Neidio i'r prif gynnwy

"Doeddwn i ddim yn disgwyl mynd i'r ysbyty a gadael gyda ffrind" - Bachgen a fethodd noson prom ei ysgol a gwyliau gyda'i deulu oherwydd anaf yn canmol y gofal a gafodd yn Ysbyty Gwynedd

11 Medi, 2023

Mae bachgen yn ei arddegau a fethodd fynd i'w brom ysgol oherwydd ei fod yn yr ysbyty ar ôl anaf pêl-droed, wedi diolch i aelod o staff Ysbyty Gwynedd am fynd y filltir ychwanegol iddo.

Wrth i wyliau'r haf ddechrau, roedd Brooklyn Jones yn edrych ymlaen at fynychu prom ei ysgol a mwynhau gwyliau i Tenerife. Yn anffodus, chwalwyd y cynlluniau pan gafodd Brooklyn anaf difrifol i'w goes wrth chwarae pêl-droed.

Torrodd y bachgen 16 mlwydd oed o Gaerwen ei goes a bu'n rhaid iddo fynd i'r ysbyty am lawdriniaeth.

Dyma pryd y cyfarfu â’r Cydlynydd Trawma, Petula Rees, a daethant yn ffrindiau ar unwaith.

Dywedodd Petula: "Pan gafodd Brooklyn ei dderbyn i'r ysbyty, roedd disgwyl iddo gael ei lawdriniaeth ar unwaith. Ond yn anffodus, oherwydd nifer yr achosion brys a oedd yn cael eu derbyn bryd hynny, cafodd ei lawdriniaeth ei gohirio bob dydd hyd ddiwedd yr wythnos.

"Clywais y byddai'n methu prom yr ysgol ac roedd hefyd yn poeni am ei wyliau tramor yr wythnos ganlynol.

"Yn ddealladwy, roedd o'n ofidus iawn ac yn pryderu pryd y byddai'n cael ei lawdriniaeth. Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth arbennig iddo."

Er mwyn cysuro Brooklyn, byddai Petula yn ymweld ag ef bob dydd am sgwrs, a dechreuodd eu cyfeillgarwch flodeuo. 

Dywedodd Brooklyn fod Petula wedi bod yn gefn mawr iddo drwy gydol yr wythnos ac roedd eisiau diolch iddi am fod yno iddo.

Dywedodd: "Roedd Petula yn anhygoel. Roedd hi’n dod i fy ngweld i bob dydd i ddweud wrtha i pryd y byddai'r llawdriniaeth yn debygol o ddigwydd.

"Roeddwn i'n teimlo fy mod wedi dod o hyd i ffrind go iawn yn Petula tra oeddwn i yn yr ysbyty. Fe aeth y filltir ychwanegol i wneud yn siŵr fy mod i'n iawn drwy gydol yr amser roeddwn i yno."

Tua diwedd yr wythnos, cafodd Brooklyn y newyddion y byddai'n cael ei lawdriniaeth, ar union ddiwrnod y prom.

"Roedd Brooklyn yn falch iawn o glywed y newyddion ei fod yn mynd i'r theatr ond yn anffodus, roedd yn golygu na allai fynd adref ar ôl ei lawdriniaeth a byddai'n rhaid iddo aros yn yr ysbyty am noson arall. Fodd bynnag, y noson honno, fe es i chwilio am Mr Gohl, y llawfeddyg, ac aeth i ymweld â Brooklyn a oedd yn benderfynol o fynd adref.

“Gwnaeth Brooklyn ymdrech fawr i godi o'r gwely a chafodd fynd adref. Ond cyn hynny, fe gawsom ddawns fach i ddathlu ei brom ysgol," ychwanegodd Petula. 

Roedd ei apwyntiad cyntaf ddwy wythnos ar ôl ei lawdriniaeth, a chafodd syndod pan gyflwynodd Petula fasged fawr o fferins a phethau da iddo. Ychydig wythnosau'n ddiweddarach, dychwelodd Brooklyn am apwyntiad arall. Daeth â blodau a cherdyn i ddiolch i Petula.

Dywedodd Petula: "Roedd hi'n wych gweld Brooklyn eto. Mae'n gwneud yn dda iawn ar ôl ei lawdriniaeth. Dw i'n siŵr nad ydy o'n gallu aros i chwarae pêl-droed eto a dw i'n gobeithio y caf i gyfle i fynd i'w wylio!

"Roedd yn bleser cyfarfod â Brooklyn. Mae o'n fachgen ifanc hynod a dw i'n siŵr bod ganddo ddyfodol disglair o'i flaen!"