Mae cydweithwyr gofal critigol wedi talu gwrogaeth i 20 mlynedd o wasanaeth gan grŵp o nyrsys sy'n “Gymry anrhydeddus” a adawodd eu teuluoedd bron i 10,000 milltir i ffwrdd i achub bywydau yng Ngogledd Cymru.
Ymgasglodd staff o Uned Therapi Dwys Ysbyty Glan Clwyd yr wythnos diwethaf i ddathlu cydweithwyr Ffilipinaidd a ddaeth i Ogledd Cymru yn 2001.
Daethant fel rhan o ymgyrch recriwtio gan y bwrdd iechyd ar y pryd, a welodd 18 o nyrsys Ffilipinaidd yn cyrraedd Ysbyty Glan Clwyd ym mis Awst y flwyddyn honno - un o dri chyfran i gyrraedd o Ynysoedd y Ffilipinau ddwy ddegawd yn ôl.
Ymhlith y negeseuon o werthfawrogiad, fe wnaeth prif weithredwr BIP Betsi Cadwaldr, Jo Whitehead, cyfarwyddwr gofal llym yr ysbyty Neil Rogers ac arweinydd clinigol yr ITU Mr Venkat Sundaram oll dalu teyrnged i’w gwasanaeth.
Dywedodd uwch Nyrs yr ITU, Shona Hollins-Davies, ei bod hi'n bleser gweithio gyda’i chydweithwyr Ffilipinaidd, a dywedodd ei bod yn anrhydedd cael eu galw’n “ffrindiau” dros y ddwy ddegawd ddiwethaf.
Ychwanegodd: “Nid wyf yn siŵr sut na beth ddysgodd eu tiwtoriaid iddynt pan oeddent yn hyfforddi yn Ynysoedd y Ffilipinau ond byddai'n dda gennyf pe gallwn ei botelu a'i ddefnyddio ar gyfer pob claf ar bob ward.
“Maent yn wybodus, yn drefnus, yn broffesiynol ac yn fedrus ond yr un mor bwysig yw'r ffaith eu bod yn ofalgar, yn dosturiol ac yn garedig.
"Mae ein cydweithwyr Ffilipinaidd bellach yn Gymry anrhydeddus.
“Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi cael cyfnodau o lawenydd mawr a hefyd cyfnodau o dristwch mawr rhyngom, ond trwy gydol y cyfan rydyn ni wedi cefnogi ein gilydd, fel mae pob teulu da yn ei wneud.
“Ac rydym ni yn un teulu mawr hapus yn yr ITU. Gyfeillion, chi yw asgwrn cefn yr uned ac rydyn ni'n caru pob un ohonoch chi.”
Cafodd y chwe aelod o staff dystysgrif, copi o Fedal George a ddyfarnwyd i'r GIG ym mis Gorffennaf, a beiro wedi'i phersonoli.
Fe wnaeth un ohonynt, sef Bernardo ‘Boyet’ Portunova, ddweud sut y gadawodd Manila ar 16 Awst 2001, diwrnod ei 35ain pen-blwydd.
Dywedodd: “Wrth ddod yma (i'r dathliad hwn), roeddwn i'n ystyried pam wnes i aros yma. Mae'r ateb yn syml iawn - maent yn sicrhau ein bod yn rhan o'u teulu mawr. Mae hi mor syml â hynny.
“Rydych chi'n teimlo eich bod chi'n cael eich amddiffyn rhag pa bynnag heriau a allai ddod.
“Rydych chi'n gwybod bod rhywun y gallwch chi ddibynnu arno bob amser - maen nhw yno i'ch helpu chi bob amser.
“Mae wyth deg y cant ohonom a ddaeth yma 20 mlynedd yn ôl yn dal i weithio yn yr un ymddiriedolaeth, ni wnaethom erioed symud.”
Disgrifiodd Boyet sut roedd y newidiadau mewn gwaith papur a chyfrifoldeb cyfreithiol wedi gwneud y swydd yn fwy beichus i staff sy'n gweithio yn yr uned dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Datgelodd hefyd y niwed personol mawr roedd Covid wedi'i achosi i'r holl staff.
“Mae hi wedi bod yn wirioneddol anodd,” dywedodd. "Hyd yn oed nawr, rydym ni'n gwadu ychydig.
"Dros y 18 mis diwethaf, un o'r pethau anoddaf oedd colli cydweithwyr, colli ffrindiau, colli teulu.
“Hyd yn oed nawr nid oes gennym ni'r amser i alaru'n iawn oherwydd mae'n rhaid i ni barhau. Mae'n rhaid i ni ddarparu'r un lefel o ofal, ar waethaf yr heriau mawr. Mae hi wedi bod yn anodd dros ben a dweud y gwir.”
Ychwanegodd: "Pan gawsom ni'r cyfle i weithio yma, rwy'n credu ein bod ni'n eithaf da o ran ein gallu i ymdopi â sefyllfa ingol. Po fwyaf y byddwch chi'n ein gwthio ni, mwyaf yn y byd y byddwn ni'n ymdrechu.
“Efallai mai'r rheswm am hynny yw'r ffaith ein bod ni wedi cael ein magu mewn amgylchedd mor anodd o gymharu ag yma. Dyna yn ein barn ni yw un o'n rhinweddau pennaf - cydnerthedd, fyddwn ni fyth yn ildio.
“Y peth arall rydym ni'n ei gyfrannu bob amser yw ein gwenau. Rydym ni'n gwenu'n gyson.
"Efallai fod hynny'n rhan o'n genynnau, ond byddwn ni'n gwenu ac yn dal ati, beth bynnag fo'r sefyllfa.
Datgelodd Boyet ei fod wedi cael dewis symud i Ipswich neu Gonwy yn 2001.
Dywedodd: "Yn amlwg, cefais fy magu ym Manila, sy'n ddinas, a gofynnais, 'beth yw Ipswich'? 'Dinas' oedd yr ateb. Felly gofynnais 'beth yw Conwy'? 'Mae yng nghefn gwlad' oedd yr ateb, felly dywedais, 'iawn, ewch â fi yno'.
“Rwy'n credu imi wneud y penderfyniad iawn oherwydd dyma'r lle gorau i fagu fy nheulu. Mae gen i ffrindiau sy’n byw mewn dinasoedd mawr a phan ddônt i ymweld â mi, byddant bob amser yn dweud ‘rwyt ti'n byw mewn lle mor brydferth’.
"Mae'n le hyfryd, â phobl hyfryd o'ch cwmpas."
Dywedodd Mr Venkat Sundaram, arweinydd clinigol ITU Ysbyty Glan Clwyd: “Maent yn darparu'r gofal nyrsio gorau ac yn sgil eu hymroddiad a'u gwaith caled, maent wedi profi eu bod yn gaffaeliad i'r ysbyty, i'n hadran, i deulu'r ITU.”