Mae Dietegwyr wedi uno â banciau bwyd Conwy a Sir Ddinbych i helpu teuluoedd i baratoi prydau iach, blasus a syml.
Mae Laura Holland a Roza Jozefowicz, aelodau o dîm Dietetig Iechyd Cyhoeddus, sydd wedi’u lleoli yn Ysbyty Glan Clwyd, yn gweithio gyda banciau bwyd yn y Rhyl, Llandudno ac Abergele i helpu cleientiaid i baratoi prydau maethlon yn defnyddio bwydydd mwyaf poblogaidd y banc bwyd.
Mae’r tîm wedi ysgrifennu ryseitiau sydd wedi’i seilio ar y cynhwysion sy’n cael eu rhoi i fanciau bwyd yn fwy aml, ac wedi gweithio mewn partneriaeth gydag archfarchnadoedd lleol i gasglu rhoddion i helpu’r defnyddwyr i baratoi prydau maethlon.
Mae Laura a Roza wedi cynnal dosbarthiadau coginio ar draws Conwy a Sir Ddinbych hefyd i brofi’r ryseitiau, a dangos i bobl sut i goginio’r prydau gan ddefnyddio offer cegin bob dydd.
Cynhaliwyd y dosbarthiadau yn y The Rabbit Hole yn Llandudno a Sit and Stew ym Mae Colwyn, sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda’r Bwrdd Iechyd a banciau bwyd lleol i roi cefnogaeth, hyfforddiant a mentoriaeth i bobl leol.
Cynhaliwyd arddangosiadau yng Nghanolfan Deulu Abergele, Sŵn y Don ym Mae Colwyn a Mind Dyffryn Clwyd yn y Rhyl.
Mae eu gwaith yn rhan o ddathliadau Wythnos Dietegwyr 2019, a gafodd ei gynnal rhwng 3-7 Mehefin.
Dywedodd Roza: “Siaradom â banciau bwyd lleol a gweld pa eitemau sy’n cael eu rhoi iddynt yn fwy aml. Drwy baru bwyd tun a chynnyrch mewn pacedi gyda ryseitiau syml sy’n hawdd eu dilyn, gallwn annog teuluoedd i goginio bwyd maethlon gyda’r eitemau sy’n cael eu rhoi amlaf i’r banciau bwyd.
“Mae bagiau wedi’u creu i unigolion, cyplau a grwpiau o bedwar, ac yn cynnwys bwyd am dri diwrnod. Mae’r cardiau ryseitiau yr ydym wedi’u datblygu yn sicrhau bod y cynhwysion hyn yn mynd yn bell, gan adael bwyd ar gyfer prydau eraill a sicrhau bod cyn lleied o wastraff ag sy’n bosibl.
“Mae’r ryseitiau yn faethlon, hawdd ei ddilyn ac nid ydynt yn gofyn am unrhyw offer neu dechnegau cymhleth i’w coginio, ac yn bwysicaf oll maent yn flasus iawn.
“Mae’r gwaith hwn cymaint am helpu pobl i fagu hyder i goginio â llysiau a chynnyrch, ag ydyw o ran rhannu ryseitiau a syniadau am brydau bwyd.
“Rydym wedi cael adborth ardderchog gan y rheiny sydd wedi cymryd rhan hyd yn hyn, ac rydym yn dymuno parhau i weithio gyda’r banciau bwyd dros y flwyddyn nesaf.”
Ar draws Gogledd Cymru, cynhaliodd y dietegwyr ddigwyddiadau pobi i godi arian hefyd, lle’r oedd cydweithwyr therapïau yn Ysbyty Maelor Wrecsam, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Gwynedd yn cystadlu i bobi’r cacenni gorau.
Cafodd dros £500 o’r arian a godwyd drwy werthu’r cacenni ei roi i fanciau bwyd sydd wedi’u lleoli yn agos at yr ysbytai priodol.