Mae dynes o Lŷn wedi canmol staff yn Ysbyty Gwynedd am drawsnewid ei bywyd a'i helpu i gael ei thraed 'tani.
Cafodd Linda Jones, 55, glun newydd ym mis Awst ar ôl syrthio yn ei chartref a olygodd ei bod yn gaeth i'r tŷ ac mewn cadair olwyn.
Roedd disgwyl i'w llawdriniaeth gael ei gynnal ym mis Mawrth, ond oherwydd y pandemig COVID-19, cafodd ei ohirio.
Fodd bynnag, roedd llawfeddygon yn cydnabod bod angen triniaeth ar frys ar Linda a dechreuon nhw gynllunio ar unwaith sut i gynnal ei llawdriniaeth yn ddiogel yn ystod y cyfnod digynsail hwn.
Nid oedd Linda yn glaf arferol; cafodd drawsblaniad ysgyfaint yn 2014, ac yn 2007 cafodd ddiagnosis o Sglerosis Systemig - anhwylder hunanimiwn sy'n achosi'r system imiwnedd i ymosod ar y corff.
Gan fod Linda yn cael ei hystyried fel achos risg uchel, cymerodd ei llawdriniaeth sawl mis i'w baratoi ac fe’i cyflawnwyd gan ddau Lawfeddyg Orthopaedeg sef Mr Stuart Griffin a Mr Oliver Blocker, ac Anesthetydd sef Mr Chris Bailey a thîm theatr ac anesthetig ymroddedig.
Cynhaliodd yr Anesthetydd Ymgynghorol, Dr Suman Mitra, ei hasesiad cyn-llawdriniaeth. Sicrhaodd bod Linda wedi ei pharatoi at y llawdriniaeth a rhoddodd gynlluniau ar waith i sicrhau ei bod yn derbyn ei gofal yn yr amgylchedd fwyaf diogel posib oherwydd ei bod yn agored i niwed.
Dywedodd Linda: "Fel arfer, pan fyddaf yn cerdded i mewn i ystafell, bydd y meddyg yn cerdded allan gan mai anaml iawn y maent yn trin unrhyw un fel fi gan fod gen i gymaint o broblemau cymhleth!
"Fodd bynnag, roedd y tîm yn Ysbyty Gwynedd yn benderfynol o ddod o hyd i ffordd i'm trin a gwnaethpwyd popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod fy llawdriniaeth yn mynd rhagddi pan oedd yn ddiogel gwneud hynny.
"Mae wedi bod yn flwyddyn anodd iawn, yn enwedig gyda COVID-19, i ddechrau roeddwn i fod i gael fy llawdriniaeth ym mis Mawrth ond cafodd ei gohirio oherwydd y pandemig.
"Roeddwn mewn llawer o boen, ac er fy mod ar y rhestr warchod drwy gydol y cyfnod clo, roedd fy mhoen yn gwaethygu ac ni allwn ddod i ben mwyach ar y baglau yn unig.
"Rwy'n angerddol am gerdded, ac rydw i wrth fy modd yn mynd â'r ci am dro, ac ar y pryd gyda fy nghlun a phopeth yn digwydd, roeddwn i'n meddwl tybed a fyddwn i byth yn gallu gwneud hynny eto."
Dywedodd Mr Stuart Griffin, Llawfeddyg Ymgynghorol Orthopaedeg: "Roedd Linda yn glaf risg uchel ond roedd angen triniaeth frys arni am ei bod yn colli ei hannibyniaeth yn ei chartref ei hun oherwydd ei chyflwr.
"Yn ystod y pandemig, rydym angen sicrhau ein bod yn gallu darparu ychydig o wasanaethau cyfyngedig yn yr amgylchedd mwyaf diogel posib.
"Roedd angen cynllunio'r llawdriniaeth hon yn drylwyr gyda'r timau rheoli a llawfeddygol ac roedd angen cyfaddawdu ac angen i bawb dderbyn y byddai risgiau i'w cymryd.
"Llawfeddygaeth yw'r gamp tîm eithaf ar y gorau, gyda phob chwaraewr yn hanfodol i gynyddu'r siawns o gael canlyniad da."
Ychwanegodd Mr Oliver Blocker, Llawfeddyg Ymgynghorol Orthopaedeg: "Roedd hon yn ymdrech tîm gwirioneddol, roedd yn cynnwys cynllunio gyda'r anesthetyddion, nyrsys, staff theatr, ffisegwyr y frest, timau trawsblaniad mewn ysbyty arall a'r tîm fferyllfa i sicrhau ein bod yn gallu cynnal y llawdriniaeth yn y ffordd fwyaf diogel posib.
"Roedd hefyd yn cynnwys cynnal trafodaethau rheolaidd gyda Linda i sicrhau ei bod yn deall y risgiau a sut yr oeddem am gynnal y llawdriniaeth.
"Rydym yn gwerthfawrogi'r adborth gan Linda ac eisiau defnyddio'r profiadau hyn i weld sut y gallwn wneud pethau'n well yn y normal newydd hwn."
Roedd Linda, sydd bellach yn cryfhau bob dydd yn ei chartref yn Abersoch gyda chymorth ffisiotherapyddion, yn dymuno diolch i'r tîm yn Ysbyty Gwynedd am eu gofal.
Dywedodd: "Allaf i ddim diolch i'r tîm ddigon am y driniaeth a dderbyniais. Es i mewn i Ysbyty Gwynedd gyda phob ffydd a hyder yn y rheiny a oedd yn gofalu amdanaf.
"Roedd y staff nyrsio ar Ward Enlli yn wych, roeddwn yn teimlo fel fy mod i ar ward breifat, cefais fy nhrin fel tywysoges!
"Ers i mi adael yr ysbyty, rydw i wedi cael galwadau gan y tîm i wirio fy iechyd a sicrhau bod popeth yn iawn ac roeddwn i'n meddwl bod hynny'n gyffyrddiad personol iawn.
"Mae gen i ffisiotherapyddion hyfryd, Siôn Quinn a Pete Bodde, sydd wedi bod yn ymweld â fi yn fy nghartref ac wedi fy helpu i gryfhau bob dydd.
"Mae fy nghlun yn teimlo'n arbennig! Rwyf wedi treulio cymaint o amser y tu allan ac mae fy mywyd yn llawer gwell.
"Nid wyf yn credu y byddai unrhyw un yn deall ymrwymiad y staff nes eu bod wedi bod yn eu gofal, maent yn anhygoel."
Ychwanegodd Mr Griffin: "Rydym yn gwerthfawrogi bod llawer o'n cleifion yn aros am lawdriniaeth ac yn defnyddio baglau, fframiau cerdded a chadeiriau olwyn ar hyn o bryd. Rydym yn ceisio dod o hyd i'r ffordd fwyaf diogel ymlaen i gymaint o bobl ag y gallwn."