Neidio i'r prif gynnwy

Dietegydd ymroddedig ar y rhestr fer ar gyfer prif wobr genedlaethol maeth

Mae pleidleisio ar agor erbyn hyn i Fran Allsop, dietegydd cofrestredig, sydd ar y rhestr fer ar gyfer Gweithiwr Proffesiynol Maeth Clinigol (CA) y Flwyddyn yn y gwobrau CA sydd i ddod.

Ar hyn o bryd, mae Fran yn rhannu ei hamser rhwng Ysbyty Glan Clwyd fel Dietegydd Oncoleg Arbenigol a Charchar y Berwyn yn Wrecsam, un o'r carchardai mwyaf yn y DU, lle y gwnaeth hi helpu i sefydlu gwasanaeth dieteteg pwrpasol newydd.

Yma mae hi'n derbyn cyfeiriadau dros y ffôn neu mewn clinigau wyneb yn wyneb ar gyfer ystod eang o gyflyrau yn cynnwys, rheoli pwysau, diabetes mellitus math 2, clefyd coeliag, cleifion oncoleg, gwrthod bwyd, cymorth maethol geneuol a syndrom coluddyn llidus.

Hefyd yn ddiweddar, dechreuodd Fran grŵp rheoli pwysau, y cyntaf o'i fath, i'r dynion yn y carchar ac y mae hi'n rheoli anghenion maethol a risgiau i garcharorion yn ymwneud â gwrthod bwyd. Dywedodd Fran "Sefydlais y gwasanaeth dieteteg yng Ngharchar y Berwyn sy'n cefnogi’r dynion yn y carchar. Gallai hyn fod ar gyfer pethau fel bod eisiau colli pwysau, dysgu sut i reoli eu diabetes, rheoli eu symptomau anhwylder gastrig neu’r rheiny sydd mewn perygl o ddiffyg maeth am gyngor ar ennill pwysau. Yn flaenorol, nid oedd y gwasanaeth hwn yn bodoli o gwbl yn y carchar."

Ychwanegodd "Mae fy rôl yn Ysbyty Glan Clwyd yn wahanol iawn. Rwyf yn cefnogi anghenion maethol y cleifion ar eu siwrnai ganser, yn bennaf y gofal o ganser gastroberfeddol uchaf a chleifion â chanser y pen a'r gwddf - i gynnwys rheoli porthiant tiwb, addysg ensymau pancreatig a chymorth maethol."

Dywedodd Jacqui Learoyd, ei rheolwr llinell yn y carchar: "Roedd yn rhaid i Fran ailgynllunio a gweithredu’r gwasanaeth yn effeithiol i ddarparu asesiad a gofal i 2,106 o ddynion sydd wedi eu lleoli yn y carchar."

"Mae'r dynion sy’n preswylio yng Ngharchar y Berwyn yn gwerthfawrogi yn fawr y gofal a'r driniaeth y mae hi'n ei gynnig iddynt, ac mae'r canlyniadau clinigol wedi bod yn rhagorol ar gyfer iechyd corfforol a chymdeithasol. Yn fy marn i, mae'n hi'n hawdd gweld pam mae Fran wedi cael ei rhoi ar y rhestr fer ar gyfer y wobr hon."

Mae'r Gwobrau CN yn cydnabod rhagoriaeth a chyflawniadau mewn maeth clinigol, meddygol ac iechyd.

Enwebwyd Fran gan y dietegydd Suzanne Parry yn Ysbyty Maelor Wrecsam, a ddywedodd "Â rhoi ei chyflawniadau yn y carchar ac Ysbyty Glan Clwyd o'r neilltu, y prif reswm y gwnes i enwebu Fran yw oherwydd ei hangerdd heintus ac amlwg tuag at ei rôl, a'r proffesiwn dieteteg. Does ond rhaid i chi fod yn ei phresenoldeb,

gwrando ar ei phodlediad, neu sgrolio ei thudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol am ychydig funudau, i'w brwdfrydedd a'i hymroddiad ddod yn amlwg.”

Mae Fran yn weithgar iawn ar yr holl lwyfannau cyfryngau cymdeithasol ac yn hyrwyddo ei gwaith a'r proffesiwn dieteteg ar Twitter (@franwaldock) ac Instagram (@theprisondietitian). Pleidleisiwch dros Fran yng Ngwobrau CN 2022 yma cyn i'r pleidleisio gau ar 21 Gorffennaf 2022.