Mae'r Gwasanaeth Niwrowyddorau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cael Tystysgrif Partneriaeth gan y Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor.
Rhoddir y wobr i gydnabod yn ffurfiol y berthynas partneriaeth adeiladol a llwyddiannus iawn dros nifer o flynyddoedd rhwng Niwrowyddorau BIPBC a’r Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor i wella safonau gwasanaeth ar gyfer unigolion a effeithir gan y clefyd.
Mae hyn yn llwyddiant mawr i BIPBC, gan mai dim ond Canolfannau Gofal MND a ariennir yn rhannol gan y Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor sy'n cael Tystysgrif Partneriaeth fel arfer. Mae BIPBC yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Gofal MND Lerpwl.
Dywedodd Annette Morris, Cyfarwyddwr Niwrowyddorau BIPBC: "Roeddwn yn falch o dderbyn y dystysgrif ar ran y Bwrdd Iechyd, ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio'n agos â’r Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor i wella safonau gofal i unigolion sy’n cael eu heffeithio gan Glefyd Niwronau Motor."
Dywedodd Kevin Thomas, Cynghorydd Datblygu Gofal Rhanbarthol ar gyfer y Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor: "Mae'r Dystysgrif Partneriaeth yn ffurfioli perthynas waith sydd eisoes yn agos yng Ngogledd Cymru rhwng Niwrowyddorau BIPBC a'r Gymdeithas MND, sydd wedi cyflawni cymaint.
"Mae ffurfioli'r bartneriaeth yn mynd â'r berthynas gam ymhellach gan sicrhau bod gan y gwasanaeth Cydlynu Gofal MND fynediad at arbenigedd cenedlaethol a chyfleoedd hyfforddi'r Gymdeithas MND a'i Rwydweithiau a'i Ganolfannau Gofal".
Mae Clefyd Niwronau Motor yn glefyd angheuol, sy'n datblygu'n gyflym, sy'n effeithio ar yr ymennydd a madruddyn y cefn. Mae'n ymosod ar y nerfau sy'n rheoli symudiad, ac yn golygu nad yw unigolion yn gallu symud, cyfathrebu nac anadlu yn y pendraw. Nid oes gwellhad.
Am fwy o wybodaeth am Glefyd Niwronau Motor, a'r Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor ewch i www.mndassociation.org