Neidio i'r prif gynnwy

Dyfarnu Statws Canolfan Ragoriaeth Tessa Jowell i Rwydwaith Lerpwl a Gogledd Cymru

Mae Rhwydwaith Lerpwl, yn cynnwys Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canolfan Walton, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canolfan Ganser Clatterbridge a Chanolfan Trin Canser Gogledd Cymru, wedi ennill statws Canolfan Ragoriaeth ar ôl asesiadau trwyadl dan arweiniad arbenigwyr o Genhadaeth Canser yr Ymennydd Tessa Jowell (TJBCM).

Dywedodd Niwrolawfeddyg Ymgynghorol Canolfan Walton, yr Athro Michael Jenkinson: Mae'n bleser gennym ni o fod wedi cael ein cydnabod fel canolfan ragoriaeth TJBCM. Mae'r tîm cyfan yn gweithio'n hynod galed i gyflwyno'r gofal cofleidiol gorau posibl i'r holl 500 o gleifion â thiwmor ar yr ymennydd a'u teuluoedd sy'n cael eu trin yng Nghanolfan Walton bob blwyddyn. Rydym yn ymroddedig i ddarparu gofal o ansawdd uchel, sy'n drugarog ac yn gyfannol yn ogystal â chynnig treialon clinigol a chyfleoedd ymchwil i gleifion - hebddynt hwy, ni fyddai triniaethau newydd a gwell yn bosibl."

Gan fod mwy na 12,000 o bobl yn derbyn diagnosis prif diwmor yr ymennydd bob blwyddyn yn y DU, mae'r dyfarniad wedi'i gyflwyno er mwyn cydnabod ysbytai am eu rhagoriaeth o ran gofal cleifion. Dan arweiniad pwyllgor o arbenigwyr yn y maes ac ymweliadau safle rhithiol, cafodd yr asesiadau eu hategu gan adborth cleifion am y gofal a gawsant. Mae'r dyfarniad hwn yn un o blith dau i gael ei roi yn y DU eleni, mae 11 o ganolfannau wedi derbyn y statws hyd yn hyn. Dyfarnwyd y statws i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Barts hefyd.

Roedd y ffordd y mae tri aelod Rhwydwaith Lerpwl yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod pobl â chanser yr ymennydd yn derbyn gofal di-dor trwy gydol yr hyn sy'n gallu bod yn daith driniaeth gymhleth iawn yn cynnwys diagnosis, llawdriniaeth, cemotherapi a/neu radiotherapi, wedi gwneud cryn argraff ar aseswyr TJBCM.

Dywedodd Dr Shaveta Mehta, Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol yng Nghanolfan Ganser Clatterbridge: "Rydym yn falch iawn bod ein hymagwedd sy'n canolbwyntio ar gleifion a'r safon uchel o ofal ynghyd â chydweithio agos rhwng timau gwahanol yn Lerpwl a Gogledd Cymru wedi cael eu cydnabod. Bydd bod yn Ganolfan Ragoriaeth ddynodedig ac yn rhan o Academi Tessa Jowell newydd yn gyfle gwych i rannu arbenigedd ac i ddysgu gan ganolfannau eraill, gan wella ymhellach safon y gofal a phrofiad pobl sydd â chanser yr ymennydd ledled y DU."

Mae statws "Rhagoriaeth" yn rhoi sicrwydd am argaeledd gofal ardderchog yn y GIG, a chydnabyddiaeth bositif i'n staff sy'n parhau i fynd gam ymhellach dros gleifion, er gwaethaf heriau'r pandemig.

Dywedodd Dr Win Soe, Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol yng Nghanolfan Trin Canser Gogledd Cymru: "Mae Canolfan Trin Canser Gogledd Cymru yn hynod falch o fod yn rhan o'r tîm a enillodd statws mawreddog Canolfan Ragoriaeth Tessa Jowell. Mae'n adlewyrchu gwaith caled ac ymrwymiad staff ar bob lefel i ddarparu cynllun gofal unigol ond sy'n gynhwysfawr i gleifion sydd â thiwmor ar yr ymennydd. Yn benodol, mae'r dyfarniad yn rhoi sylw i'r 'rhagoriaeth a'r arweinyddiaeth a arddangosir trwy gydol y llwybr triniaeth.' Mae'r ffaith bod y dyfarniad hwn wedi'i dderbyn er gwaethaf yr heriau sydd wedi codi trwy gydol y Pandemig Covid yn dyst i waith y tîm cyfan.”

Mae'r adroddiad gan TJBCM yn disgrifio bod y tîm "wedi dangos rhagoriaeth ac arweinyddiaeth ar hyd y llwybr triniaeth" a'i fod "yn falch i fod â chi fel llysgennad i rwydwaith Canolfan Ragoriaeth Tessa Jowell".

Dywedodd yr Athro Kate Bushby, a arweiniodd yr asesiad: "Mae'n bleser gen i gyhoeddi dwy Ganolfan Ragoriaeth newydd sydd wedi dangos meysydd rhagoriaeth unigryw y mae cleifion yn cael budd ohonynt. Trwy gydol 2021, rydym wedi gweld o lygad y ffynnon sut mae canolfannau wedi bod yn rhannu gwybodaeth fwyfwy a sut maent yn arloesi o ran y ffordd y maent yn cynnig gofal i gleifion. Edrychaf ymlaen at weld y datblygiadau hyn yn parhau dros yr ychydig flynyddoedd nesaf ac i weld sut bydd cleifion a'u teuluoedd yn cael mynediad at ofal sy'n gwella'n barhaus."

Dair blynedd yn ôl, rhoddodd y Farwnes Tessa Jowell ei haraith bwerus yn Nhŷ'r Arglwyddi yn cydnabod yr angen i wella triniaeth, gofal a goroesiad yn achos tiwmor ar yr ymennydd i'r holl gleifion. Ers hynny, mae TJBCM, gyda'r Athro Katie Bushby fel arweinydd y rhaglen, wedi bod yn arwain ar fenter ddynodi Canolfan Ragoriaeth Tessa Jowell - ymarfer sydd â'r bwriad o gydnabod a gwobrwyo canolfannau niwro-oncoleg am eu rhagoriaeth mewn gofal cleifion.

I gael rhagor o wybodaeth am y Genhadaeth, ewch i: https://www.tessajowellbraincancermission.org/  

Canolfannau Rhagoriaeth Tessa Jowell:

  1. Ysbytai Prifysgol Birmingham
  2. Canolfan Niwro-oncoleg Caeredin
  3. Partneriaid Iechyd y Brenin o Ysbyty Coleg y Brenin ac Ysbytai Guys's a St Thomas yn Llundain
  4. Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai addysgu Leeds (Ysbyty Cyffredinol Leeds ac Ysbyty Sant Ioan)
  5. Ymddiriedolaeth Sefydledig Ysbyty Brenhinol Salford ac Ysbyty Christie (Manceinion)
  6. Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbyty Newcastle upon Tyne
  7. Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Prifysgol Nottingham (NUH)
  8. Ysbyty Prifysgol San Siôr, Ysbyty Brenhinol Marsden ac Ysbyty Brenhinol Swydd Surrey
  9. Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai Coleg Prifysgol Llundain
  10. ‘Rhwydwaith Lerpwl’ (yn cynnwys Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canolfan Walton, Canolfan Ganser Clatterbridge a Chanolfan Trin Canser Gogledd Cymru)
  11. Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Barts