gan ysbyty, a doedd hi ddim yn teimlo ei fod yn annog cymeriant hylif rheolaidd.

Gall yfed digon o hylif yn yr ysbyty fod yn heriol i gleifion, yn arbennig ar gyfer oedolion hŷn a phobl sydd â dementia. 

Pan fyddant yn wael, yn aml nid yw cleifion wedi'u cymell i yfed. Gall pobl sydd ag anawsterau cof anghofio yfed digon, ac efallai nad yw eu hymennydd yn dweud wrthynt pryd maent yn sychedig. 

Dywedodd Hannah fod ei phrofiadau wedi ei hysbrydoli i wneud mwy i helpu pobl yn ei gofal i yfed digon o hylif.

Dywedodd Hannah: "Rhoddwyd bicer i fy nhaid pan oedd yn yr ysbyty a chymerais fod hynny oherwydd ei fod o oedran penodol, ond pan ymchwiliais y mater, roedd  ateb llawer gwell i'r broblem.

"Dw i ddim yn meddwl bod y biceri ysbyty arferol cystal i rai pobl hŷn, ac nid ydynt wedi'u cynllunio i'w hannog i yfed mwy.

"Mae cleifion wrth eu boddau gyda'r cwpanau sydd wedi eu dylunio'n arbennig o'u cymharu â'r rhai arferol.  Rwyf wedi gweld sut maent yn annog pobl i yfed mwy.  Er eu bod yn edrych yn un fath, mae'r cleifion yn cael mwy o hylif."

Prynwyd cyfanswm o 44 cwpan gan ddefnyddio cronfeydd ariannol yr ysbyty, a phrynwyd dyluniadau tebyg i'w defnyddio yn Ysbyty Glannau Dyfrdwy ac Uned Heddfan yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

Cynhaliodd Hannah a'r tîm ar Ward Ffynnon yn Ysbyty Treffynnon brawf peilot i weld a yw'r cwpanau wedi gwella cymeriant hylif y cleifion. 

Dros gyfnod o bedair wythnos, roedd grŵp o ddeg o gleifion a ddefnyddiodd y cwpanau yn yfed mwy o hylif ar gyfartaledd. Ni syrthiodd yr un o'r cleifion na datblygu UTI yn ystod y cyfnod, sy'n arwyddion pellach o gynnydd cymeriant hylif.

Dywedodd Rebecca McConnell, Prif Nyrs y Ward yn Ysbyty Treffynnon: "Roeddem eisiau gwneud rhywbeth i wella cymeriant hylif, a helpodd ymchwil ni i ddod o hyd i'r dyluniad penodol yma o gwpanau.

"Maent yn dod mewn dyluniadau gydag un neu ddwy handlen, ac maent yn cynnwys mwy o hylif, yn ogystal â thewychydd i helpu cleifion sydd ag anawsterau llyncu.

"Mae ffurflenni adborth cleifion wedi dangos bod cleifion yn ofnadwy o hapus gyda'r cwpanau newydd a byddant yn gofyn amdanynt yn benodol.

"Yn ystod ein peilot, dangosodd siartiau cydbwysedd hylif gynnydd yn y dŵr oedd yn cael ei yfed.  Ni syrthiodd neb yn y grŵp prawf, nid oedd heintiau, a oedd yn golygu bod y defnydd o wrthfiotigau wedi gostwng ar y ward.

"Roedd profiad y cleifion yn un cadarnhaol iawn, felly rydym yn edrych ar ffyrdd i brynu mwy a rhannu ein darganfyddiadau gydag ysbytai eraill yng Ngogledd Cymru."

Dywedodd Sue Brierley-Hobson, Pennaeth Dieteteg ar gyfer Ardal y Canol: "Mae canlyniadau diffyg cymeriant hylif i gleifion yn yr ysbyty'n sylweddol. Gall diffyg cymeriant hylif arwain at salwch pellach, dryswch a chynyddu’r siawns o syrthio. 

"Mae cleifion sydd ddim yn yfed digon o hylif yn cymryd mwy i wella o salwch ac yn aros yn yr ysbyty am gyfnod hirach.

"Dylid dathlu unrhyw fenter sy'n helpu ein cleifion i yfed mwy, felly mae'n wych clywed am y gwaith y mae Hannah, Rebecca a'r tîm yn Nhreffynnon wedi bod yn ei wneud.