Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad o gyfarfod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Heddiw, cynhaliodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyfarfod Bwrdd rhith. Oherwydd arweiniad y llywodraeth, nid oedd yn bosibl cynnal y cyfarfod yn gyhoeddus, fel sy'n arferol. Yn anffodus, oherwydd problemau technegol, nid oedd yn bosibl ffrydio’r cyfarfod yn fyw fel y bwriadwyd. Rydym yn ymddiheuro i’r rhai na allodd wylio’r cyfarfod. Fe wnaethom recordio’r cyfarfod a bydd ar gael drwy ein sianelau cyfryngau cymdeithasol.

Ar yr agenda oedd adolygiad y Bwrdd Iechyd o'r ddarpariaeth bresennol o wasanaethau fasgwlaidd yng Ngogledd Cymru yn dilyn aildrefnu’r gwasanaethau ym mis Ebrill 2019. Mae’r model newydd yn rhwydwaith fasgwlaidd integredig gydag Ysbyty Glan Clwyd fel y safle unigol ar gyfer llawfeddygaeth rydwelïol fawr. Mae clinigau fasgwlaidd, ymchwiliadau, diagnosteg, mynediad fasgwlaidd a thriniaethau gwythiennau faricos yn cael eu darparu ym mhob un o’r tri ysbyty cyffredinol dosbarth.

Cyflwynwyd yr adolygiad gan y Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Dr David Fearnley a'r Dirprwy Brif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth Gill Harris.

Eglurwyd sut mae buddsoddiad sylweddol mewn staff ac adnoddau ychwanegol, yn cynnwys datblygu theatr hybrid newydd gwerth £2.3m yn Ysbyty Glan Clwyd wedi cefnogi sefydlu gwasanaeth fasgwlaidd modern, sefydlog, addas i bwrpas ar gyfer poblogaeth Gogledd Cymru.

Dywedodd Dr David Fearnley: "Rydym yn cydnabod bod aildrefnu'r gwasanaeth hwn wedi peri pryder ymhlith rhai ac rydym wedi cyhoeddi adolygiad a chynllun gweithredu i fod yn agored a chlir am y gwelliannau pellach sydd eu hangen.  Rydym wedi ymrwymo i ymdrin â heriau presennol i sicrhau bod trigolion Gogledd Cymru yn cael gwasanaeth teg, diogel, o ansawdd uchel.

"Mae ein buddsoddiad yn y model newydd hwn sy'n seiliedig ar dystiolaeth, sydd wedi ei lywio a’i gefnogi gan Gymdeithas Fasgwlaidd Prydain Fawr ac Iwerddon a Choleg Brenhinol y Llawfeddygon, wedi ein galluogi i recriwtio wyth meddyg ymgynghorol fasgwlaidd. Golyga hyn fod gennym bellach rota ar-alwad 24/7 gynaladwy i gleifion sydd angen gofal brys, nad oedd gennym cyn hynny.

"Mae llwybrau clinigol ar gyfer ystod o gyflyrau wedi cael eu rhoi ar waith a'u gwella, ond rydym yn cydnabod bod mwy i'w wneud, yn enwedig i reoli cleifion â phroblemau traed oherwydd diabetes.

"Cyn aildrefnu’r gwasanaeth, roedd amseroedd aros ar gyfer rhai triniaethau, yn cynnwys triniaethau at ymlediad aortaidd, yn anghyson ar draws y Bwrdd Iechyd gan fod achosion yn cael eu trafod yn lleol. Bellach, mae cyfarfod tîm wythnosol, amlddisgyblaethol Gogledd Cymru gyfan ar gyfer rheoli pob achos cymhleth, sy'n bodloni gofynion Rhaglen Cymru ar gyfer Sgrinio Ymlediad Aortaidd yn yr Abdomen."

Ychwanegodd Gill Harris: “Mae sefydlu ac ymgorffori unrhyw wasanaethau newydd a chyflwyno ffyrdd newydd o weithio yn cymryd amser ac rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod cynnydd pellach yn cael ei wneud. Rydym yn falch o weld tystiolaeth o hyfforddiant tîm amlddisgyblaethol a rhannu dysg ar draws y gwasanaeth a chynhelir cyfarfodydd llywodraethu cyson i sicrhau bod materion a risgiau clinigol yn cael eu trafod yn  agored a gonest. Mae hyn yn arwydd o newid mewn diwylliant yn y gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar anghenion y cleifion a'r gwasanaeth.

"Rydym yn croesawu'r adborth ar y gwasanaeth a gasglwyd gan y Cyngor Iechyd Cymuned yn dilyn eu digwyddiadau ymgysylltu ac rydym yn cydnabod bod eu hadroddiad yn tynnu sylw at rai materion rydym yn eu cymryd o ddifri ac wedi ymrwymo i ymdrin â nhw.  Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda chydweithwyr o'r Cyngor Iechyd Cymuned. 

“Rydym wrthi'n ymgysylltu â staff a chleifion i wrando a dysgu o'u profiadau, a gweithredu arnynt i wneud gwelliannau pellach."

Cymeradwyodd y Bwrdd sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen, dan gadeiryddiaeth Dr Fearnley, i oruchwylio gweithredu argymhellion yr adolygiad i wasanaethau fasgwlaidd ac i ystyried y cynllun gweithredu drafft i ddynodi camau pellach ac argymell prif ddangosyddion perfformiad. 

Cytunodd y Bwrdd hefyd i gomisiynu asesiad allanol, annibynnol, amlddisgyblaethol o'r Gwasanaeth Fasgwlaidd Gogledd Cymru a ddarperir ar draws y Bwrdd Iechyd i asesu ansawdd a diogelwch y gwasanaeth a chanlyniadau cleifion. Hoffai’r Bwrdd i’r gwaith hwn ddechrau cyn gynted â phosibl a bydd yn archwilio amserlenni, fydd yn ddibynnol ar argaeledd aseswyr arbenigol yn ystod y pandemig COVID-19.

Mae'r adolygiad llawn ac atodiadau ar gael ar ein gwefan yma. Mae gwybodaeth gefndirol ar gael yma